Dwi'n meddwl mae cyfalafiaeth yw'r system orau sydd ar gael i ni - peidiwch a camddeall hyn a'r syniad mod i'n meddwl fod y status quo yn berffaith, nid dyma dwi'n ddweud o gwbl.
'Meritocracy' yw beth dwi'n meddwl sydd yn deg, a cyfalafiaeth yw'r ffordd agosaf dwi wedi ei weld i wireddu'r freuddwyd yma.
Dwi'n credu os yw person yn dangos dawn a thalent yna dylsai'r person yma gael ei ddyrchafu a cael cyfleon er mwyn iddo ef/hi symud ymlaen i wneud gwaith da ar lefel uwch hefo mwy o gyfrifoldeb. Yn anffodus o beth dwi wedi ei weld a'i glywed mae llawer o bobl di-ddim yn tueddu i gael dyrchafiadau a cyfloeon dyw nhw jest ddim yn ei haeddu, gan fod nhw'n nabod y pobl iawn, cysgu hefo'r bobl iawn etc.
Dwi ddim yn hoffi sosialaeth gan mae hyn yn tynnu lawr y wobr i'r rhai sydd wedi mynd yn bell (er wrth gwrs, dyw y ffaith fod nhw wedi mynd yn bell ddim yn golygu eu bod yn haeddu bod yno, ond ta waeth).
Hoffwn i bobl sylweddoli fod cefnogi cyfalafiaeth ddim yn golygu ti'n cefnogi person di-dalent yn gwneud yn well o'r system na person talentog, gan buasai system cyfalafol sy'n cael ei weithredu'n iawn ddim yn caniatau sefyllfa felna ddatblygu.
Mae gadael i'r bobl orau ddod i'r top yn well i ni i gyd. Oni fuasai'n byd ni'n rhedeg yn llawer mwy esmwyth os buasai'n pobl fwyaf talentog ni yn rhedeg eu maesydd nhw?