Y gosb eithaf

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 12:16 am

RET79 a ddywedodd:Dwi'n siarad am achosion lle mae tystiolaeth anhygoel yn erbyn person, hefyd cyfaddefiad, o bosib tystion, prawf DNA, y cwbl lot lle does dim amheuaeth o gwbl am y troseddau.


Dal ddim yn 100%. 'Dydi prawf 100% o euogrwydd ddim yn bodoli.

'Does dim troi nol unwaith ti'n lladd rhywun.

Dwi ddim yn gweld pam fod cymhariaeth hefo ci yn anheg.


Pam?

Dwi ddim yn meddwl fod cloi rhywun fyny am fywyd yn gosb. Mae o'n costio lot fawr i gadw a gwarchod pobl o'r fath a siawns na fedr gadael nhw yn rhydd byth eto.


'Dw i wedi cyfeirio at dy ddadl ynglyn â'r gôst eisoes. Ond ti ddim yn meddwl bod cloi rhywun i fyny mewn cell am weddill eu hoes yn gosb? Buaswn i'n meddwl ei fod yn fwy o gosb na marwolaeth. Ti'n gorfod gwynebu yr hyn 'rwyt wedi ei wneud, a 'dydi cicio dy sodlau yn gwneud dim ddim yn brofiad pleserus. Marw ydi'r ffordd hawdd allan.

Pam ddylai'r person yna gael byw hyd y diwedd ar ol i'r person yma amddifadu bywyd i gymaint o bobl diniwed?


Fel y dywedais eisoes (ac fel yr ail-adroddwyd gan Ramirez), sut elli di gyfiawnhau'r neges bod lladd yn anghywir drwy, ym, ladd pobl? Ti ddim yn gweld hynny braidd yn anghyson?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 12:21 am

RET79 a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod llawer o bobl yn gallu bod yn naif am bynciau fel hyn gan yn ffodus i ni nid ydym wedi profi erchyllderau llofruddiaeth oeraidd gan fwystfil yn ein bywydau hyd yn hyn.

Dyna'r broblem yn aml pan mae llawer o'r chwith yn erbyn pethau fel y gosb eithaf a cosbi yn llym ar droseddwyr. Hefyd dyna pam fod gymaint o bobl ddim yn gyffyrddus a mynd i ryfel gan all llawer ddim uniaethu hefo'r erchyllderau mae pobl eraill yn y byd yn profiadu gan ein bod yn byw bywyd hynod o gyfforddus a saff yng nghefn gwlad Cymru lle nid ydym yn dod ar draws gymeriadau mor hunllefus a beth rydym yn darllen amdanynt yn y wasg.

Tybiaf os buasai rhywun yn agos i chi, neu rhywun chi'n gwybod am yn cael ei lofruddio/rapio/beth bynnag gan fwystfil felna yna efallai byddai'ch agweddau tuag at y troseddwyr rhain yn llai sympathetic.

Beth am y stafell sgwrsio unrhywun?


Dyna'n union pam 'dw i'n meddwl ein bod ni mewn sefyllfa gwell i drafod pynciau fel hyn. 'Does dim lle o gwbl i unrhyw emosiwn na sentimentalrwydd mewn cyfiawnder. Rhaid i'r broses fod yn hollol oddrychol neu ni ellith weithio.

Buaset ti felly wedi rhoi rhieni merched Soham ar y rheithgor?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 26 Rhag 2003 12:24 am

RET79 a ddywedodd:Dwi'n siarad am achosion lle mae tystiolaeth anhygoel yn erbyn person, hefyd cyfaddefiad, o bosib tystion, prawf DNA, y cwbl lot lle does dim amheuaeth o gwbl am y troseddau.

Dwi ddim yn gweld pam fod cymhariaeth hefo ci yn anheg.

Dwi ddim yn meddwl fod cloi rhywun fyny am fywyd yn gosb. Mae o'n costio lot fawr i gadw a gwarchod pobl o'r fath a siawns na fedr gadael nhw yn rhydd byth eto.

Pam ddylai'r person yna gael byw hyd y diwedd ar ol i'r person yma amddifadu bywyd i gymaint o bobl diniwed?


Hydynoed os oes tystiolaeth anhygoel yn erbyn y person a dim amheuath bod y person wedi gwneud y trosedd does dim tystiolaeth bod y gosb eithaf yn gwneud y chances o pobl yn lladd yn llai. Hefyd syd fath o esiampl ydi o gan y llywodraeth i ddweud wrth bobl am beidio lladd a gwneud union yr un fath ei hunain. Be sy' n rhoi yr hawl i unigolion fel judges ag ati ddweud nad oes gan berson arall yr hawl i fyw.

Wrth gwrs bod cloi rhywin fyny am oes yn gosb ofnadwy. Mae' n siwr bod o' n horrific gal dy gau mewn a ddim yn rhydd i wneud be ti isho a mynd i lle tisho. Mae o' n swnio yn brofiad ofnadwy i fi. Tybiaf efallai y byddai marwolaeth yn ry hawdd a drosodd yn ry gyflym.

Rhan o' r rheswm dwi' n meddwl y dylai person sydd wedi troseddu gael byw hyd y diwedd yw oherwydd bod yna obaith bach y bydd y person yma rhywbryd yn ei ddyfodol yn sdopio a meddwl am be mae wedi ei wneud a dyfaru a bod yn sori.
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 12:26 am

Dylan a ddywedodd:
Dal ddim yn 100%. 'Dydi prawf 100% o euogrwydd ddim yn bodoli.


Ti ddim angen 100% i ddedfrydu rhywun. Penderfyniad yw o yn y pendraw yn seiliedig ar y dystiolaeth o dy flaen. Mae rhai penderfyniadau yn hawdd iawn gan fod y dystiolaeth yn 'overwhelming'.

Ti'n meddwl felly fod angen 100% tystiolaeth i ddedfrydu rhywun? :ofn:

Wel mae ci yn cael ei ddysgu ffordd i fyhafio, yn union fel pobl, ac os yw'r ci yn byhafio'n erchyll yna rhaid ei roi lawr. Wyt ti o blaid rhoi cwn lawr Dylan?

'Dw i wedi cyfeirio at dy ddadl ynglyn â'r gôst eisoes. Ond ti ddim yn meddwl bod cloi rhywun i fyny mewn cell am weddill eu hoes yn gosb? Buaswn i'n meddwl ei fod yn fwy o gosb na marwolaeth. Ti'n gorfod gwynebu yr hyn 'rwyt wedi ei wneud, a 'dydi cicio dy sodlau yn gwneud dim ddim yn brofiad pleserus. Marw ydi'r ffordd hawdd allan..


Wel mae gen ti bwynt yn fan hyn, mae bod yn segur mewn carchar weddill dy oes yn gosb amhleserus ond pam rhoi marwolaeth naturiol i berson sydd wedi amddifadu hyn i eraill?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 12:33 am

Dylan a ddywedodd:
Dyna'n union pam 'dw i'n meddwl ein bod ni mewn sefyllfa gwell i drafod pynciau fel hyn. 'Does dim lle o gwbl i unrhyw emosiwn na sentimentalrwydd mewn cyfiawnder. Rhaid i'r broses fod yn hollol oddrychol neu ni ellith weithio.

Buaset ti felly wedi rhoi rhieni merched Soham ar y rheithgor?


Dwi'n meddwl ti'n cymysgu pethau fan hyn. Fedri di ddim rhoi pobl sy'n ymwneud a'r sefyllfa ar y rheithgor dyw hwnna ddim yn deg.

Dwi ddim yn cytuno ein bod mewn sefyllfa gwell gan fod perygl o gael yr agwedd NIMBY a bod yn rhy oddefgar o bobl sydd wedi gwneud pethau erchyll i eraill gan nad yw o wedi ein effeithio ni'n uniongyrchol.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 12:34 am

RET79 a ddywedodd:Ti ddim angen 100% i ddedfrydu rhywun. Penderfyniad yw o yn y pendraw yn seiliedig ar y dystiolaeth o dy flaen. Mae rhai penderfyniadau yn hawdd iawn gan fod y dystiolaeth yn 'overwhelming'.

Ti'n meddwl felly fod angen 100% tystiolaeth i ddedfrydu rhywun? :ofn:


Na, ddywedais i ddim byd o'r fath. Fel y dywedais uchod, 'dydi prawf 100% ddim yn bodoli. Dweud ydw i felly na ddylid cosbi rhywun mewn ffordd lle mae'n amhosibl troi'r cloc yn ôl.

Wel mae ci yn cael ei ddysgu ffordd i fyhafio, yn union fel pobl, ac os yw'r ci yn byhafio'n erchyll yna rhaid ei roi lawr. Wyt ti o blaid rhoi cwn lawr Dylan?


Yn ddelfrydol byddai'n cael ei roi mewn gofal rhwyun sydd yn delio â'r fath gwn yn broffesiynnol am wn i.

Wel mae gen ti bwynt yn fan hyn, mae bod yn segur mewn carchar weddill dy oes yn gosb amhleserus ond pam rhoi marwolaeth naturiol i berson sydd wedi amddifadu hyn i eraill?


'Dw i 'di ateb hwn eisoes: "sut elli di gyfiawnhau'r neges bod lladd yn anghywir drwy, ym, ladd pobl? Ti ddim yn gweld hynny braidd yn anghyson?"
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 12:37 am

RET79 a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:
Dyna'n union pam 'dw i'n meddwl ein bod ni mewn sefyllfa gwell i drafod pynciau fel hyn. 'Does dim lle o gwbl i unrhyw emosiwn na sentimentalrwydd mewn cyfiawnder. Rhaid i'r broses fod yn hollol oddrychol neu ni ellith weithio.

Buaset ti felly wedi rhoi rhieni merched Soham ar y rheithgor?


Dwi'n meddwl ti'n cymysgu pethau fan hyn. Fedri di ddim rhoi pobl sy'n ymwneud a'r sefyllfa ar y rheithgor dyw hwnna ddim yn deg.

Dwi ddim yn cytuno ein bod mewn sefyllfa gwell gan fod perygl o gael yr agwedd NIMBY a bod yn rhy oddefgar o bobl sydd wedi gwneud pethau erchyll i eraill gan nad yw o wedi ein effeithio ni'n uniongyrchol.


Enghraifft eithafol oedd y cwestiwn yna, 'dw i'n cyfaddef. Ond mae'n berthnasol. Mae rhywun sydd wedi dioddef oherwydd trosedd debyg yn y gorffennol yn debygol o adael i'w emosiynau gymryd drosodd. O bosibl hyd yn oed yn ddiymwybod iddo.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 26 Rhag 2003 12:42 am

RET79 a ddywedodd:. Hefyd dyna pam fod gymaint o bobl ddim yn gyffyrddus a mynd i ryfel gan all llawer ddim uniaethu hefo'r erchyllderau mae pobl eraill yn y byd yn profiadu gan ein bod yn byw bywyd hynod o gyfforddus a saff yng nghefn gwlad Cymru lle nid ydym yn dod ar draws gymeriadau mor hunllefus a beth rydym yn darllen amdanynt yn y wasg.




Ti ddim yn swnio fel dy fod di erioed wedi bod i gefn gwlad- dydi bob un cymuned cefn gwlad ddim yn neis a ideal. Mae gan llawer o bentrefi cefn gwlad dwi wedi bod i union yr un problemau a ardaloedd difreintiedig eraill mewn dinasoedd ag ati. Mae yna drais, cyffuriau a problemau cymdeithasol yno.
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 12:42 am

Dyma'n gyffredinol yw fy eglurhad i o'r rheswm mae cymaint o bobl ar maes-e hefo'r agweddau gwleidyddol sydd ganddyn nhw: pan ti'n o aelwyd sefydlog, cymuned saff hefo bron dim tor-cyfraith na thrais, dim problemau ariannol etc. yna mae'n anodd i berson o gefndir fena ddeall pam fod angen lluoedd arfog, cosbi pobl yn llym am eu troseddau etc. gan nad oes gan bobl brofiad o'r erchyllderau hyn o'u cefndir.

Felly dyna pam fod gymaint o bobl ar maes-e yn cysidro pethau fel yr iaith gymraeg i fod yn ryw bwnc hynod o bwysig gan mai dyna un o'r ychydig bynciau mae nhw'n ei weld fel argyfwng yng Nghymru gan fod popeth arall olreit, jack.

Mae'n anodd deall pam fod angen cosbi yn llym a gyrru lluoedd arfog mewn i Iraq, a hawdd iawn yw hi i weiddi am heddwch ac am faddeuant ac i beidio bod mor llym ar y fath bobl pan ti'n dod o gefndir saff gysurus.

Y ffordd dwi'n dod i'r casgliad yr ydw i, dwi'n rhoi fy hyn yn esgidiau'r pobl sydd wedi dioddef NID yn esgidiau'r pobl sydd wedi creu'r erchyllderau a felna dwi'n dod i'r casgliad fod hi'n iawn i gosbi yn llym ac i yrru lluoedd arfog mewn i lefydd er mwyn gwarchod hawliau y rhai sy'n dioddef i gael 'justice' a rhyddid yn eu bywydau.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 12:47 am

ti heb fod i Gaernarfon yn ddiweddar yn amlwg
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai

cron