Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 12:28 am
gan Newt Gingrich
pogon_szczecin a ddywedodd:
Maes o ddiddordeb, fuaset ti wedi bod yn heddychwr yn y Ghetto Rising, Warszawa, 1943. Hynny yw, taset ti'n cael y dewis rhwng fynd i'r gas chambers neu ymladd yn ol, baset ti wedi dewis mynd i'r gas chambers?

Baset ti'n beirniadu'r rhai a ddewisodd ymladd yn ol?


Gellir fod wedi trin bygythiad Hitler llawer ynghynt.


Cytunaf. Ond trwy ddefnyddio trais neu fygwth defnyddio trais.

Fel heddychwr sut byddet ti'n gwrthwynebu Hitler heb ddefnyddio trais?

Dim ond dau opsiwn oedd. Defnyddio trais, neu gwneud dim. Os oes opsiwn arall gyda ti plis gweud wrthon ni.


Dyma graidd y ddadl am heddychiaeth (er 1944 oedd y Warsaw raising). Nid ymosod ar Cardi ydi bwrdwn fy neges, ond fel heddychwr mae'n rhaid i ti allu cynnig ateb fan hyn.

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 1:30 pm
gan pogon_szczec
Newt Gingrich a ddywedodd:
Gwranda Sioni bach, beth am adael llonydd i bobl sydd am drafod pynciau wneud hynny heb dy ymdrech di i ddynwared lefti chweched dosbarth. :winc:


Sdim clem da fi pam wyt ti'n ymateb o gwbl i'r ffasgydd anwybyddus ffol.

Gad llonydd iddo/iddi.

Am byth.

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 1:36 pm
gan pogon_szczec
Newt Gingrich a ddywedodd:
(er 1944 oedd y Warsaw raising).


Son am y Ghetto Rising 1943 (yr Iddewon) ydw i, nid y Warsaw Rising (y Pwyliaid) 1944 .

Dim Sioni Spart ydw i.

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 9:44 pm
gan Newt Gingrich
pogon_szczecin a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:
(er 1944 oedd y Warsaw raising).


Son am y Ghetto Rising 1943 (yr Iddewon) ydw i, nid y Warsaw Rising (y Pwyliaid) 1944 .

Dim Sioni Spart ydw i.


Derbyn dy gywiriad. Wedi darllen gormod o Norman Davies dros y Nadolig ynghylch ymdrech yr 'Home Army' yn 1944.

Re: Yr ail ryfel byd.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ion 2004 9:02 am
gan Owain Llwyd
pogon_szczecin a ddywedodd:O ran y trydedd Reich, fel ym Mhrydain, daeth y gwrthwynebiad mwyaf effeithiol i'r Nasiaid nid o'r chwith ond o'r dde, o swyddogion aristogrataidd y fyddin fel Rommel, Beck a von Staffenberg, a geisiodd ladd Hitler. Gawson nhw eu crogi trwy ddefnyddio piano wire a ffilmwyd y proses er mwyn adloniant Hitler.


Dw i'n ymwybodol o'r drefn efo von Stauffenberg a'r rheina. Er mor agos oeddan nhw wedi dod i ladd Hitler, methiant oedd y cynllun yn y pen draw, felly dw i ddim yn gweld 'effeithiol' yn air hollol addas i'w ddefnyddio yma.

'Ta waeth, dw i'n gweld dy awydd i sgorio pwyntiau gwleidyddol yma yn ddibwynt rywsut (ac onid wyt ti wedi cyfrannu rhyw sylw tebyg o'r blaen?). Be am gydnabod hunanaberth arwrol gan bobl o bob lliw gwleidyddol yn hytrach na thrio profi, am ryw reswm dw i'n methu gweld ei ddiben, fod y 'Dde' yn rhagori ar y 'Chwith' bob gafal.