Tudalen 1 o 3

Roedd yr FWA braidd o joc!

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 11:54 am
gan Griff-Waunfach
Os oedden nhw o ddifri yn mynd i gynnal gweithredau treisgar yn erbyn y Wladwriath Prydeinig, pam felly oedden nhw yn wisgo uniforms a mynd ar orymdeithiau! Ble oedd y synwyr? Ond mae MAC yn peth hollol wahannol!

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 12:43 pm
gan Sleepflower
Wnath y FWA cynnalo protestiaidau hynod o cwl.

Hefyd, cafodd y dull ddi drais ei wthio i'r lefel eitha.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 1:02 pm
gan bartiddu
Ar ol darllen 'To Dream Of Freedom', sef llyfr amdanynt, 'nes i ddeall mae am rhesymau propaganda yn unig oedd pwrpas y gwisgoedd milwrol.

Ond dwy' ddim yn arbennigwr ar y pwnc, felly mae rhywyn siwr o egluro 'ma cyn hir!

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 1:42 pm
gan Griff-Waunfach
Ond eto galla i ddim a dweud bod y llyfr 'To Dream of Freedom' wedi ei hysgrifennu'n dda.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 2:32 pm
gan Aran
Griff-Waunfach a ddywedodd:Ond eto galla i ddim a dweud bod y llyfr 'To Dream of Freedom' wedi ei hysgrifennu'n dda.


ww, pwynt da - mae'n amlwg bod gormod o bobl wedi anghofio mor holl bwysig ydy safon llenyddiaeth wrth drefnu chwyldro... :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 7:45 pm
gan nicdafis
[wedi dileu cwpl o negeseuon di-bwrpasol]

PostioPostiwyd: Sad 06 Maw 2004 5:40 pm
gan Madrwyddygryf
Wel doeddwn ddim yn joc ond lot siarad mawr ar ol cwpl beints oedd y mudiad. Dwi'n meddwl roedd nhw trio efelychu yr IRA yng Nghymru, ond yn ffodus i ni does yna erioed wedi bod hanes o gwleidyddiaeth treisiol yng Nghymru.

PostioPostiwyd: Sad 06 Maw 2004 8:46 pm
gan bartiddu
Glyndwr??? :winc:

PostioPostiwyd: Llun 08 Maw 2004 12:40 pm
gan Griff-Waunfach
Beth am Glyndwr? :rolio:

PostioPostiwyd: Llun 08 Maw 2004 12:50 pm
gan bartiddu
Ynglyn a Glyndwr gyfaill,

"ond yn ffodus i ni does yna erioed wedi bod hanes o gwleidyddiaeth treisiol yng Nghymru."

Gallech ddadle fod eu rhyfeloedd yn "gwleidyddiaeth treisiol yng Nghymru".

Na'i gyd o'n i'n ceisio awgrymu. Yn gywir neu yn anghhywir gwrthrhyfela oedd e'n neud, felly gwleidyddiaeth ynglwm hefo rhyfela?