Un pwynt arall sydd heb gael ei drafod yma cyn belled ydi'r ffaith nad ydi'r gosb eithaf yn ataliad o gwbl. Mae llofruddiaeth fel arfer yn syrthio mewn i ddau gategori:
1) rhywbeth sy'n digwydd heb feddwl. 'Heat of the moment' fel petai. 'Dydi'r troseddwr yn yr achosion yma ddim yn stopio i ystyried canlyniadau'r weithred na'i ddifrifoldeb. 'Dydi rhywun ddim yn meddwl yn sydyn 'oo, aros funud, os wnai gario ymlaen i stwffio'r gyllell yma mewn i galon y boi yma ella caf fy ngharcharu/nienyddio'.
2) gweithred sydd wedi ei gynllunio yn ofalus a manwl. Mae'r bobl sydd yn gwneud hyn yn amlwg yn meddwl nad oes gobaith iddynt gael eu dal beth bynnag felly wrth gwrs 'dydi'r gosb ddim yn berthnasol iddynt.