RET79 a ddywedodd:Ti sydd yn rheoli y ffordd ti'n byhafio, neb arall.
'Dw i'n meddwl mai dyma'r pwynt sylfaenol sy'n peri i ni anghytuno. 'Dw i o'r farn bod yr uchod yn anghywir. 'Rydym i gyd yn hyblyg ac yn cael ein llunio gan ein hamgylchedd. Meddylia am y peth:
- pam bod plant yn aml yn cefnogi yr un timau pel-droed â'u rhieni?
- pam mai plant o ystadau tai cyngor fel arfer ydi'r rhai sy'n cambyhafio yn yr ysgol?
- pam bod crefydd/gwleidyddiaeth/egwyddorau yn aml yn cael ei basio ymlaen trwy deulu?
- pam bod plant yn prynu CDs crap?
- pam bod gan llawer o bobl obsesiwn â cholli pwysau?
etc etc etc
Pethau felly. 'Dw i ddim isio mynd oddi ar y pwynt gormod felly nid trafodaeth ddwys o'r uchod ydi'r bwriad. Dim ond ceisio dangos fy mhwynt yn well a dangos y patrwm. Allaf i ddim gweld sut elli di ddweud bod dy ffordd o feddwl yn hollol anhyblyg a nad ydyw'n gallu cael ei ddylanwadu gan ffactorau amgylcheddol. Gwnaeth Hitler job reit handi o siapio meddylfryd canran sylweddol o boblogaeth yr Almaen yn ystod y 30au er enghraifft.
(heh, yn ol Deddf Godwin, y cyntaf i grybwyll y Natsiaid sy'n colli'r ddadl ond 'dw i'n credu bod y pwynt yn dal yn ddilys)