Macsen a ddywedodd:The dismissal of climate change by journalistic nincompoops is a danger to us all. O leia mae Monibot yn cytuno da fi.
Ac yn dangos bod siarad am yr amgylchedd yn niddordeb neb, hyd yn oed newyddiadurwyr.
Nid gwadu fod 'na gonsensws pendant ynglyn a'r amgylchedd o'n i, dim ond nodi fod 'na anghytuno o fewn y consensws hwnw. A tydw i ddim yn meddwl fod darogan y bydd gan Brydain hinsawdd debyg i Siberia mew 16 mlynedd yn adlewyrchiad o'r consensws hwnw.
Macsen a ddywedodd:
Digon teg yw dadlau y bydd technoleg yn medru lleihau gwastraff mewn rhai ffyrdd. Mae e-bost wedi lleihau gwastraff papur, fel esiampl da. Ond mae dadlau bod y systemau hyn ddim yn llyncu deunydd crai ychydig o bembleth. Wyt ti'n meddwl mae hamster bach ar olwyn sy'n rhedeg dy gyfrifiadur di?
Wrth gwrs fod defnyddio cyfrifiadur i yrru e-bost yn weithred sy'n bwyta adnoddau naturiol, ond mae'n defnyddio llawer llai o adnoddau na gyrru llythyr. Ydi hi'n hollol wallgo dychmygu y gwnawn ni ddatblygu modd hyd yn oed mwy effeithlon o gyfarthrebu yn y dyfodol?
Y broblem gyda llawer iawn o ddadleuon am yr amgylchedd ydi eu bod nhw'n methu a cydnabod y ffactor yma. Mae nhw'n gwneud yr un cangymeriad a'r athronydd Thomas Malthus. Ar ddiwedd y G18, fe wnaeth o ddarogan fod poblogaeth y ddaear yn tyfu ar y fath raddfa fel na fyddai 'na ddigon o fwyd yn bodoli i gynnal holl drigolion y ddaear yn y diwedd, ac y bydda ni i gyd yn llwgu. Wrth gwrs, mi oedd o wedi edrych ar y modd yr oedd bwyd yn cael ei gynhyrchu yn 1798, gan fethu a sylweddoli y byddai newidiadau technolegol yn trawsnewid y modd yr oedd bwyd yn cael ei gynhyrchu, gan arwain at ormodedd, yn hytrach na phrinder.
Wrth geisio edrych ar ddyfodol ein planed, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad yda ni'n gwneud yr un cangymeriadau a Malthus. Mae galw am newid yn un peth, ond mae darogan gwae yn beth arall. Sut ti'n meddwl mae pobl yn mynd i ymateb i'r mudiad amgylcheddol os wyt ti'n deud wrthyn nhw fod Prydain yn mynd i fod fel Siberia ymhen 16 mlynedd, a tydi hynny ddim yn digwydd? Pam mor debygol fydda nhw i gredu unrhywbeth mae'r mudiad amgylcheddol yn ei ddeud wedyn?