Tudalen 1 o 2

Saunders Lewis - ei syniadau.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2004 3:28 pm
gan Dylan
[Crewyd yr edefyn yma allan o'r edefyn am Yr Ail Ryfel Byd wrth i bobl gychwyn trafod Saunders Lewis yn benodol. Wrth i'r drafodaeth ddatblygu roeddwn o'r farn fod Saunders a'i syniadaeth yn haeddu edefyn ei hun. Gobeithio ei fod yn llifo'n hawdd. Mwynhewch - gwefeistr]

pogon_szczecin a ddywedodd:A fyddech yn cytuno efo Saunders Lewis pan ysgrifennodd nad oedd gwahaniaeth foesol rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a Hitler?


Wel, 'roedd ganddo bwynt am wn i.

'Roedd Saunders dal yn idiot cofia.

Re: Yr ail ryfel byd.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2004 3:35 pm
gan Boris
Dylan a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:A fyddech yn cytuno efo Saunders Lewis pan ysgrifennodd nad oedd gwahaniaeth foesol rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a Hitler?


Wel, 'roedd ganddo bwynt am wn i.

'Roedd Saunders dal yn idiot cofia.


Oes modd i ti ymhelaethu fan hyn? Mae dy ddatganiad yn dweud pethau mawr felly fe ddylet gyfiawnhau y gosodiad neu jyst tynnu dy eiriau yn ôl.

Dwi chwaith ddim yn credu fod SL yn idiot. Anghywir, anghynnes hyd yn oed - oedd. Idiot - na.

Re: Yr ail ryfel byd.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2004 5:37 pm
gan gronw
Dylan a ddywedodd:Athrylith, ond od. Ac anghywir.

Dwi'n credu bod hynna braidd yn annheg ('anghywir' h.y., mae'n amlwg i bawb a phopeth ei fod e'n od). Falle bod rhai o'i syniade fe'n 'wahanol', ond doedd e ddim yn anghywir o hyd o bell bell ffordd. Fe wnaeth e lot i godi Cymru ar ei thraed. Be am 'Tynged yr Iaith' yn un peth?! Y ddarlith yma ganddo ym 1962 oedd y sbardun i gychwyn Cymdeithas yr Iaith.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2004 5:39 pm
gan Macsen
gronw pebr a ddywedodd:Be am 'Tynged yr Iaith' yn un peth?! Y ddarlith yma ganddo ym 1962 oedd y sbardun i gychwyn Cymdeithas yr Iaith.


Does gan ei gariad at y iaith ddim llawer i wneud a'r ffaith ei fod o'n ffasgydd, nag oedd?

Re: Yr ail ryfel byd.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2004 5:50 pm
gan Dylan
gronw pebr a ddywedodd:Fe wnaeth e lot i godi Cymru ar ei thraed. Be am 'Tynged yr Iaith' yn un peth?! Y ddarlith yma ganddo ym 1962 oedd y sbardun i gychwyn Cymdeithas yr Iaith.


'Dw i ddim yn amau ei fod wedi gwneud lot i gyffroi'r ddadl am yr iaith, a da o beth yn wir oedd hynny, ond eto anghytunaf mai "trwy ddulliau chwyldroadol yn unig y mae llwyddo".

dadl arall yn llwyr ydi hwnna, yn amlwg

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2004 5:54 pm
gan gronw
oce, falle bo fi'n dilyn sgwarnog braidd wrth sôn am tynged yr iaith...

o'n i'n meddwl bod Dylan disgrifio saunders yn gyffredinol wrth ddeud "Athrylith, ond od. Ac anghywir", ond wedi meddwl, jyst am be ddwedodd pogon oedd e'n sôn mae'n debyg.

dim bo fi'n cytuno gyda fe, ond roedd ganddo fe bwynt am yr Ymerodraeth Brydeinig yndoedd? Fel ma sioni size yn deud, ma llawer o brydeinwyr yn meddwl fod prydain yn wynnach na gwyn o hyd, allan nhw ddim gweld be ma nhw di neud i'r byd.

a dwi'n meddwl fod gormod yn cael ei neud o'r busnes 'saunders lewis yn ffasgydd' ma. dyw be ddwedodd e ddim yn golygu o gwbl ei fod e'n cefnogi hitler, a dwi ddim yn meddwl ei fod e'n ffasgydd. adain dde, oedd, a mawrygu uchelwriaeth, a.y.b... fel rhywun ar yr adain chwith, dwi ddim yn cytuno gyda phethe felna. ond doedd e ddim yn ffasgydd, yn fy marn i.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2004 6:18 pm
gan Dylan
'dw i'n cytuno â hynny. Dyna pam 'o'n i'n ofalus i ddweud bod 'rhai rhinweddau ffasgaidd yn ei feddylfryd' yn hytrach na'i alw yn un rhonc.

Re: Yr ail ryfel byd.

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2004 4:19 pm
gan Lowri Fflur
Dylan a ddywedodd:
'Dw i ddim yn amau ei fod wedi gwneud lot i gyffroi'r ddadl am yr iaith, a da o beth yn wir oedd hynny, ond eto anghytunaf mai "trwy ddulliau chwyldroadol yn unig y mae llwyddo".

dadl arall yn llwyr ydi hwnna, yn amlwg


Dylan pam ti ddim yn meddwl mau trwy ddulliau chwyldroadol y mae llwyddo?

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2004 7:06 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae gen i barch mawr tuag at Saunders Lewis, ac dw i'n credu fod ei gyfraniad tuag at Gymru a'r iaith wedi bod yn un aruthrol. Ac fe gafodd Tynged Yr Iaith effaith uniongyrchol ar achub yr iaith, dw i'n credu.

Dw i ddim yn cytuno gyda'i syniadau eraill. Roedd o'n adain dde ac yn sympatheiddio gyda ffasgaeth, ac gyda llawer o syniadau digon rhyfedd fel di-diwydiannu'r cymoedd. Fodd bynnag, ei gyfraniad i frwydr yr iaith sy'n ei wneud yn fwy o arwr na'n wrth-arwr yn fy marn i.

Cyn belled y mae 'trwy ddulliau chwyldro' yn y cwestiwn, dw i'n dueddol o gytuno i raddau helaeth, er nad yn llwyr.

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2004 7:47 pm
gan eusebio
Hogyn o Rachub a ddywedodd:... ac gyda llawer o syniadau digon rhyfedd fel di-diwydiannu'r cymoedd ...


Ia roedd o'n dipyn o Thatcherite ar honna yndoedd ...