RET79 a ddywedodd:Dwi'n siarad am achosion lle mae tystiolaeth anhygoel yn erbyn person, hefyd cyfaddefiad, o bosib tystion, prawf DNA, y cwbl lot lle does dim amheuaeth o gwbl am y troseddau.
Dal ddim yn 100%. 'Dydi prawf 100% o euogrwydd ddim yn bodoli.
'Does dim troi nol unwaith ti'n lladd rhywun.
Dwi ddim yn gweld pam fod cymhariaeth hefo ci yn anheg.
Pam?
Dwi ddim yn meddwl fod cloi rhywun fyny am fywyd yn gosb. Mae o'n costio lot fawr i gadw a gwarchod pobl o'r fath a siawns na fedr gadael nhw yn rhydd byth eto.
'Dw i wedi cyfeirio at dy ddadl ynglyn â'r gôst eisoes. Ond ti ddim yn meddwl bod cloi rhywun i fyny mewn cell am weddill eu hoes yn gosb? Buaswn i'n meddwl ei fod yn fwy o gosb na marwolaeth. Ti'n gorfod gwynebu yr hyn 'rwyt wedi ei wneud, a 'dydi cicio dy sodlau yn gwneud dim ddim yn brofiad pleserus. Marw ydi'r ffordd hawdd allan.
Pam ddylai'r person yna gael byw hyd y diwedd ar ol i'r person yma amddifadu bywyd i gymaint o bobl diniwed?
Fel y dywedais eisoes (ac fel yr ail-adroddwyd gan Ramirez), sut elli di gyfiawnhau'r neges bod lladd yn anghywir drwy, ym, ladd pobl? Ti ddim yn gweld hynny braidd yn anghyson?