Y gosb eithaf

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 1:37 am

RET79 a ddywedodd:... ond rwyt ti yn ei ddemandio er mwyn rhoi'r gosb eitha i rywun? Ti'n demandio rhywbeth sydd felly yn amhosib, dyw hynna ddim yn safbwynt resymol o gwbl


Dadl glyfar, mi roddai hynny i ti.

'Does dim angen prawf 100% er mwyn cael rhywun yn euog. 'Beyond all reasonable doubt' yn ddigon rhesymol yn yr achos hynny. Ond 'dw i'n dadlau bod ei angen os am ddod a bywyd person i ben oherwydd bod siawns o 0% o gywiro unrhyw gamgymeriadau fyddai'n gallu digwydd o'r herwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 1:38 am

Dylan a ddywedodd:Alla' i ddim anghytuno mwy. Ti'n trio fy ngwneud allan i fod yn rhywbeth 'dydw i ddim.

Ti'n anghofio fod cyfraith yn bodoli a fod dim hawl gan y troseddwr wneud beth wnaeth o


Ble ddywedais i hyn? Plîs paid a rhoi geiriau yn fy ngheg i. 'Dadl dyn gwellt' (straw man) pur ydi hwnna.

Wrth gwrs 'mod i'n poeni am hawl pobl i beidio gorfod dioddef tor-cyfraith. Pwysleisio ydw i mai'r ffordd gorau i wneud hynny ydi trwy fynd i wraidd y broblem a meddwl yn ddwys pam fod rhywbeth wedi digwydd a beth ellir ei wneud i'w rwystro rhag digwydd eto.

Mae angen taclo gwreiddiau tor-cyfraith yn ogystal a thor-cyfreithwyr. Meddwl tymor-byr ydi unrhywbeth arall. Elli di gloi fyny pa bynnag faint o dor-cyfreithwyr a fynni di ond daw rhaw eraill yn eu lle. Mae fel ceisio datrys problem cyfrifiadurol trwy ei waldio â morthwyl. Hwyrach ei fod yn sortio'r broblem am gyfnod byr, ond os wyt ti'n parhau i anwybyddu gwraidd sylfaenol y broblem yna bydd yn gwaethygu yn y tymor byr.


Wel dwi'n cytuno rhaid trio stopio pethau ddigwydd cyn iddynt ddigwydd.

Ond sori, dwi dal ddim yn siwr o dy agwedd tuag at dor cyfraith. Dwi ddim wedi fy mherswadio fod gen ti dosturi tuag at y dioddefwr o'i gymharu a'r troseddwr.

Wyt ti'n derbyn dy fod yn byhafio'n afresymol trwy ofyn am brawf 100%, sydd fel ti wedi cyfaddef dy hun sydd ond yn bosib mewn maths etc.?

Dwi'n diddordebu pa mor lwyddianus sydd raid i system cyfraith a threfn fod i ti fod yn hapus gyda hi. Os oes dim ond 1 mewn 10,000 llofrudd yn cael cam, fuaset ti'n dweud fod hon yn system gyfraith dda? Fedri di ddim cael 100%, fel dwedaist dy hun, felly gen i ddiddordeb yn pa % fyddet ti'n hapus hefo.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 1:45 am

RET79 a ddywedodd:Wel dwi'n cytuno rhaid trio stopio pethau ddigwydd cyn iddynt ddigwydd.

Ond sori, dwi dal ddim yn siwr o dy agwedd tuag at dor cyfraith. Dwi ddim wedi fy mherswadio fod gen ti dosturi tuag at y dioddefwr o'i gymharu a'r troseddwr.

Wyt ti'n derbyn dy fod yn byhafio'n afresymol trwy ofyn am brawf 100%, sydd fel ti wedi cyfaddef dy hun sydd ond yn bosib mewn maths etc.?

Dwi'n diddordebu pa mor lwyddianus sydd raid i system cyfraith a threfn fod i ti fod yn hapus gyda hi. Os oes dim ond 1 mewn 10,000 llofrudd yn cael cam, fuaset ti'n dweud fod hon yn system gyfraith dda? Fedri di ddim cael 100%, fel dwedaist dy hun, felly gen i ddiddordeb yn pa % fyddet ti'n hapus hefo.


Mae 1 mewn 10,000 yn cael eu carcharu ar gam yn 'resymol' o ystyried ei fod yn bosibl cywiro'r camgymeriad.

Ond mae 1 mewn 1,000,000 yn cael eu lladd ar gam yn hollol annerbyniol gan fod y gwrthwyneb yn wir.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 1:51 am

Dylan a ddywedodd:Mae 1 mewn 10,000 yn cael eu carcharu ar gam yn 'resymol' o ystyried ei fod yn bosibl cywiro'r camgymeriad.

Ond mae 1 mewn 1,000,000 yn cael eu lladd ar gam yn hollol annerbyniol gan fod y gwrthwyneb yn wir.


OK rhaid cyfaddef fod hon yn ddadl eitha dilys ac yn ymddangos yn safbwynt resymol. Ar y llaw arall nid yw'r safbwynt yma yn resymol o gwbl gan ti'n gofyn tystiolaeth 100% sydd yn amhosib.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 1:52 am

RET79 a ddywedodd:Ond sori, dwi dal ddim yn siwr o dy agwedd tuag at dor cyfraith. Dwi ddim wedi fy mherswadio fod gen ti dosturi tuag at y dioddefwr o'i gymharu a'r troseddwr.


Wrth gwrs bod y dioddefwyr yn haeddu 'tosturi'. Ond teg dweud bod y troseddwr weithiau yn haeddu peth yn ogystal. Mae'n dibynnu ar yr achos pennodol o dan sylw.

Mae Bob yn lladd Wil. Pam? Beth achosodd i Bob ladd Wil? Mae meddylfryd person yn cael ei lunio gan ei fagwriaeth, ei amgylchedd ayyb. Gall fod wedi byw bywyd eithaf crap sydd wedi ei droi o yn berson eithaf crap. Mae Bob, yn yr achos yma, yn haeddu 'tosturi' oherwydd cynnyrch ei gymdeithas ydyw. Gellir wedyn ymdrechu i'w adsefydlu yn y gobaith o'i wneud yn ffit i ddychwelyd i'r gymdeithas.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 1:54 am

RET79 a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Mae 1 mewn 10,000 yn cael eu carcharu ar gam yn 'resymol' o ystyried ei fod yn bosibl cywiro'r camgymeriad.

Ond mae 1 mewn 1,000,000 yn cael eu lladd ar gam yn hollol annerbyniol gan fod y gwrthwyneb yn wir.


OK rhaid cyfaddef fod hon yn ddadl eitha dilys ac yn ymddangos yn safbwynt resymol. Ar y llaw arall nid yw'r safbwynt yma yn resymol o gwbl gan ti'n gofyn tystiolaeth 100% sydd yn amhosib.


gweler uchod:

Dadl glyfar, mi roddai hynny i ti.

'Does dim angen prawf 100% er mwyn cael rhywun yn euog. 'Beyond all reasonable doubt' yn ddigon rhesymol yn yr achos hynny. Ond 'dw i'n dadlau bod ei angen os am ddod a bywyd person i ben oherwydd bod siawns o 0% o gywiro unrhyw gamgymeriadau fyddai'n gallu digwydd o'r herwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 2:03 am

Dylan a ddywedodd:
Mae Bob yn lladd Wil. Pam? Beth achosodd i Bob ladd Wil? Mae meddylfryd person yn cael ei lunio gan ei fagwriaeth, ei amgylchedd ayyb. Gall fod wedi byw bywyd eithaf crap sydd wedi ei droi o yn berson eithaf crap. Mae Bob, yn yr achos yma, yn haeddu 'tosturi' oherwydd cynnyrch ei gymdeithas ydyw. Gellir wedyn ymdrechu i'w adsefydlu yn y gobaith o'i wneud yn ffit i ddychwelyd i'r gymdeithas.


Wel dwi'n siwr fod o'n eitha diddorol trio ffeindio allan pam fod Bob wedi lladd Wil ond y ffaith ydy ein bod yn byw mewn cymdeithas lle mae rhyddid a cyfrifoldeb yn dod llaw yn llaw. Os ti ddim yn byhafio'n gyfrifol o fewn cyfraith y wlad yna ti'n (haeddianol) yn colli dy ryddid. Mae gen Bob ryddid i wneud penderfyniad o ladd Wil neu beidio. Siawns fod Bob yn gwybod fod llofruddio yn erbyn y gyfraith ac y caiff ei gosbi os caiff ei ddal a'i wneud yn euog.
Mae Bob, yn yr achos yma, yn haeddu 'tosturi' oherwydd cynnyrch ei gymdeithas ydyw


Wel dwi ddim yn gyffyrddus a'r gosodiad yma. Mae hwn yn taflu'r bai am y lofruddiaeth o bob at eraill mewn cymdeithas. Y gwir yw mai BOB wnaeth ladd ac ei benderfyniad ef oedd gwneud hyn , neb arall. Beth sydd o'i le yn rhoi'r bai ar Bob? Cyfrifoldeb personol sydd gan bawb i fyhafio mewn modd priodol. Bob wnaeth ladd Wil, neb arall, felly Bob geith wynebu'r gosb a cholli ei ryddid.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 2:11 am

Ond cofia, mae'n bosibl bod Bob o o'i go, neu o leiaf ddim yn beth fydden ni yn ei alw yn 'normal'. Mae'n ffaith ddigon syml bod ffactorau cymdeithasol-economaidd yn dylanwadu ar bobl.

I roi enghraifft, pam wyt ti'n credu bod canran anghyfartal o uchel o boblogaeth tlawd du America (sydd ar waelod yr hierarchaeth cymdeithasol) yn y carchar? 'Dw i'n cymryd nad wyt o'r farn bod tor-cyfraith yn rywbeth cynhenid yn eu genynnau felly beth ydi'r rheswm?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Gwe 26 Rhag 2003 2:13 am

Dylan a ddywedodd:Ond cofia, mae'n bosibl bod Bob o o'i go, neu o leiaf ddim yn beth fydden ni yn ei alw yn 'normal'. Mae'n ffaith ddigon syml bod ffactorau cymdeithasol-economaidd yn dylanwadu ar bobl.

I roi enghraifft, pam wyt ti'n credu bod canran anghyfartal o uchel o boblogaeth tlawd du America (sydd ar waelod yr hierarchaeth cymdeithasol) yn y carchar? 'Dw i'n cymryd nad wyt o'r farn bod tor-cyfraith yn rywbeth cynhenid yn eu genynnau felly beth ydi'r rheswm?


Beth yw dy eglurhad di?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Gwe 26 Rhag 2003 2:16 am

Mae'n rhaid ystyried y tlodi aruthrol sy'n bodoli yn eu cymunedau a'r diwylliant treisgar sydd wedi datblygu yn sgîl hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai