Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n cytuno'n llwyr mai dirywiad amgylcheddol ydi un o'r bygythiadau mwyaf i ddynoliaeth, ond dwi'n meddwl mai'r ffordd o fynd i'r afael a'r pwnc ydi drwy drafodaeth onest, yn hytrach na drwy gyfuniad o hysteria a phroffwydoliaethau gwae.
Ond gyda nifer o wledydd, fel America, yn anwybddu'r problemau yn gyfan gwbwl, a newyddiadurwyr ddim yn barod i drafod y pwnc, ydi gwyddonwyr a grwpiau amgylcheddol yn gorfod gor ddweud y broblem fel bod eraill yn cymeryd sylw ohoni yn y lle cyntaf? Cymer fel esiampl y ffilm newydd The Day After Tommorow. Mae gwyddoniaeth simsan dros ben tu ol iddi, ond os mae'r ffilm yn gwneud i bobl gwestiynnu'r ffordd mae America yn anwybyddu'r broblem amgylcheddol onid yw'n beth da ar y cyfan?
I grynhoi fy nadl yn yr edefyn hwn, cyn iddi fynd ar chwal: Mae'n bosib dadlau mae un o brif gyfraniadau cyfalfiaeth i'n cymdeithas yw diwylliant o wastraffu eithafol. Yn wahanol i grefydd Taoist, Buddhist neu un o amryw grefyddau'r dwyrain, mae dyneiddiaeth Judeo-Christian y gorllewin yn gweld natur fel adnodd i gyflawni ein chwant dynol ni'n unig; "The most extreme manifestation of this anthropocentric paradigm is reflected in the dominant values and beliefs of consumerism.” (Stegar, Manfred B. 2003) Mae'r diwylliant o wastraff hwn wedi arwain at boethi byd-eang wedi ei achosi gan nwy ty-gwydr a tanwydd fossil a tyllau yn yr oson wedi' achosi gan chlorofluorocarbons (cyfieithiad?), problemau amgylcheddol sy'n effeithio'r Ddear gyfan nid y gymdeithas sydd yn ei creu yn unig. Bod y broblem yma ar ei waethaf yn y gorllewin, lle mae cyfalafiaeth ar ei fwyaf rhydd, yn dangos cyswllt uniongyrchol rhwng y diwylliant treuliwr wedi ei greu gan gyfalafiaeth a problemau amgylcheddol: "The United States comprises only 6% of the world’s population, but it consumes 30-40% of our planet’s natural resources.” (Stiglitz, Joseph. 2002) Nid yw'r diwylliant o ddefnyddwyr yma'n gwastraffu yn unig, ond wrth ei natur yn rhoi ychydig iawn o feddwl i'r dyfodol. Mae hysbysebu yn dweud wrthom ni i fyw am y foment, yn cymylu effeithiau tymor hir ein hedoniaeth: "Nor are long-range desires considered: an interest in leaving non-toxic environment to our children receives less attention than desires for consumer goods whose manufacture produces a by-product of toxic waste.” (Schudson, Micheal. 1984)
Er hynny, mi all ddadlau bod, yn y tymor hir, wedi ei borthi gan y gyfalafiaeth a'r diwylliant o dreulio sy'n dod llaw yn llaw, dyrchafiadau mewn technoleg yn mynd i arwain at lai o broblemau amgylcheddol na achoswyd gan yr hen dechnoleg llymrig gynt. Mae'r syniad yma bod dyrchafiadau mewn technoleg yn lleihau problemau amgylcheddol wedi ei seilio bennaf ar y problemau amgylcheddol yn y byd sy'n datblygu: “On the contrary, it is in the developing countries that we find the gravest, most harmful environmental problems. In our affluent part of the world, more and more people are mindful of environmental problems such as endangered green areas.” (Norberg, Johan. 2003)
Bosib bod hyn yn wir, ond mae hi dal yn anodd dadlau bod, beth bynnag y gwellianau mewn technoleg, bod cyfalafiaeth a'r diwylliant o ddefnyddio sy'n dod llaw yn llaw ag ef bob tro'n mynd i greu mwy o wastraff nag cymdeithas amcanus. Hmmm, dw i wedi ysgrifennu 'chydig mwy o eiriau nag oeddwn i wedi meddwl gwneud.