Y gosb eithaf

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 1:08 am

Dylan a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd: Ti heb ateb y cwestiwn.


Dyna fyddai'n ddelfrydol, ond os 'dydi hynny ddim yn bosibl neu'n ymarferol, yna ydw 'dw i o blaid.

Dadl arall ydi'r gwahaniaeth moesol rhyngom ni ac anifeiliaid. Yn wir 'dw i'n meddwl cafodd ei drafod yn ddiweddar mewn edefyn am hela.


Ti o baid rhoi cwn lawr felly ti hefyd o blaid rheoli llwynogod....?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 1:08 am

Ti'n meddwl bod hwnna'n 100%?

meddylia am ystyr y term 'tystiolaeth 100% sicr': amhosibl - gwbl, gwbl amhosibl - ei fod yn anghywir

Gall Jac fod o'i go. Gall fod wedi talu Pedr a Paul i dystio achos ei fod o eisiau mynd i'r carchar. Duw a wyr os ydi Jac yn nyts. Neu hwyrach bod Pedr a Paul jyst wedi cam-gymryd. 'Dydi'r un o'r rhain yn amhosibl. A 'dydi hyd yn oed tystiolaeth fforensic methu bod 100% yn sicr heb os.

'Dydi tystiolaeth 100% sicr jyst ddim yn bodoli.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 1:12 am

RET79 a ddywedodd:Ti o baid rhoi cwn lawr felly ti hefyd o blaid rheoli llwynogod....?


Ddim trwy redeg ar eu holau â pac ffyrnig o gwn, na. Ond edefyn arall ydi honno eto (mae un yn bodoli mewn seiat arall)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 1:15 am

Dylan a ddywedodd:Ti'n meddwl bod hwnna'n 100%?

meddylia am ystyr y term 'tystiolaeth 100% sicr': amhosibl - gwbl, gwbl amhosibl - ei fod yn anghywir

Gall Jac fod o'i go. Gall fod wedi talu Pedr a Paul i dystio achos ei fod o eisiau mynd i'r carchar. Duw a wyr os ydi Jac yn nyts. Neu hwyrach bod Pedr a Paul jyst wedi cam-gymryd. 'Dydi'r un o'r rhain yn amhosibl. A 'dydi hyd yn oed tystiolaeth fforensic methu bod 100% yn sicr heb os.

'Dydi tystiolaeth 100% sicr jyst ddim yn bodoli.


Enwa unrhywbeth mewn bywyd sydd yn 100%, heblaw trethi a marwolaeth.

Wel rhaid penderfynnu os oes unrhyw obaith o berson fel hyn gael apel heb son am ennill un. Mae'n anhebygol tu hwnt fod y sefyllfa ti'n ddisgrifio yn bosibl a dwi'n siwr y byddai'r awdurdodau yn gwneud yn hollol siwr fod y peth mor water tight a phosib pan mae o'n cael ei ddedfrydu. Mae dweud celwydd mewn cwrt yn erbyn y gyfraith ta beth. Dwi'n anghytuno ti angen 100%, mae 99.99% yn hen ddigon da i fi.

Dwi'm yn siwr ti'n gwerthfawrogi y sefyllfa dwi'n ddisgrifio. Mae'r person wedi gwneud cyfaddefiad + tystion + tystiolaeth fforensig + motif ac mae'n gwybod beth fydd y gosb, sef y gosb eithaf. Felly beth sy'n dy rwystro rhag cefnogi'r gosb eithaf?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 1:15 am

RET79 a ddywedodd:Gen i gydymdeimlad hefo'r dioddefwyr. Sgen i ddim llawer o gydymdeimlad hefo'r troseddwr felly dwi am ei weld yn cael ei gosbi.

Oes gen ti gydymdeimlad hefo'r dioddefwr?


Os nad ydw i'n adnabod y bobl mewn cwestiwn, na. Mi alla i werthfawrogi erchylltra eu sefyllfa, ond alla i ddim dweud bod fy nghalon i'n gwaedu drostynt. Mae llawer gormod o bethau afiach yn digwydd yn y byd i mi gydymdeimlo efo pawb. Buaswn i'n drist a dagreuol 24 awr bob dydd fel arall.

Yn sicr petawn i mewn rheithgor byddwn i'n gwneud fy ngorau glas i beidio gadael i deimladau personol ddylanwadu ar fy marn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 1:18 am

RET79 a ddywedodd:Enwa unrhywbeth mewn bywyd sydd yn 100%, heblaw trethi a marwolaeth.


Mae prawf 100% ond yn bodoli mewn maths ac alcohol. Dyna fy mhwynt yn union.

Wel rhaid penderfynnu os oes unrhyw obaith o berson fel hyn gael apel heb son am ennill un. Mae'n anhebygol tu hwnt fod y sefyllfa ti'n ddisgrifio yn bosibl a dwi'n siwr y byddai'r awdurdodau yn gwneud yn hollol siwr fod y peth mor water tight a phosib pan mae o'n cael ei ddedfrydu. Mae dweud celwydd mewn cwrt yn erbyn y gyfraith ta beth. Dwi'n anghytuno ti angen 100%, mae 99.99% yn hen ddigon da i fi.

Dwi'm yn siwr ti'n gwerthfawrogi y sefyllfa dwi'n ddisgrifio. Mae'r person wedi gwneud cyfaddefiad + tystion + tystiolaeth fforensig + motif ac mae'n gwybod beth fydd y gosb, sef y gosb eithaf. Felly beth sy'n dy rwystro rhag cefnogi'r gosb eithaf?


"anhebygol tu hwnt". Ydi, wrth gwrs ei fod o. Ond dros gyfnod o ychydig ganrifoedd, mae'r tebygolrwydd ei fod am ddigwydd yn lleihau yn aruthrol.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Y gosb eithaf (nid anifeiliaid)!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

Postiogan Dr Gwion Larsen » Gwe 26 Rhag 2003 1:21 am

Wedi darllen dy farn (RET) mae'n amlwg bod dy ddadleuon yn rai gwan di-sail, gan dy fod yn newid y testyn i anifeiliaid o hyd. Cofia y gosb eithaf ydym yn son am nid amaethyddiaeth Cymru ac anifeiliaid anwes! :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 1:22 am

Sori Dylan, ond mae'r ongl ti'n dod at y sefyllfa troseddwr a dioddefwr yn hollol warped. Ti'n anghofio fod cyfraith yn bodoli a fod dim hawl gan y troseddwr wneud beth wnaeth o ac fod bob hawl gen y dioddefwr bob hawl i beidio a profiadu trosedd y troseddwr yn ei erbyn.

Dydw i ddim yn siarad am y sefyllfa o ti ar reithgor, lle ti'n penderfynnu os yw'r troseddwr yn euog neu peidio, dwi'n trafod y fundamenta o droseddwr a dioddefwr a lle mae dy deimladau di yn y sefyllfa yna. Rydw i yn amddiffyn hawl person diniwed i beidio profiadu trosedd ac os yw'r hawl yna yn 'violated' gan berson arall mewn cymdeithas yna dwi yn ddigon hapus i weld y troseddwr yn colli rywfaint o'i hawliau, mewn un ffordd neu'r llall, fel cosb am hyn.

Yn ol y ffordd ti'n siarad dwi ddim yn 100% siwr dy fod yn cytuno a'r paragraff uchod ac mae hynna yn fy nychryn.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 1:26 am

Dylan a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Enwa unrhywbeth mewn bywyd sydd yn 100%, heblaw trethi a marwolaeth.


Mae prawf 100% ond yn bodoli mewn maths ac alcohol. Dyna fy mhwynt yn union.


... ond rwyt ti yn ei ddemandio er mwyn rhoi'r gosb eitha i rywun? Ti'n demandio rhywbeth sydd felly yn amhosib, dyw hynna ddim yn safbwynt resymol o gwbl.

Beth bynnag, nid felna mae cyfraith a threfn yn gweithio. Mae'n AMHOSIB i gyfraith a threfn weithio ar 100% gan buasai neb yn cael eu cosbi.

Rwyt ti unwaith eto yn dadlau o safbwynt theoretical iwtopaidd etc. dyw'r byd go iawn ddim yn gweithio felna.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 1:31 am

Alla' i ddim anghytuno mwy. Ti'n trio fy ngwneud allan i fod yn rhywbeth 'dydw i ddim.

Ti'n anghofio fod cyfraith yn bodoli a fod dim hawl gan y troseddwr wneud beth wnaeth o


Ble ddywedais i hyn? Plîs paid a rhoi geiriau yn fy ngheg i. 'Dadl dyn gwellt' (straw man) pur ydi hwnna.

Wrth gwrs 'mod i'n poeni am hawl pobl i beidio gorfod dioddef tor-cyfraith. Pwysleisio ydw i mai'r ffordd gorau i wneud hynny ydi trwy fynd i wraidd y broblem a meddwl yn ddwys pam fod rhywbeth wedi digwydd a beth ellir ei wneud i'w rwystro rhag digwydd eto.

Mae angen taclo gwreiddiau tor-cyfraith yn ogystal a thor-cyfreithwyr. Meddwl tymor-byr ydi unrhywbeth arall. Elli di gloi fyny pa bynnag faint o dor-cyfreithwyr a fynni di ond daw rhaw eraill yn eu lle. Mae fel ceisio datrys problem cyfrifiadurol trwy ei waldio â morthwyl. Hwyrach ei fod yn sortio'r broblem am gyfnod byr, ond os wyt ti'n parhau i anwybyddu gwraidd sylfaenol y broblem yna bydd yn gwaethygu yn y tymor byr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron