Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 10:28 am
gan Cwlcymro
Dim yr FWA oedd y mudiad 'peryglus' yng Nghymru. Os rwbath nhw odd y 'ffrynt'. Doddna'm byd peryglys ynddu nhw, publicity campaign gwych odd yr FWA. Tra oedd Lloegr a'r heddlu yn edrych arny nhw, yn poini ei bod nhw'n cyfarfod efo'r IRA etc mi oddna grwpiau eraill, llawer llai a LLAWER mwy cyfrinachol yn gweithio. Os dwi'n cofio'n iawn mi gafo nhw (y grwpiau eraill) gwpwl o foms i ffwrdd mewn swyddfeudd ac ati.

Dwi'n siwr fod unrhywun sydd wedi gweld fidio ymarfer yr FWA (mi oddo ar rhyw raglen deledu adag y mileniwm) yn sylwi faint o 'stunt' odd y 'fyddin'.

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 11:36 am
gan Sleepflower
Aran a ddywedodd:
Griff-Waunfach a ddywedodd:Ond eto galla i ddim a dweud bod y llyfr 'To Dream of Freedom' wedi ei hysgrifennu'n dda.


ww, pwynt da - mae'n amlwg bod gormod o bobl wedi anghofio mor holl bwysig ydy safon llenyddiaeth wrth drefnu chwyldro... :rolio:


Wel, odi mae'n bwysig. Petai Tynged yr Iaith ddim mor gofiadwy fyddai llawer llai o bobl wedi ymaelodi a Chymdeithas yr Iaith.

Too dream of freedom yn llyfr arbennig, ond credaf 'roedd pen yr awdur yn y c'mylau ar adegau.

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 11:39 am
gan Garnet Bowen
Iesu grist, mi oedd y FWA yn joc llwyr. Dad's Army y mudiad cenedlaethol.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 2:36 pm
gan Griff-Waunfach
Ynglin a Glyndwr;
Digon teg!

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 3:16 pm
gan Leusa
Dachi'n son bod y FWA yn stynt i gael sylw a ballu 'de tra bod na fudiadau 'peryclach' a mwy gweithgar yn bodoli - a'i dyma oedd y bwriad tybed? Neu ydi hwn yn gwestiwn gwirion?!
pwy a wyr be sydd mewn cwpan ysgytlaeth os 'di'r gwpan yn un bapur.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 4:35 pm
gan Cardi Bach
Odd un neu ddau o bobol o fewn yr FWA yn meddwl eu bod nhw o ddifri, ond don nhw ddim.

Odd y Tywi Valley Commondant er enghraifft, nol ar ddiwedd y 60au dechrau 70au ddim yn cymryd y peth o ddifri, na chwaith y Rhondda Valley Commondant.
Criw o freuddwydwyr oedd yn meddwl y bydden nhw'n gallu neu gwahaniaeth o'n nhw, ond odd a fwy o ddiddordeb mewn yfed a tapo eu hunen ar eu cefne yn benna.
Rhai o nhw'n hollol nyts a ohh eu penne fyd.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 9:00 pm
gan Norman
Cardi Bach a ddywedodd:Criw o freuddwydwyr oedd yn meddwl y bydden nhw'n gallu neu gwahaniaeth o'n nhw


Mwy o feddylfryd felma sydd angen wan, dyma pam does na neb yn pledleisho a ballu ddim mwy

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 11:02 pm
gan Leusa
rhyfedd i chi son am hynna, yn defnyddio'r term 'breuddwydwyr', gan mai'r gair yna oedd yn cael ei ddefnyddio drosodd a throsodd gan Emyr Llewelyn yn y brotest dydd mercher o flaen y cynulliad.
Drwy droi fynegi ei falchder bod cymaint o bobl yno'n dangos eu cefnogaeth mi ddudodd o rhywbeth fel, "Mae'r breuddwydwyr yn ôl!", a oedd o'n neud chi deimlo yn dda i gyd, fel pan dachi yn yfad ysgytlaeth.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 11:15 pm
gan Lowri Fflur
Leusa mae dy obsesiwn efo ysgytlaeth wedi mynd yn drech arna chdi :winc:

PostioPostiwyd: Iau 18 Maw 2004 10:01 am
gan Chris Castle
Madrwyddygryf a ddywedodd:... ond yn ffodus i ni does yna erioed wedi bod hanes o gwleidyddiaeth treisiol yng Nghymru.


Ie achos dyw'r ysgrifenyddes i'r Tori na'r Postmon a chafodd eu llosgi'n ddifrifol gan fomiau llythyrau ddim yn cyfri. Na'r targedau eraill gafodd ddihangfa lwcus ychwaith.

Targedu'r tren brenhinol? - faint buasai wedi marw?

Llosgi tai gyda cyflenwad nwy/petrol sy'n gallu ffrwydro a dinisitrio holl stryd?

Mae Cenedlaetholwyr yn rhy gyflym i anghofio'r pethau drwg. Dyw'r mudiadadau yna ddim yn Jocan. Nyttars peryglus heb feddwl ydyn nhw.