Y gosb eithaf

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Sul 28 Rhag 2003 9:43 pm

Wn i fy mod i'n sboncio'n llon mewn i edefyn hir heb ei darllen hi fan yma, ond mewn materion lle mai cosb nid rehabuilitation yw'r nod, mi fyswn i'n cyfri dioddef byw mewn cell am weddill fy oes yn fwy o gosb na marwolaeth chwim. O ran pob dadlau arall, mae fi a Dylan yn cytuno ar y mater hwn a dwi'n siwr ei fod o wedi dweud pob peth mi fyswn i wedi ei ddweud ynghynt.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Boris » Sul 04 Ion 2004 8:43 pm

Ramirez a ddywedodd:Be sgenti'n ateb i'r pwynt yma gan Dylan?

Dylan a ddywedodd:Sut ellid mynegi'r neges bod lladd pobl yn anghywir drwy...ladd pobl?


Craidd y ddadl, mae'n rhaid i mi anghytuno efo RET y tro hwn :ofn:

Dwi'n erbyn y gosb eithaf (er yn amheus o'r modd mae'r pwnc yn tabw - da iawn maes e) gan nad wyf yn credu fod y Wladwriaeth yn uwch nac unigolion. O gael y gosb eithaf yr hyn ti'n wneud yw creu un rheol i'r wladwriaeth ac un arall i'r bobl. Os ti'n credu mae lle y wladwriaeth yw rheoli yna mae dadl dros y gosb eithaf, ond os mae gwasanaethu yw lle y wladwriaeth yna fe ddylai y wladwriaeth hefyd weithredu o fewn rheolau sy'n cael ei gosod ar ddinasyddion.

Os mai gorchymyn y wladwriaeth yw 'na ladd', yna dylai y wladwriaeth hefyd ymatal rhag lladd mewn gwaed oer.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Chris Castle » Llun 05 Ion 2004 10:58 am

Boris a ddywedodd:

Craidd y ddadl, mae'n rhaid i mi anghytuno efo RET y tro hwn :ofn:

Dwi'n erbyn y gosb eithaf (er yn amheus o'r modd mae'r pwnc yn tabw - da iawn maes e) gan nad wyf yn credu fod y Wladwriaeth yn uwch nac unigolion. O gael y gosb eithaf yr hyn ti'n wneud yw creu un rheol i'r wladwriaeth ac un arall i'r bobl. Os ti'n credu mae lle y wladwriaeth yw rheoli yna mae dadl dros y gosb eithaf, ond os mae gwasanaethu yw lle y wladwriaeth yna fe ddylai y wladwriaeth hefyd weithredu o fewn rheolau sy'n cael ei gosod ar ddinasyddion.

Os mai gorchymyn y wladwriaeth yw 'na ladd', yna dylai y wladwriaeth hefyd ymatal rhag lladd mewn gwaed oer.



Ond nid yw hyn yn gorchymyn y Wladwriaeth. MAe Llywodraeth yn dweud taw iawn yw lladd os yn gyfreithlon. Mae'n iawn Ladd Gwladwriaeth (megis Iraq) hefyd.

Dadl Leusa yn erbyn y cosb eithaf ydy'r un dwi'n derbyn er fy mod i'n cytuno â RET y mae sawl achosion lle dylen ni lladd y bastyds.
Ond y pwynt yw bod cynlleiaf o achosion lle does dim sefyllfeydd arbennig maddheuol a heb amheuaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Boris » Llun 05 Ion 2004 11:26 am

Chris Castle a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Os mai gorchymyn y wladwriaeth yw 'na ladd', yna dylai y wladwriaeth hefyd ymatal rhag lladd mewn gwaed oer.



Ond nid yw hyn yn gorchymyn y Wladwriaeth. MAe Llywodraeth yn dweud taw iawn yw lladd os yn gyfreithlon. Mae'n iawn Ladd Gwladwriaeth (megis Iraq) hefyd.

Dadl Leusa yn erbyn y cosb eithaf ydy'r un dwi'n derbyn er fy mod i'n cytuno â RET y mae sawl achosion lle dylen ni lladd y bastyds.
Ond y pwynt yw bod cynlleiaf o achosion lle does dim sefyllfeydd arbennig maddheuol a heb amheuaeth.


Gwaed oer yw'r pwynt Chris.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Dylan » Llun 05 Ion 2004 5:34 pm

Boris a ddywedodd:(er yn amheus o'r modd mae'r pwnc yn tabw - da iawn maes e)


'Dw i ddim yn dallt be' ti'n ei feddwl fan hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Boris » Llun 05 Ion 2004 7:12 pm

Dylan a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:(er yn amheus o'r modd mae'r pwnc yn tabw - da iawn maes e)


'Dw i ddim yn dallt be' ti'n ei feddwl fan hyn.


Sori, braidd yn cryptig tydi.

Yr hyn oeddwn i'n trio ddeud oedd fy mod yn erbyn y gosb eithaf ond yn anghyfforddus fod y pwnc yn taboo mewn cylchoedd gwleidyddol. Mi 'roedd yr ymateb i sylwadau David Davies AS yn hollol OTT pan ddaru o ddatgan fod ganddo farn bersonol oedd yn gefnogol i'r gosb eithaf. Dwi hefyd yn teimlo fod y chwith wleidyddol sydd wedi galw am ddatblygiad democratiaeth ym mhob maes yn dawel iawn ynghylch grym democratiaeth yn y maes hwn - wedi'r cyfan pwy fydde'n betio yn erbyn pobl Prydain yn dweud ia i grogi?

I mi, mae y cwestiwn hwn yn codi cwestiwn diddorol am faint o ddemocratiaeth sydd yn ddelfrydol. Ai barn y bobl ynteu barn 'cynrychiolwyr y bobl' yw democratiaeth go iawn?

pam 'da iawn Maes e'? Oherwydd fod y drafodaeth ar y pwnc hwn wedi bod yn adeiladol, cymhedrol a synhwyrol.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Dylan » Llun 05 Ion 2004 10:25 pm

A, reit. :)

'o'n i 'di camgymryd yn llwyr ac yn meddwl mai sarcastic oedd y 'da iawn'. Ond ta waeth. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Boris » Maw 06 Ion 2004 9:59 am

Dylan a ddywedodd:A, reit. :)

'o'n i 'di camgymryd yn llwyr ac yn meddwl mai sarcastic oedd y 'da iawn'. Ond ta waeth. :)


Fi, sarcastig????

Gyda llaw, dwi'n licio dy bengwin :D
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Macsen » Maw 06 Ion 2004 11:26 pm

Fy mhengwin i oedd y cyntaf i lanio, cofiwch. :winc:

Boris a ddywedodd:Dwi hefyd yn teimlo fod y chwith wleidyddol sydd wedi galw am ddatblygiad democratiaeth ym mhob maes yn dawel iawn ynghylch grym democratiaeth yn y maes hwn - wedi'r cyfan pwy fydde'n betio yn erbyn pobl Prydain yn dweud ia i grogi?


Pwynt diddorol. Fel ddywedodd Plato, mewn democratiaeth mae doxa yn goroesi philosophia. Dw i ddim yn credu mewn datblygiad democratiaeth ymhob maes- yn enwedig mewn mannau lle bydd y fot yn tueddu i wneud y mwyafrif ychydig yn hapusach a'r lleiafrif yn hollol fwcked. Mae y gosb eithaf yn disgyn mewn i'r categori yma.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan gronw » Mer 07 Ion 2004 1:37 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Dw i ddim yn credu mewn datblygiad democratiaeth ymhob maes- yn enwedig mewn mannau lle bydd y fot yn tueddu i wneud y mwyafrif ychydig yn hapusach a'r lleiafrif yn hollol fwcked.

Dwi'n cyd-fynd ag Ifan; er fy mod i o blaid 'democratiaeth' wrth reswm, dwi ddim yn credu mai dyna'r ateb gore i bob peth bob tro.

Dwi yn erbyn y gosb eithaf. Ddim yn gymaint am na allwch chi byth gael sicrwydd cant y cant fod rhywun yn euog, er bod hynny'n bwynt da, ac mae rhai awgrymiade uchod am "bron yn sicr" yn wallgo, gan ei fod yn awgrymu (RET: "jac yn cyfadde lladd wil...") y bydde rhywun sy'n cyfadde'n cael ei grogi, ond os gwadu, bydde fe'n saff...

O ie, nid dyna'r prif reswm dwi'n erbyn y gosb eithaf! O safwbynt Cristion, mae e'n rong am nad ydyn ni i fod i ladd neb boed ni'n gwneud hynny fel unigolyn neu fel 'gwladwriaeth', am nad ein lle ni yw penderfynu y dylai rhywun arall farw. A pheidio dial ar bobl am eu camweddau. Ond, heblaw hynny, onid ydyn ni'n disgyn i'r un drygioni â'r llofrudd drwy ei ladd e? Gei di ddim lladd neb, ond fe gawn ni dy ladd di. Ych, pan dwi'n meddwl am death row dwi'n methu credu ein bod ni'n ystyried dod â'r peth yn ôl ym Mhrydain. Mae'n anifeilaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron