Tudalen 1 o 11

Y gosb eithaf

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 9:54 pm
gan RET79
Dwi o'i blaid mewn achosion erchyll lle mae tystiolaeth anhygoel yn erbyn person. Pam gwastraffu arian trethdalwyr i gadw nhw mewn carchar am oes? Mae nhw wedi gwadu bywyd i eraill, pam caniatau nhw i gael bywyd?

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 10:14 pm
gan Dylan
Beth ydi 'tystiolaeth anhygoel'? Mae'n amhosibl bod yn 100% siwr.

Hyd yn oed mewn 10,000 o achosion lle 'roedd y tystiolaeth yn erbyn y troseddwr honnedig yn 'anhygoel', mae'n bosibl bydd un ohonynt yn ddi-euog. Un yn ormod.

Mi fyddet ti'n synnu faint mae'n costio i ddienyddio rhywun. Beth ydi'r amser mae rhywun yn ei dreulio ar 'death row' fel arfer? Deg mlynedd? Costio bom. Yr holl apelio fydd yn digwydd yn y cyfamser? Mae'r gost yn anferthol. Yn wir 'dw i'n fodlon honni ei fod yn costio mwy na cadw rhywun yn y carchar. 'Does gen i ddim ystadegau wrth law ar y funud ond mi driai gael rhai.

Am y frawddeg olaf, yna mae dyfyniad Gandhi (clichéd braidd bellach ond gwir bob gair serch hynny) 'an eye for an eye makes the whole world blind' yn ateb eithaf teilwng. Sut ellid mynegi'r neges bod lladd pobl yn anghywir drwy...ladd pobl? Mae'n ragrithiol. 'Rydych yn colli'r 'tir uchel moesol' (fel petai) yn syth.

(hwyrach mai yn y seiat gymysg gwleidyddol y dylai hwn fod gan ei fod yn fwy cyffredinol)

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 10:41 pm
gan Hogyn o Rachub
Dw i'n meddwl fod y gosb eithaf yn farbaraidd. Mewn byd gwaraidd, yn siwr fedrwn ni ffeindio ffyrdd gwell o cosbi na lladd rhywun, ac y medwn godi uwchben dial.

Sgen i ddim diferyn o drugaredd tuag at llofruddwyr neu pobl sy'n cyflawni troseddau erchyll, ond peth erchyll yw cymryd bywyd unrhyw un, dim ots pwy ydyn nhw.

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 11:31 pm
gan RET79
Wel os yw ci yn ymosod ar fabi ac yn ei ladd yna rydym ni'n rhoi'r ci lawr. Chi'n cytuno hefo hynna?

(os yw'r ci yn berchen gan y teulu brenhinol yna does dim rhaid ei roi lawr)

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 11:39 pm
gan Madrwyddygryf
Yn anghytuno gyda ti fan yma Ret79.

Dwi'n meddwl mi fydd yn polisi o dedrydiaeth i farwolaeth yn beryglus os nad yw'r system cyfreithiol yn cael y penderfyniad cywir ym mhob achos. Ond mae hynny yn amhosib.
Meddylia am y Guilford Four, Birmingham Six ? Buasai'r deg yma wedi cael deddfrydau i farwolaeth yn sicr.

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 11:44 pm
gan Ramirez
RET79 a ddywedodd:Wel os yw ci yn ymosod ar fabi ac yn ei ladd yna rydym ni'n rhoi'r ci lawr. Chi'n cytuno hefo hynna?


Ci'n lladd ci- ddim yn ei roi i lawr

Be sgenti'n ateb i'r pwynt yma gan Dylan?

Dylan a ddywedodd:Sut ellid mynegi'r neges bod lladd pobl yn anghywir drwy...ladd pobl?

PostioPostiwyd: Iau 25 Rhag 2003 11:52 pm
gan Dylan
'dw i ddim yn meddwl bod cymharu ag anifeiliaid yn berthnasol. Elli di ddim rhoi pobl ar yr un lefel â cwn. (dadl foesol ar gyfer edefyn arall ydi hwnna 'dw i'n meddwl)

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:05 am
gan RET79
Dwi'n siarad am achosion lle mae tystiolaeth anhygoel yn erbyn person, hefyd cyfaddefiad, o bosib tystion, prawf DNA, y cwbl lot lle does dim amheuaeth o gwbl am y troseddau.

Dwi ddim yn gweld pam fod cymhariaeth hefo ci yn anheg.

Dwi ddim yn meddwl fod cloi rhywun fyny am fywyd yn gosb. Mae o'n costio lot fawr i gadw a gwarchod pobl o'r fath a siawns na fedr gadael nhw yn rhydd byth eto.

Pam ddylai'r person yna gael byw hyd y diwedd ar ol i'r person yma amddifadu bywyd i gymaint o bobl diniwed?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:06 am
gan Lowri Fflur
Dylai ddim hydynoed Prydain orfod mynd i' r pellter o ddefnyddio capital punishment i gosbo pobl.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:12 am
gan RET79
Dwi'n meddwl fod llawer o bobl yn gallu bod yn naif am bynciau fel hyn gan yn ffodus i ni nid ydym wedi profi erchyllderau llofruddiaeth oeraidd gan fwystfil yn ein bywydau hyd yn hyn. Dyna'r broblem yn aml pan mae llawer o'r chwith yn erbyn pethau fel y gosb eithaf a cosbi yn llym ar droseddwyr. Hefyd dyna pam fod gymaint o bobl ddim yn gyffyrddus a mynd i ryfel gan all llawer ddim uniaethu hefo'r erchyllderau mae pobl eraill yn y byd yn profiadu gan ein bod yn byw bywyd hynod o gyfforddus a saff yng nghefn gwlad Cymru lle nid ydym yn dod ar draws gymeriadau mor hunllefus a beth rydym yn darllen amdanynt yn y wasg.

Tybiaf os buasai rhywun yn agos i chi, neu rhywun chi'n gwybod am yn cael ei lofruddio/rapio/beth bynnag gan fwystfil felna yna efallai byddai'ch agweddau tuag at y troseddwyr rhain yn llai sympathetic.

Beth am y stafell sgwrsio unrhywun?