Tudalen 2 o 2

Re: Yr ail ryfel byd.

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 3:11 pm
gan Dylan
lowri larsen a ddywedodd:Dylan pam ti ddim yn meddwl mau trwy ddulliau chwyldroadol y mae llwyddo?


'dw i ddim yn sôn am yr iaith yn unig yn yr achos yma ond am chwyldraon yn gyffredinol.

'Dw i jyst o'r farn y dylai newid fod yn raddol. Elli di ddim newid cymdeithas gyfan mewn diwrnod heb iddo droi'n shambyls llwyr.

Re: Yr ail ryfel byd.

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 8:40 pm
gan Lowri Fflur
Dylan a ddywedodd:
lowri larsen a ddywedodd:Dylan pam ti ddim yn meddwl mau trwy ddulliau chwyldroadol y mae llwyddo?


'dw i ddim yn sôn am yr iaith yn unig yn yr achos yma ond am chwyldraon yn gyffredinol.

'Dw i jyst o'r farn y dylai newid fod yn raddol. Elli di ddim newid cymdeithas gyfan mewn diwrnod heb iddo droi'n shambyls llwyr.


Dwi' n deall dy bwynt di

PostioPostiwyd: Sad 24 Ion 2004 1:15 pm
gan Pysgod Gwirioneddol Fawr
hefyd yn dangos fod dim rhaid bod yn asgell chwith i garu'ch iaith a'ch gwlad :winc:

PostioPostiwyd: Sad 24 Ion 2004 3:03 pm
gan RET79
eusebio a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:... ac gyda llawer o syniadau digon rhyfedd fel di-diwydiannu'r cymoedd ...


Ia roedd o'n dipyn o Thatcherite ar honna yndoedd ...


Mae'n eironig iawn fod pobl oedd yn wallgof hefo Thatcher a'r pyllau glo hefyd yn honni eu bod yn caru'r amgylchedd. Doedd gen i fawr ddim o gydymdeimlad hefo'r pyllau glo'n cau.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ion 2004 2:45 pm
gan Hogyn o Rachub
Ia, ond sgen ti fawr o gydymdeimlad gyda dim na neb, nacoes RET?

Rêl Tori ta beth!!

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 6:11 pm
gan Dylan
RET79 a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:... ac gyda llawer o syniadau digon rhyfedd fel di-diwydiannu'r cymoedd ...


Ia roedd o'n dipyn o Thatcherite ar honna yndoedd ...


Mae'n eironig iawn fod pobl oedd yn wallgof hefo Thatcher a'r pyllau glo hefyd yn honni eu bod yn caru'r amgylchedd. Doedd gen i fawr ddim o gydymdeimlad hefo'r pyllau glo'n cau.


Mae hynny yn cael ei drafod mewn edefyn arall. Petaet yn ei ddarllen yn fanwl buaset yn sylweddoli mai blin gyda'r modd yr aeth Magi o'i chwmpas hi, ac ei rhesymau am wneud hynny, y mae pobl. Nid â'r weithred ei hun.

ond ta waeth

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 8:44 pm
gan RET79
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ia, ond sgen ti fawr o gydymdeimlad gyda dim na neb, nacoes RET?

Rêl Tori ta beth!!


Gen i gydymdeimlad hefo pobl sydd yn gweithio'n galed a gweld ffrwyth eu llafur yn cael eu gorfodi o'u pocedi i dalu am nonsens adain chwith.

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2004 8:49 pm
gan Dylan
eh?

wyt ti'n teimlo'n iawn?

Stopia blydi polareiddio bob un dadl wnei di?

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 9:19 am
gan Chris Castle
Fwl Sanctaidd oedd Saunders. Dysgodd ddim am ffasgaeth wedi'r rhyfel. Aeth yn ôl rhag cefnogi Hitler ond fe'i edmygodd Enoch Powell a'i syniadau Cenedlaetholdeb ef - y fath cenedlaetholdeb y mae hyd yn oed y Hogyn yn gwrthod.

Er gwaethaf hynny roedd yn llenor gwych a meddyliwr mae rhaid i'w gymryd o ddifri. Hoff iawn o'i ysgrifen ydw i - hyd yn oed y sawl sy'n gwneud imi foyn ymuno â Gwyn Alf Williams mewn firing squad i saethu'r ***** :crechwen:

Hefyd roedd yn well 'da fe'r FWA na'r CYIG. Di-dreisder oedd yn dacteg iddo nid egwyddor.