Ramirez a ddywedodd:Be sgenti'n ateb i'r pwynt yma gan Dylan?Dylan a ddywedodd:Sut ellid mynegi'r neges bod lladd pobl yn anghywir drwy...ladd pobl?
Boris a ddywedodd:
Craidd y ddadl, mae'n rhaid i mi anghytuno efo RET y tro hwn
Dwi'n erbyn y gosb eithaf (er yn amheus o'r modd mae'r pwnc yn tabw - da iawn maes e) gan nad wyf yn credu fod y Wladwriaeth yn uwch nac unigolion. O gael y gosb eithaf yr hyn ti'n wneud yw creu un rheol i'r wladwriaeth ac un arall i'r bobl. Os ti'n credu mae lle y wladwriaeth yw rheoli yna mae dadl dros y gosb eithaf, ond os mae gwasanaethu yw lle y wladwriaeth yna fe ddylai y wladwriaeth hefyd weithredu o fewn rheolau sy'n cael ei gosod ar ddinasyddion.
Os mai gorchymyn y wladwriaeth yw 'na ladd', yna dylai y wladwriaeth hefyd ymatal rhag lladd mewn gwaed oer.
Chris Castle a ddywedodd:Boris a ddywedodd:Os mai gorchymyn y wladwriaeth yw 'na ladd', yna dylai y wladwriaeth hefyd ymatal rhag lladd mewn gwaed oer.
Ond nid yw hyn yn gorchymyn y Wladwriaeth. MAe Llywodraeth yn dweud taw iawn yw lladd os yn gyfreithlon. Mae'n iawn Ladd Gwladwriaeth (megis Iraq) hefyd.
Dadl Leusa yn erbyn y cosb eithaf ydy'r un dwi'n derbyn er fy mod i'n cytuno â RET y mae sawl achosion lle dylen ni lladd y bastyds.
Ond y pwynt yw bod cynlleiaf o achosion lle does dim sefyllfeydd arbennig maddheuol a heb amheuaeth.
Dylan a ddywedodd:Boris a ddywedodd:(er yn amheus o'r modd mae'r pwnc yn tabw - da iawn maes e)
'Dw i ddim yn dallt be' ti'n ei feddwl fan hyn.
Boris a ddywedodd:Dwi hefyd yn teimlo fod y chwith wleidyddol sydd wedi galw am ddatblygiad democratiaeth ym mhob maes yn dawel iawn ynghylch grym democratiaeth yn y maes hwn - wedi'r cyfan pwy fydde'n betio yn erbyn pobl Prydain yn dweud ia i grogi?
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Dw i ddim yn credu mewn datblygiad democratiaeth ymhob maes- yn enwedig mewn mannau lle bydd y fot yn tueddu i wneud y mwyafrif ychydig yn hapusach a'r lleiafrif yn hollol fwcked.
Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 43 gwestai