Tudalen 10 o 11

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2004 3:22 pm
gan Dylan
Un pwynt arall sydd heb gael ei drafod yma cyn belled ydi'r ffaith nad ydi'r gosb eithaf yn ataliad o gwbl. Mae llofruddiaeth fel arfer yn syrthio mewn i ddau gategori:

1) rhywbeth sy'n digwydd heb feddwl. 'Heat of the moment' fel petai. 'Dydi'r troseddwr yn yr achosion yma ddim yn stopio i ystyried canlyniadau'r weithred na'i ddifrifoldeb. 'Dydi rhywun ddim yn meddwl yn sydyn 'oo, aros funud, os wnai gario ymlaen i stwffio'r gyllell yma mewn i galon y boi yma ella caf fy ngharcharu/nienyddio'.

2) gweithred sydd wedi ei gynllunio yn ofalus a manwl. Mae'r bobl sydd yn gwneud hyn yn amlwg yn meddwl nad oes gobaith iddynt gael eu dal beth bynnag felly wrth gwrs 'dydi'r gosb ddim yn berthnasol iddynt.

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2004 3:29 pm
gan Macsen
Beth am yr annwyl 'Gwraig yn gwr sy di bod yn dyrnu'r crap allan ohoni yn ddi-drugaredd'? Fysai RET yn fodlon rhoi'r ddynes i farwolaeth, pam ei fod o'n amlwg ei bod yr llofruddiaeth un un gyda 'malice aforethought'?

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 12:37 am
gan Dr Gwion Larsen
Sori os oes rhywun wedi dweud hyn yn barod ond diom braidd yn ragrythiol dweud wrth rywun i beidio lladd yna ei lladd nhw?!

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 12:47 am
gan Macsen
Sori os oes rhywun wedi dweud hyn yn barod ond diom braidd yn ragrythiol dweud wrth rywun i beidio lladd yna ei lladd nhw?!


Dim ond 137 o weithiau.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 9:28 am
gan Chris Castle
Boris a ddywedodd:Gwaed oer yw'r pwynt Chris.


Cytuno'n llwyr am y Tabw, dyw credu yn y cosb eithaf ddim yn gwneud ti'n dyn ddrwg.

Ond beth yw "Gwaed oer"?
Lladd Hedddwas - ti'n anhebyg o gael Achos Llys teg os mae ffrindie'r heddwas yn argyhoeddiedig wnest ti i'w ladd ef. Cofiwch y dihareb yn America "OJ got away with Murder because the LAPD framed a guilty man" Does dim digon o ffydd 'da fi yn ein cyfundrefn cyfiawnder.

Terfysgwyr - eisiau bod yn ferthyrod ydyn nhw i denu fwy o bobl ifainc at yr achos. Felly hunanoresgynol yw'r polisi o'u ladd nhw.

Ian Huntley - Ydy ei fersiwn o'r digwyddiad yn llwyr amhosibl? Yntydi hyd yn oed fe'n haeddu ein cydnabyddiaeth y gallen ni fod yn anghywir amdano. Er bydd yn rhy beryglus i'w rhyddhau a mae ddigon o dystiolaeth i'w garcharu.

Moors Murderers - Hard case that makes bad law chwedl y Saeson.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 6:50 pm
gan RET79
Dwi wedi newid fy marn am y pwnc yma gyfeillion. Dwi bellach ddim o blaid y gosb eithaf. Dwi ddim yn ei erbyn chwaith, os yw hynna yn gwneud unrhyw synnwyr, ond teimlaf fod angen system ddedfrydu llawer mwy effeithol a chywir cyn gallu dod a peth fel hyn i fewn.

Felly fuaswn i ddim yn cynnig dod a'r peth i fewn, ond, dwi'n agored i gael fy mherswadio ond ar y cyfan alla i ddim cyfiawnhau o i fi fy hun bellach.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 7:23 pm
gan Macsen
RET79, ti'n ddewrach dyn na nifer ar y Maes i fedru cydnabod pam ti'n anghywir.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 9:37 pm
gan gronw
Macsen a ddywedodd:RET79, ti'n ddewrach dyn na nifer ar y Maes i fedru cydnabod pam ti'n anghywir.

Cytuno â "Macsen" - mae unrhyw un sy'n cydnabod ar ôl dadle un ffordd eu bod nhw wedi cael eu hargyhoeddi/wedi newid eu meddwl yn mynd i fyny yn fy estimation i beth bynnag

PostioPostiwyd: Maw 27 Ion 2004 10:11 am
gan Cwlcymro
Dyna dwi'n ofni, fyswn i byth yn betio yn erbyn y bobl i bledleisio dros y gosb eithaf.

Y tri rheswm penna yn ei erbyn ydi yr un amlwg, h.y. mi allai'r boi fod yn ddi-euog, y ffaith ei fod o'n farbaraidd, a'r ffaith y bysa fo'n cal dim effaith o gwbwl ar y nifer o lofruddiaethau.

O a Macsen, os di'r gwr wedi bod yn malu'r wraif am flynyddoedd, a bod hitha yn ei ladd o, ma'n fwy na phosib y geith hi off efo Dynladdiad yn lle llofruddiad.

Da iawn RET, falch bo pobl yn barod i newid ei meddwl yma, a dim jusd dadla er mwyn dadla (fel dwi'n neud fel arfar!)

y gosb eithaf

PostioPostiwyd: Maw 27 Ion 2004 8:58 pm
gan Y Celt Cymraeg
y ddadl hefo r gosb eitha falle yw, "na all person marw ddysgu ou camgymeriadau"

a sawl person dros y canrifoedd sydd wedi i llad a hwythau yn ddi-euog?!