Tudalen 3 o 11

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:48 am
gan Lowri Fflur
RET79 a ddywedodd:Felly dyna pam fod gymaint o bobl ar maes-e yn cysidro pethau fel yr iaith gymraeg i fod yn ryw bwnc hynod o bwysig gan mai dyna un o'r ychydig bynciau mae nhw'n ei weld fel argyfwng yng Nghymru gan fod popeth arall olreit, jack.

.


Dwi' n gweld y iaith Gymraeg yn bwysig ond dwi hefyd yn gweld problemau cymdeithasol yn bwysig iawn. Dwi methu gweld syd mae malio am y iaith Gymraeg yn dy rwystro rhag gweld problemau eraill yn Gymru. Dwi heb di gweld tystiolaeth chwaith o lawer o bobl dim ond yn malio am y iaith Gymraeg a dim byd arall.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:49 am
gan Dylan
RET79 a ddywedodd:dwi'n rhoi fy hyn yn esgidiau'r pobl sydd wedi dioddef NID yn esgidiau'r pobl sydd wedi creu'r erchyllderau a felna dwi'n dod i'r casgliad fod hi'n iawn i gosbi yn llym ac i yrru lluoedd arfog mewn i lefydd er mwyn gwarchod hawliau y rhai sy'n dioddef i gael 'justice' a rhyddid yn eu bywydau.


A 'dydw i ddim yn rhoi fy hun yn yr un o'r 'sgidiau, drwy edrych ar y sefyllfa o'r tu allan yn oddrychol.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:49 am
gan RET79
Dylan a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Ti ddim angen 100% i ddedfrydu rhywun. Penderfyniad yw o yn y pendraw yn seiliedig ar y dystiolaeth o dy flaen. Mae rhai penderfyniadau yn hawdd iawn gan fod y dystiolaeth yn 'overwhelming'.

Ti'n meddwl felly fod angen 100% tystiolaeth i ddedfrydu rhywun? :ofn:


Na, ddywedais i ddim byd o'r fath. Fel y dywedais uchod, 'dydi prawf 100% ddim yn bodoli. Dweud ydw i felly na ddylid cosbi rhywun mewn ffordd lle mae'n amhosibl troi'r cloc yn ôl.


Wel mae hwnna'n safbwynt dilys ond ti'n anwybyddu'r sefyllfa lle nad oes gobaith caneri i berson allu gwneud unrhyw fath o apel. Does dim troi'n ol iddyn nhw ganddyn nhw fwy o gyfle enill y loteri 3 wythnos o'r bron. Fyddet ti o blaid y gosb eithaf iddyn nhw?

Wel mae ci yn cael ei ddysgu ffordd i fyhafio, yn union fel pobl, ac os yw'r ci yn byhafio'n erchyll yna rhaid ei roi lawr. Wyt ti o blaid rhoi cwn lawr Dylan?


Yn ddelfrydol byddai'n cael ei roi mewn gofal rhwyun sydd yn delio â'r fath gwn yn broffesiynnol am wn i.


Ti heb ateb y cwestiwn.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:51 am
gan Dylan
RET79 a ddywedodd:Wel mae hwnna'n safbwynt dilys ond ti'n anwybyddu'r sefyllfa lle nad oes gobaith caneri i berson allu gwneud unrhyw fath o apel. Does dim troi'n ol iddyn nhw ganddyn nhw fwy o gyfle enill y loteri 3 wythnos o'r bron. Fyddet ti o blaid y gosb eithaf iddyn nhw?


Ond 'dydi'r fath sefyllfa ddim yn bodoli. Gall tystiolaeth gwbl newydd ddod i'r amlwg flynyddoedd lawer wedi iddo gael ei ddedfrydu.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:52 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
C'mon,Ret! Trafodaeth am y gosb eithaf yw hyn, nid Irac! Dyw'r gosb eithaf ddim yn parchu rhyddid yr unigolyn o gwbl! Mae'n rhywbeth 'knee-jerk' rhonc, ac yn gwrthod chwilio am atebion i broblemau cymdeithasol.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:53 am
gan RET79
Dylan a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:dwi'n rhoi fy hyn yn esgidiau'r pobl sydd wedi dioddef NID yn esgidiau'r pobl sydd wedi creu'r erchyllderau a felna dwi'n dod i'r casgliad fod hi'n iawn i gosbi yn llym ac i yrru lluoedd arfog mewn i lefydd er mwyn gwarchod hawliau y rhai sy'n dioddef i gael 'justice' a rhyddid yn eu bywydau.


A 'dydw i ddim yn rhoi fy hun yn yr un o'r 'sgidiau, drwy edrych ar y sefyllfa o'r tu allan yn oddrychol.


Dwi'n hollol stunned hefo'r datganiad yna. Sut fedri di gael cydbwysedd rhwng rhywun sydd wedi troseddu'n ddifrifol ac yn oeraidd hefo person diniwed sydd wedi bod yn 'victim' (beth yw'r gair Cymraeg am victim?).

Mae hawl y person i gael byw heb gael ei droseddu i fi yn bwysicach na 'so-called' hawliau y troseddwr. Os ti'n troseddu yna ti'n haeddu colli peth o dy hawliau, digon teg gen i.

Does dim rhaid gofyn lle mae dy gydymdeimlad di yn achos Tony Martin, hyd yn oed hefo dy weledigaeth oddrychol.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:54 am
gan Dylan
RET79 a ddywedodd: Ti heb ateb y cwestiwn.


Dyna fyddai'n ddelfrydol, ond os 'dydi hynny ddim yn bosibl neu'n ymarferol, yna ydw 'dw i o blaid.

Dadl arall ydi'r gwahaniaeth moesol rhyngom ni ac anifeiliaid. Yn wir 'dw i'n meddwl cafodd ei drafod yn ddiweddar mewn edefyn am hela.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:59 am
gan Dylan
RET79 a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:dwi'n rhoi fy hyn yn esgidiau'r pobl sydd wedi dioddef NID yn esgidiau'r pobl sydd wedi creu'r erchyllderau a felna dwi'n dod i'r casgliad fod hi'n iawn i gosbi yn llym ac i yrru lluoedd arfog mewn i lefydd er mwyn gwarchod hawliau y rhai sy'n dioddef i gael 'justice' a rhyddid yn eu bywydau.


A 'dydw i ddim yn rhoi fy hun yn yr un o'r 'sgidiau, drwy edrych ar y sefyllfa o'r tu allan yn oddrychol.


Dwi'n hollol stunned hefo'r datganiad yna. Sut fedri di gael cydbwysedd rhwng rhywun sydd wedi troseddu'n ddifrifol ac yn oeraidd hefo person diniwed sydd wedi bod yn 'victim' (beth yw'r gair Cymraeg am victim?).

Mae hawl y person i gael byw heb gael ei droseddu i fi yn bwysicach na 'so-called' hawliau y troseddwr. Os ti'n troseddu yna ti'n haeddu colli peth o dy hawliau, digon teg gen i.

Does dim rhaid gofyn lle mae dy gydymdeimlad di yn achos Tony Martin, hyd yn oed hefo dy weledigaeth oddrychol.


Woah. Meddylia am ychydig bach am beth ti newydd ddweud. Ti yn fy meirniadu i am edrych ar y fath achosion yn oddrychol? Sut ddiawl mae hynny'n 'oeraidd' tuag at y dioddefwr? (dyna'r gair Cymraeg)

'Dydi 'cydymdeimlad' ddim i fod i ddod mewn i'r peth.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 1:02 am
gan RET79
Dylan a ddywedodd:Ond 'dydi'r fath sefyllfa ddim yn bodoli. Gall tystiolaeth gwbl newydd ddod i'r amlwg flynyddoedd lawer wedi iddo gael ei ddedfrydu.


Jac wedi lladd Wil. Jac yn cyfaddef ei fod wedi lladd Wil. Pedr a Paul wedi gweld Jac yn lladd Wil. Tystiolaeth fforsensic + motive + popeth arall yn dweud fod Jac wedi lladd Wil.

Pam ddim y gosb eithaf yn y sefyllfa yma? Dim achos am apel mewn sefyllfa fel hyn, sef y math o sefyllfa dwi'n cynnig y gosb eitha.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Rhag 2003 1:06 am
gan RET79
Dylan a ddywedodd:
Woah. Meddylia am ychydig bach am beth ti newydd ddweud. Ti yn fy meirniadu i am edrych ar y fath achosion yn oddrychol? Sut ddiawl mae hynny'n 'oeraidd' tuag at y dioddefwr? (dyna'r gair Cymraeg)

'Dydi 'cydymdeimlad' ddim i fod i ddod mewn i'r peth.


Gen i gydymdeimlad hefo'r dioddefwyr. Sgen i ddim llawer o gydymdeimlad hefo'r troseddwr felly dwi am ei weld yn cael ei gosbi.

Oes gen ti gydymdeimlad hefo'r dioddefwr?