Y gosb eithaf

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Sad 27 Rhag 2003 2:58 am

RET79 a ddywedodd:Sgen i ddim eglurhad i'r peth.


Dyna'r peth, ti'n gweld. 'Dw i'n cymryd nad wyt yn credu mai cyd-ddigwyddiad ydyw, ac yn gobeithio i'r byw nad wyt yn meddwl mai rhywbeth gennynol sy'n gyfrifol (wrth gwrs 'dwyt ti ddim, ond dyma mae ambell un eithafol yn ei honni). Felly 'dwyt ti ddim yn cytuno ei fod yn bwysig ein bod yn ymdrechu i ddatrys y dirgelwch?

Gwelwn felly bod cydberthynas eglur neilltuol rhwng tlodi a thor-cyfraith. Mae'r nod i weld yn ddigon amlwg i mi. Er bod y dull bach cymlethach.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sad 27 Rhag 2003 6:45 pm

Dylan a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Sgen i ddim eglurhad i'r peth.


Dyna'r peth, ti'n gweld. 'Dw i'n cymryd nad wyt yn credu mai cyd-ddigwyddiad ydyw, ac yn gobeithio i'r byw nad wyt yn meddwl mai rhywbeth gennynol sy'n gyfrifol (wrth gwrs 'dwyt ti ddim, ond dyma mae ambell un eithafol yn ei honni). Felly 'dwyt ti ddim yn cytuno ei fod yn bwysig ein bod yn ymdrechu i ddatrys y dirgelwch?

Gwelwn felly bod cydberthynas eglur neilltuol rhwng tlodi a thor-cyfraith. Mae'r nod i weld yn ddigon amlwg i mi. Er bod y dull bach cymlethach.


Fuasai o ddim yn afresymol i bobl ddod i'r casgliad fod pobl o rai grwpiau ethnig yn fwy troseddgar nac eraill o'r wybodaeth yna. Pam buasai rhai grwpiau ethnig yn fwy troseddgar dwn i ddim. Mae tlodi efallai yn un eglurhad ond dwi'n amau mae hwnna yw'r eglurhad cyflawn. Ond wedyn rhaid trio egluro pam fod un grwp ethnig yn dlotach a trio penderfynnu beth sy'n achosi hynna, ai hiliaeth neu diffyg ymdrech/llwyddiant.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Sad 27 Rhag 2003 8:01 pm

Y posibilrwydd bod diogrwydd neu diffyg llwyddiant yn rhywbeth cynhenid yn eu hil, ti'n feddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sad 27 Rhag 2003 8:12 pm

Dylan a ddywedodd:Y posibilrwydd bod diogrwydd neu diffyg llwyddiant yn rhywbeth cynhenid yn eu hil, ti'n feddwl?


Wyt ti'n gwadu'r posibilrwydd yna? Mae o'n bosibilrwydd hefo tebygolrwydd >0, dyw hynna ddim yn dweud ei fod o'n wir...
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Leusa » Sad 27 Rhag 2003 10:35 pm

sori ond sgenaim mynedd darllen y sgwrs i gyd, mai'n hirwyntog.
'dw i yn erbyn y gosb eithaf, yn syml achos pe bai rhywun yn cael bai ar gam [fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol], byddai hynny yn uffernol, achos byddai person di-euog wedi marw. Felly ddim yn hawdd iawn eu dadebru, dim fel gadel rhywun o'r carchar.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan RET79 » Sul 28 Rhag 2003 2:01 am

Leusa a ddywedodd:sori ond sgenaim mynedd darllen y sgwrs i gyd, mai'n hirwyntog.
'dw i yn erbyn y gosb eithaf, yn syml achos pe bai rhywun yn cael bai ar gam [fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol], byddai hynny yn uffernol, achos byddai person di-euog wedi marw. Felly ddim yn hawdd iawn eu dadebru, dim fel gadel rhywun o'r carchar.


Dwi'n siarad am achosion lle nad oes unrhyw amheuaeth gall, efallai ar ol i 3 apel fethu neu rywbeth felna.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Sul 28 Rhag 2003 2:53 am

RET79 a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Y posibilrwydd bod diogrwydd neu diffyg llwyddiant yn rhywbeth cynhenid yn eu hil, ti'n feddwl?


Wyt ti'n gwadu'r posibilrwydd yna? Mae o'n bosibilrwydd hefo tebygolrwydd >0, dyw hynna ddim yn dweud ei fod o'n wir...


Methu gwadu'r posibilrwydd yn llwyr yn amlwg, ond y perygl o fynd lawr y trywydd yna ydi ail-danio'r busnes eugenics yna o'r ddeunawfed ganrif, lle 'roedd pobl hiliol yn cyfiawnhau eu rhagfarn gyda ffug-wyddoniaeth. Eu bwriad oedd dangos bod y dun du yn 'dwp', er enghraifft gan fod maint ei benglog yn llai (ac felly yn cyfiawnhau caethwasanaeth) ond buan iawn y cadarnhawyd gan wyddoniaeth mai nonsens llwyr ydoedd i gyd.

http://www.eugenicsarchive.org/eugenics/

Mae rhai pobl yn ceisio ail-gydio ynddo ar y lefel genetig.

http://www.eugenicsarchive.org/eugenics/
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sul 28 Rhag 2003 3:11 am

Dwi'n synnu fod y drafodaeth hyn wedi mynd gyhyd heb i rywun gyhuddo ni (wel, mwyaf tebyg fi) o fod yn hiliol. Mae'n anffodus na elli di gael trafodaeth aeddfed am trends fel fod rhai grwpiau ethnig yn troseddu fwy heb gael dy alw'n hiliol etc.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Leusa » Sul 28 Rhag 2003 1:53 pm

RET79 a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:sori ond sgenaim mynedd darllen y sgwrs i gyd, mai'n hirwyntog.
'dw i yn erbyn y gosb eithaf, yn syml achos pe bai rhywun yn cael bai ar gam [fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol], byddai hynny yn uffernol, achos byddai person di-euog wedi marw. Felly ddim yn hawdd iawn eu dadebru, dim fel gadel rhywun o'r carchar.


Dwi'n siarad am achosion lle nad oes unrhyw amheuaeth gall, efallai ar ol i 3 apel fethu neu rywbeth felna.

Elli di neud 3 apel? A sud elli di fod 100% yn sicir bo rhywun yn euog.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Dylan » Sul 28 Rhag 2003 8:39 pm

Elli di ddim. 'O'n i'n meddwl 'mod i wedi gwneud hynny'n glir.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai