Y gosb eithaf

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 2:18 am

Dylan a ddywedodd:Mae'n rhaid ystyried y tlodi aruthrol sy'n bodoli yn eu cymunedau a'r diwylliant treisgar sydd wedi datblygu yn sgîl hynny.


a bai pwy yw hynna? eraill mae'n siwr, ie?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 2:23 am

Ti'n rhoi'r bai i gyd am eu sefyllfa arnyn nhw? :?

Mae'r ddadl yn symud yn araf tuag at rhywbeth arall yn llwyr erbyn hyn. Ond 'dw i'n meddwl ein bod wedi mynd trwy pob pwynt posibl ynglyn â'r gosb eithaf beth bynnag a mae hwn fel arfer yn ddatlygiad naturiol yn ol fy mhrofiad personol i o ddadlau'r testun.

felly ta waeth. Wyt ti? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 2:27 am

Wel, nhw sydd wedi dewis troseddu. Dwi'n meddwl ti'n ffeindio fo'n anodd i ddeall fod pobl yn gyfrifol am y ffordd mae nhw'n byhafio gan ti wastad yn trio pwyntio'r bai at eraill. Dwi ddim yn credu ti'n gyffyrddus hefo'r syniad o gyfrifoldeb personol. Dwi ddim yn dweud fod ffactorau allanol ddim yn cyfrif ond mae lawr iddyn nhw y ffordd mae nhw'n byhafio.

Os buasai rhywun yn dweud wrthyt ti roi bys yn tan, fuaset ti'n gwneud?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 2:36 am

Na, oherwydd cefais fy magu i allu dweud bod rhoi fy mys mewn tân yn brifo.

'Dw i'n meddwl dy fod ti yn methu'r pwynt yn llwyr. Ail-adroddaf: "wyt ti'n rhoi'r bai i gyd am eu sefyllfa arnyn nhw?"

Mae pobl dlawd yn troseddu mwy. Wyt ti'n credu mai cyd-ddigwyddiad ydi hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 2:40 am

Dylan a ddywedodd:Mae pobl dlawd yn troseddu mwy. Wyt ti'n credu mai cyd-ddigwyddiad ydi hyn?


Oes tystiolaeth o hyn? Dwi ddim yn sicr mod i'n derbyn hyn gan fod pobl mwy cefnog yn gallu troseddu mewn ffyrdd eraill fel osgoi trethi etc.

Ti sydd yn rheoli y ffordd ti'n byhafio, neb arall. Mae dwyn gan berson yn torri'r gyfraith a mae'r bobl hyn yn ymwybodol o'r ffaith yma ac yn dewis mynd ymlaen hefo'r peth gan wybod beth fyddai'n digwydd os buasent yn cael eu dal a'u gwneud yn euog. Y gambl mae nhw'n cymryd yw na geith nhw eu dal.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 2:43 am

dwi ffwrdd i'r gwely , gawn gario mlaen i drafod rywbryd eto
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan mred » Gwe 26 Rhag 2003 2:47 am

Sgynna'i mo'r ynni i ymuno yn y ddadl nôl-ac-ymlaen yma'r adeg yma o'r nos, ond dwi'n sicr i mi ddeall mai'r UD oedd y wlad oedd yn dienyddio'r nifer fwyaf o blant (ar wahân i un) yn y byd. Plant y bernir nad ydynt ddigon cyfrifol i yfed alcohol am 3, 4, 5 mlynedd arall, a rhai dan anfantais feddyliol. Yn ddigon hen a chyfrifol am eu hymddygiad i gael eu dienyddio, ond nid yn ddigon hen na chyfrifol i yfed. Sut fath o ymresymu/foesoldeb ydi hyn?

Oes gennyt oedran isaf/uchaf mewn golwg, a beth am grebwyll, ac sut mae mesur hynny? Beth am yr union ddull y byddet yn ei ddefnyddio? Mi oedd dyn yn Oregon neu Washington dwi'n credu a arbedwyd rhag cael ei grogi gan ei fod mor drwm y byddai ei gorff wedi datgymalu oddi wrth ei ben. Beth fyddet ti wedi ei argymell mewn sefyllfa felly? Ac oni ddylai unrhyw ddienyddio ddigwydd yn gyhoeddus, gan ei bod yn gyfleus iawn i gymdeithas gymeradwyo dienyddio, ond yna peidio gorfod bod yn dyst iddo.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 2:47 am

RET79 a ddywedodd:Ti sydd yn rheoli y ffordd ti'n byhafio, neb arall.


'Dw i'n meddwl mai dyma'r pwynt sylfaenol sy'n peri i ni anghytuno. 'Dw i o'r farn bod yr uchod yn anghywir. 'Rydym i gyd yn hyblyg ac yn cael ein llunio gan ein hamgylchedd. Meddylia am y peth:

- pam bod plant yn aml yn cefnogi yr un timau pel-droed â'u rhieni?
- pam mai plant o ystadau tai cyngor fel arfer ydi'r rhai sy'n cambyhafio yn yr ysgol?
- pam bod crefydd/gwleidyddiaeth/egwyddorau yn aml yn cael ei basio ymlaen trwy deulu?
- pam bod plant yn prynu CDs crap?
- pam bod gan llawer o bobl obsesiwn â cholli pwysau?

etc etc etc

Pethau felly. 'Dw i ddim isio mynd oddi ar y pwynt gormod felly nid trafodaeth ddwys o'r uchod ydi'r bwriad. Dim ond ceisio dangos fy mhwynt yn well a dangos y patrwm. Allaf i ddim gweld sut elli di ddweud bod dy ffordd o feddwl yn hollol anhyblyg a nad ydyw'n gallu cael ei ddylanwadu gan ffactorau amgylcheddol. Gwnaeth Hitler job reit handi o siapio meddylfryd canran sylweddol o boblogaeth yr Almaen yn ystod y 30au er enghraifft.

(heh, yn ol Deddf Godwin, y cyntaf i grybwyll y Natsiaid sy'n colli'r ddadl ond 'dw i'n credu bod y pwynt yn dal yn ddilys)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 5:14 pm

Ti'n cyfeirio at blant sydd ddim digon hen i wybod yn well. Dwi'n cyfeirio at oedolion sydd ddigon hen i wybod yn well a sydd a'r rhyddid i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 5:39 pm

Ond mae meddylfryd pobl yn cael ei ddylanwadu gan ffactorau cymdeithasol-economaidd.

'dw i'n cytuno bod fy neges diwethaf yn wan braidd. Wrth sbio nol 'dw i ddim yn hapus iawn gydag o. Ond 'dw i dal yn pwysleisio'r pwynt.

Rho fo fel hyn: ti wedi ildio dy hun bod fy natganiad cyntaf uchod yn gywir, gyda dy 'theori' am y chwith dosbarth canol yng Nghymru.

Mae meddylfryd pobl yn hyblyg, ac yn cael ei effeithio gan ffactorau allanol. Mae'r effaith ar blant yn hynod berthnasol oherwydd dyma'r adeg pan mae pobl fwyaf hyblyg ac haws i'w dylanwadu. Mae'r ffordd 'rwyt yn cael dy fagu yn dy effeithio am weddill dy fywyd. Mae'n anhygoel dy fod yn gwrthod hyn.

Wrth gwrs ti dal yn mynd i gael cracpots sydd jyst yn cracio am ddim rheswm, ond yn aml iawn mae rhesymau am ymddygiad pobl. Mae'n bwysig deall yn ogystal â jyst dial a'u cosbi. 'Dydi hynny ddim yn datrys dim yn y tymor hir.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron