Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 2:00 pm
gan Sioni Size
:)
Cardi, ti wedi hito'r hoelen ar ei phen mewn steil yn fanna.
Mae gwrth imperialwyr yn cael eu galw'n hiliol o hyd am eu safbwynt. Ti'n wrth-seisnig os wyt ti'n erbyn yr ymerodraeth brydeinig, yn wrth-americanaidd os wyt ti'n gwrthwynebu i'r Unol Daleithau ymosod a manteisio ar bawb arall, yn anti-semite os wyt ti'n gweld meddiant Israel o Balesteina a'u gweithredoedd gwarthus yn ffiaidd.

Dan yr un safonau a mae'r ffyliaid yma'n cloriannu pethau mi fyddet ti'n wrth-almaenig os oeddet ti'n anghytuno hefo'r Natsiaid, ac yn wrth-Mongolaidd os nad oeddet ti'n hynod frwdfrydig o weld Attila yn chwalu drwy bawb a phopeth.

Mae rhai yn gweld y byd fel cystadleuaeth. Mae'n iawn i Brydain ac America, pobl 'ni', wneud beth bynnag mae nhw eisiau. Rhaid anwybyddu tystiolaeth o ddrwgweithred a chamymddwyn er lles y gystadleuaeth.

Mae eraill yn gwrthwynebu niweidio eraill er lles unrhyw llwyth.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 3:46 pm
gan Boris
Cardi a Sioni,

Os yw ateb Cardi wedi fy rhoi yn fy lle, sef bwdwn neges Sioni, yna hir y pery.

Mae posib parchu heddychiaeth Cardi Bach, ond mae wedyn yn anghenrhaid i ofyn beth fyddai canlyniadau heddychiaeth mewn achosion penodol.

Mae Cardi yn nodi fod fy safbwynt yn awgrymu mae lladd miliynnau o bobl ddi-niwed yw craidd fy nadl fod yr ail ryfel byd yn gyfiawn - ond beth fyddai wedi digwydd heb yr ail ryfel byd? Lladd miliynau a sefydlu trefn Natsiaidd trwy Ewrop? Wedi'r cyfan, beth ddigwyddodd i wledydd niwtral megis Rwsia, Denmarc, Norwy, Iseldiroedd? Doedd y gwledydd hyn ddim wedi cychwyn rhyfel nac sicrhau ffiniau Gwlad Pwyl ond fe wnaeth Hitler ymosod beth bynnag. Gyda pob parch at heddychiaeth, beth fyddai well? Derbyn y drefn ta amddiffyn dy wlad, dy gymuned a dy deulu?

Os yw crefydd / cred Cardi yn dweud troi y foch arall yna iawn dwi'n parchu hynny, ond ni all neb wadu hawl y gwledydd hynny fu'n destun ymosodiadau di-rybudd rhag amddiffyn eu hunain. Mae Cardi hefyd yn awgrymu fod rhyfel i gael gwared o un dyn (a Hitler sydd dan sylw fan hyn) yn beth od. Wel i mi mae unrhyw un sy'n gallu dweud peth fel hyn yn od.

Am y tro cyntaf dwi hefyd yn gweld dicter a chryn dipyn o falais mewn neges gan Cardi oherwydd fy mod yn awgrymu mae gwrth Brydeindod / Seisnigrwydd sy'n gyrru ei dadl. Wel, dwi'n dal i gredu hynny. Mae ensyniadau am Brydain y 30au yn derbyn y Status Quo yn hynod od gan un sydd ei hun yn dadlau y DYLEM fod wedi derbyn y status quo. Dadl Cardi yw na ddylid fod wedi cael WW2 - ond mae Cardi hefyd yn dadlau fod Prydain yn ddrwg gan eu bod yn gwybod fod Hitler yn ail arfogi. Wel beth oedd i fod i ddigwydd? Cais dymunol ar i Adolf Hitler ymatal rhag ail arfogi, a hynny gyda bygythiad o awr yng nghwmni heddychwr i berswadio Mr Hitler y dylai fihafio? Mae'r sgwarnog yma yn arddangos 'institutional racism' gwrth Seisnig. Piti.

O ran fy eilun addoliaeth o Brydeindod. Wel mae'na fwy o brawf o ddallineb cenedlaetholdeb Cymreig yn agweddau Cardi nac sydd yna o Brydeindod yn fy sylwadau i. Ond o ran yr ail ryfel byd gallaf ddweud y byddai cael fy ngalw yn amddiffynwr gweithredoedd llywodraeth Prdain o 1939 hyd 1945 yn gyhuddiad y byddwn yn dderbyn gyda balchder. Efallai fod Plaid Cymru oherwydd cymysgedd o wrth Seisnigrwydd, gwrth semitiaeth ac heddychiaeth wedi gwrthod cefnogi y rhyfel yn 1939/40 ond o leiaf yr oedd yna ambell aelod yn ddigon call i ymddiswyddo oherwydd fod natur y bygythiad Natsiaidd mor amlwg. :winc:

Dwi hefyd yn credu fod dadl Cardi re. HESS yn anhygoel. Beth ddylai Prydain fod wedi wendu yn 1941. Derbyn gwahoddiad Hess i ddod ar rhyfel i ben a rhoi rhwydd hynt i Hitler yn Rwsia??? Dyna oedd bwriad Hess. Os oedd y rhyfel yn Rwsia yn 'siwtio' Prydain fel mae Cardi yn ddweud yna pam ddim ymuno efo'r Almaen yn erbyn y Wladwriaeth Gomiwnyddol? Oherwydd egwyddorion efallai?

Yn olaf nol at y pwynt craidd. Oes modd cyfiawnhau rhyfel? Wel debyg ddim os ti'n heddychwr. Ond i 99% o bobl sydd ddim yn arddel heddychiaeth yna'r ateb yw oes. Os oedd Mandela yn iawn i arddel rhyfel yn Ne Affrica yna siawns fod cyfiawnhad hefyd dros WW2.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 3:50 pm
gan Boris
:?

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 3:52 pm
gan Boris
Sioni Size a ddywedodd::)
Mae rhai yn gweld y byd fel cystadleuaeth. Mae'n iawn i Brydain ac America, pobl 'ni', wneud beth bynnag mae nhw eisiau. Rhaid anwybyddu tystiolaeth o ddrwgweithred a chamymddwyn er lles y gystadleuaeth.

Mae eraill yn gwrthwynebu niweidio eraill er lles unrhyw llwyth.


Neges ddifyr Sioni. Ond o ystyried dy agweddau cadarnhaol tuag at drais yng Ngogledd Iwerddon dwi'n synnu dy fod yn gorffen ar nodyn o heddychiaeth.

Gyda llaw, ti hefyd wedi dadlau am yr angen i gael balans vis a vis UDA o fewn y byd yn yr oed sydd ohoni. Be 'di hynna blawm am gystadleuaeth?

Ac er mor ddifyr ac 'annwyl' dy sylwadau, tri ddeallt mae WW2 yw sail y drafodaeth, nid Israel neu UDA heddiw.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 4:06 pm
gan Sioni Size
Does na'm byd annwyl amdana i cariad. Dwi'n ystyried y rhai sy'n gwneud y gormesu fel baw. Dyna hanfod fy 'agwedd cadarnhaol tuag at drais yng Ngogledd Iwerddon'. Twat.

Wyt ti'n gwybod beth ydi imperialaeth?

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 4:36 pm
gan Dylan
Sioni Size a ddywedodd: ac yn wrth-Mongolaidd os nad oeddet ti'n hynod frwdfrydig o weld Attila yn chwalu drwy bawb a phopeth.


Genghis Kahn ti'n meddwl amdano 'fa'ma. ;)

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 4:45 pm
gan Sioni Size
Och bollociau, ia, wps.

Boris a ddywedodd:Neges ddifyr Sioni. Ond o ystyried dy agweddau cadarnhaol tuag at drais yng Ngogledd Iwerddon dwi'n synnu dy fod yn gorffen ar nodyn o heddychiaeth.

Gyda llaw, ti hefyd wedi dadlau am yr angen i gael balans vis a vis UDA o fewn y byd yn yr oed sydd ohoni. Be 'di hynna blawm am gystadleuaeth?

Ac er mor ddifyr ac 'annwyl' dy sylwadau, tri ddeallt mae WW2 yw sail y drafodaeth, nid Israel neu UDA heddiw.


Aha, reit, WW2. Dyna pam ddois di a Gogledd Iwerddon i fyny.

A bedi'r hefr yma am falans? Dwi'n gwrthwynebu'r Project For The New Amercian Century, Boris, cofio hwnnw? Wyt ti'n trio dweud mai'r hyn ydw i'n gofyn amdano yw gwlad arall i wneud yr union yr un peth ac America er mwyn 'cystadleuaeth'? Dwi eisiau i America stopio. Mae miliynau eraill sy'n cael eu heffeithio'n fwy uniongyrchol gan America eisiau iddyn nhw stopio.

Re: Yr ail ryfel byd.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 5:52 pm
gan pogon_szczec
Owain Llwyd a ddywedodd:
O ran diddordeb, oes gen ti broblem gyffredinol efo heddychwyr neu bobl sy'n gwrthod ufuddhau yn slafaidd i'r llywodraeth neu'r farn boblogaidd neu beth bynnag? Hyd y gwela i, tasa mwy o Almaenwyr fatha Bonhoeffer neu'r Weisse Rose neu bwy bynnag wedi gwrthsefyll y Natsiaid, mi allsai pawb yn Ewrop fod wedi osgoi goblyn o strach - ond mi oedd y rheina yn heddychwyr neu yn bradychu'r achos cenedlaethol, felly digon posibl bysech di wedi cymeradwyo penderfyniad y wladwriaeth i'w dienyddio?


Sdim byd da fi yn erbyn heddychwyr.

Dwi'n meddwl mewn sefyllfa fel yr ail ryfel byd dylen nhw gael y hawl i wrthod conscripsiwn a beidio ymladd yn uniongyrchol yn erbyn y gelyn.

Dyna beth a ddigwyddodd yn yr ail ryfel byd ym Mrydain, a ddangosodd yn glur y wahaniaeth foesol rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a'r trydedd Reich lle cawson nhw eu crogi.

Gyda llaw, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad tuag at heddychwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf am nad oedd gwahaniaeth foesol amlwg rhwng y ddau ochr. Dwi'n hoff iawn hefyd o farddoniaeth Sigfried Sassoon.

O ran y trydedd Reich, fel ym Mhrydain, daeth y gwrthwynebiad mwyaf effeithiol i'r Nasiaid nid o'r chwith ond o'r dde, o swyddogion aristogrataidd y fyddin fel Rommel, Beck a von Staffenberg, a geisiodd ladd Hitler. Gawson nhw eu crogi trwy ddefnyddio piano wire a ffilmwyd y proses er mwyn adloniant Hitler.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 6:11 pm
gan pogon_szczec
Cardi Bach a ddywedodd:
Heddychwr ydw i

Yn bersonol alla i ddim gweld cyfiawnhad i unrhyw ryfel.


Maes o ddiddordeb, fuaset ti wedi bod yn heddychwr yn y Ghetto Rising, Warszawa, 1943. Hynny yw, taset ti'n cael y dewis rhwng fynd i'r gas chambers neu ymladd yn ol, baset ti wedi dewis mynd i'r gas chambers?

Baset ti'n beirniadu'r rhai a ddewisodd ymladd yn ol?


Gellir fod wedi trin bygythiad Hitler llawer ynghynt.


Cytunaf. Ond trwy ddefnyddio trais neu fygwth defnyddio trais.

Fel heddychwr sut byddet ti'n gwrthwynebu Hitler heb ddefnyddio trais?

Dim ond dau opsiwn oedd. Defnyddio trais, neu gwneud dim. Os oes opsiwn arall gyda ti plis gweud wrthon ni.

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 12:25 am
gan Newt Gingrich
Sioni Size a ddywedodd:Does na'm byd annwyl amdana i cariad. Dwi'n ystyried y rhai sy'n gwneud y gormesu fel baw. Dyna hanfod fy 'agwedd cadarnhaol tuag at drais yng Ngogledd Iwerddon'. Twat.

Wyt ti'n gwybod beth ydi imperialaeth?


Pam o pam Sioni fod yn rhaid i ti bob tro godi'r ddadl i lefel mor soffistigedig?

Gwranda Sioni bach, beth am adael llonydd i bobl sydd am drafod pynciau wneud hynny heb dy ymdrech di i ddynwared lefti chweched dosbarth. :winc: