RET79 a ddywedodd:Dwi'n credu os yw person yn dangos dawn a thalent yna dylsai'r person yma gael ei ddyrchafu a cael cyfleon er mwyn iddo ef/hi symud ymlaen i wneud gwaith da ar lefel uwch hefo mwy o gyfrifoldeb.
Ond y trafferth ydi bod y bobl sydd yn llwyddo i gyrraedd y mannau uchel yma yn defnyddio eu pwer a'u harian er mwyn sicrhau eu bod yn aros yno.
Mae'r syniad mai trwy weithio yn galed y daw llwyddiant yn swnio'n reit neis, ond er mwyn i hynny fod yn wir mae angen sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle. A 'dydi hynny ddim yn digwydd. Mae cyfaladdiaeth yn reit glyfar yn y fan hyn - mae ganddo ddadl hawdd a syml er mwyn esbonio pam bod pobl yn dlawd: "'dydyn nhw ddim yn trio'n ddigon caled!"
yn anffodus 'dydi pethau ddim mor syml a hynny, o bell ffordd.