Ar fore Nadoig, bydd Beagle 2yn landio ar Planed Mawrth. Mae'r llywodraeth wedi gwario bron iawn £35 miliwn ar teclyn sydd ddim mwy na olwyn beic a'i yrru fo i planed Mawrth.
Beth sydd yn gwylltio fi yw bod pobl yn meddwl bod y fath beth yn gwastraff arian ac deud ' The government should spend it on schools and hospitals'.
Be mae pawb arall yn meddwl ? Dwi'n meddwl bod anturiaeth gwyddonol fel Beagle 2 yn gwerth pob ceiniog. A'r bobl sydd yn dweud 'schools and hospitals' ddim yn gweld yn bellach na blaen eu trwynau.