Nid cyfalafiaeth yw'r bai

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Iau 29 Ebr 2004 8:34 am

Macsen a ddywedodd:The dismissal of climate change by journalistic nincompoops is a danger to us all. O leia mae Monibot yn cytuno da fi. :winc:

Ac yn dangos bod siarad am yr amgylchedd yn niddordeb neb, hyd yn oed newyddiadurwyr.


Nid gwadu fod 'na gonsensws pendant ynglyn a'r amgylchedd o'n i, dim ond nodi fod 'na anghytuno o fewn y consensws hwnw. A tydw i ddim yn meddwl fod darogan y bydd gan Brydain hinsawdd debyg i Siberia mew 16 mlynedd yn adlewyrchiad o'r consensws hwnw.

Macsen a ddywedodd:
Digon teg yw dadlau y bydd technoleg yn medru lleihau gwastraff mewn rhai ffyrdd. Mae e-bost wedi lleihau gwastraff papur, fel esiampl da. Ond mae dadlau bod y systemau hyn ddim yn llyncu deunydd crai ychydig o bembleth. Wyt ti'n meddwl mae hamster bach ar olwyn sy'n rhedeg dy gyfrifiadur di?


Wrth gwrs fod defnyddio cyfrifiadur i yrru e-bost yn weithred sy'n bwyta adnoddau naturiol, ond mae'n defnyddio llawer llai o adnoddau na gyrru llythyr. Ydi hi'n hollol wallgo dychmygu y gwnawn ni ddatblygu modd hyd yn oed mwy effeithlon o gyfarthrebu yn y dyfodol?

Y broblem gyda llawer iawn o ddadleuon am yr amgylchedd ydi eu bod nhw'n methu a cydnabod y ffactor yma. Mae nhw'n gwneud yr un cangymeriad a'r athronydd Thomas Malthus. Ar ddiwedd y G18, fe wnaeth o ddarogan fod poblogaeth y ddaear yn tyfu ar y fath raddfa fel na fyddai 'na ddigon o fwyd yn bodoli i gynnal holl drigolion y ddaear yn y diwedd, ac y bydda ni i gyd yn llwgu. Wrth gwrs, mi oedd o wedi edrych ar y modd yr oedd bwyd yn cael ei gynhyrchu yn 1798, gan fethu a sylweddoli y byddai newidiadau technolegol yn trawsnewid y modd yr oedd bwyd yn cael ei gynhyrchu, gan arwain at ormodedd, yn hytrach na phrinder.

Wrth geisio edrych ar ddyfodol ein planed, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad yda ni'n gwneud yr un cangymeriadau a Malthus. Mae galw am newid yn un peth, ond mae darogan gwae yn beth arall. Sut ti'n meddwl mae pobl yn mynd i ymateb i'r mudiad amgylcheddol os wyt ti'n deud wrthyn nhw fod Prydain yn mynd i fod fel Siberia ymhen 16 mlynedd, a tydi hynny ddim yn digwydd? Pam mor debygol fydda nhw i gredu unrhywbeth mae'r mudiad amgylcheddol yn ei ddeud wedyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dielw » Iau 29 Ebr 2004 9:16 am

Un posibilrwydd ydi bod y newid hinsawdd yma ddim yn digwydd o gwbl jyst newidiadau naturiol diweddar dyn nhw. Dwi wastad di bod yn optimist.

Dwi'n meddwl bydd rhaid datblygu systemau egni adnewyddol ar raddfa enfawr reit fuan. Mae gan Gymru lot fawr o ddwr fasa'n gallu cael ei ddefnyddio i greu egni.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan RET79 » Iau 29 Ebr 2004 4:43 pm

Macsen a ddywedodd:Mi oedd yna hydynoed erthygl am newid yn yr amgylchedd yn y Daily Mirror heddiw (neu ddoe, erbyn hyn). Dwi'n gwybod dy fod ti'n hoffi tabloids, RET. Beth am gael golwg?

Macsen a ddywedodd:Sori, wnei di egluro sut mae dyfyniad y Chief yn ffitio mewn hefo'r drafodaeth yma?


Dyma ddyfyniad y chief:

Chief Seattle. Chief of the Dwamish Native Americans a ddywedodd:Only when the last tree has died, and the last river been poisoned, and the last fish been caught, will we realise, we cannot eat money.


Os nad wyt ti'n medru gweithio hyn allan dy hun ynghyswllt trafodaeth am yr amgylchedd, does dim gobaith i ti fedru deall unrhywbeth bron, a dwi'n credu fy mod i wedi gwastraffu gormod o fy amser yn ymateb i dy sothach yn barod. Pa eiriau fysai Cornelious Biggins* yn defnyddio i dy ddisgrifio tybed? 'Harrisonant smatchet', bosib. :winc:

*Plug.


Ti heb ateb fy nghwestiwn. Yr oll ti wedi ei wneud yw ail-adrodd y dyfyniad a bod yn nawddoglyd.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Owain Llwyd » Iau 29 Ebr 2004 6:38 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Wrth gwrs fod defnyddio cyfrifiadur i yrru e-bost yn weithred sy'n bwyta adnoddau naturiol, ond mae'n defnyddio llawer llai o adnoddau na gyrru llythyr.


Ddim yn siwr am hyn. Wyt ti'n cymryd i ystyriaeth yr holl ddeunyddiau crai a'r egni sy'n gysylltiedig efo cynhyrchu a dosbarthu'r offer cyfrifiadurol angenrheidiol yn y lle cynta, heb anghofio'r llygredd cysylltiedig ar ol i'r offer gael eu taflu? A'r pecynnu, wrth gwrs. Hyn i gyd dipyn yn fwy niweidiol i'r amgylchedd na darn o bapur, amlen, stamp a fountain pen, swn i'n dweud.

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae nhw'n gwneud yr un cangymeriad a'r athronydd Thomas Malthus. Ar ddiwedd y G18, fe wnaeth o ddarogan fod poblogaeth y ddaear yn tyfu ar y fath raddfa fel na fyddai 'na ddigon o fwyd yn bodoli i gynnal holl drigolion y ddaear yn y diwedd, ac y bydda ni i gyd yn llwgu. Wrth gwrs, mi oedd o wedi edrych ar y modd yr oedd bwyd yn cael ei gynhyrchu yn 1798, gan fethu a sylweddoli y byddai newidiadau technolegol yn trawsnewid y modd yr oedd bwyd yn cael ei gynhyrchu, gan arwain at ormodedd, yn hytrach na phrinder.


Mi fydd yn ddiddorol gweld be ddigwyddith wrth i olew fynd yn fwyfwy prin, gan mor ddibynnol arno fo ydi amaeth-fusnes erbyn hyn ar gyfer cynhyrchu pla-leiddiaid a ballu, yn ol dw i wedi'i ddarllen. Ella mai Malthus fydd yn cael y gair olaf wedi'r cyfan. Yn y cyfamser, mae gormod o bobl yn dal i lwgu, beth bynnag.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Macsen » Iau 29 Ebr 2004 9:30 pm

RET79 a ddywedodd:Ti heb ateb fy nghwestiwn. Yr oll ti wedi ei wneud yw ail-adrodd y dyfyniad a bod yn nawddoglyd.


Dw i wedi rhoi'r gorau i drafod da ti am y tro, RET79. Dyma un dyfyniad olaf:

William G. McAdoo a ddywedodd:It is impossible to defeat an ignorant man in argument.


Garnet Bowen a ddywedodd:A tydw i ddim yn meddwl fod darogan y bydd gan Brydain hinsawdd debyg i Siberia mew 16 mlynedd yn adlewyrchiad o'r consensws hwnw.


Dwi'n cytuno bod 16 mlynedd yn besimistic (neu'n optimistic, os wyt ti'n sado-masochistic panpsychist). 66 mlynedd yw'r consensws credaf (tua 2070).

Garnet Bowen a ddywedodd:Wrth gwrs fod defnyddio cyfrifiadur i yrru e-bost yn weithred sy'n bwyta adnoddau naturiol, ond mae'n defnyddio llawer llai o adnoddau na gyrru llythyr. Ydi hi'n hollol wallgo dychmygu y gwnawn ni ddatblygu modd hyd yn oed mwy effeithlon o gyfarthrebu yn y dyfodol?


Wrth gwrs nad ydyw. Mi fydd ffyrdd llai gwastraffus yn cael ei datblygu yn y dyfodol, ond dim ar raddfa digon cyflym i osgoi y perygl. Yn bosib bydd pobl yn sylwi y niwed yr ydym ni'n gwneud i'r amgylchedd mewn pryd i osgoi'r perygl, ond bydd rhaid darganfod system llai gwastraffus. Os cario mlaen gyda cyfalafiaeth bydd hi'm yn gyfalafiaeth mor rydd a mae hi heddiw. Bydd rhaid i gwmniau wario mwy o bres ar lleihau y gwastraff sydd yn cael ei greu. Mi wyt ti'n pwyntio tuag at Thomas Malthus fel esiampl, ond y gwir yw bod llai o fwyd yn y byd dyddiau yma nag oedd o'r blaen. Efallai bod technoleg yn slofi'r dinistr, ond slofi yn unig.

Macsen a ddywedodd:Mae galw am newid yn un peth, ond mae darogan gwae yn beth arall.


Galw am newid ydw i, dim sefyll ar ben bocs yn proffwydoli diwedd y byd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Iau 29 Ebr 2004 10:01 pm

Macsen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Ti heb ateb fy nghwestiwn. Yr oll ti wedi ei wneud yw ail-adrodd y dyfyniad a bod yn nawddoglyd.


Dw i wedi rhoi'r gorau i drafod da ti am y tro, RET79. Dyma un dyfyniad olaf:

William G. McAdoo a ddywedodd:It is impossible to defeat an ignorant man in argument.

.


OK, wel mae'r agwedd yma'n dweud lot am dy sgiliau trafod. Falle ti ddim yn ateb y cwestiwn gan fod ti ddim yn gwybod sut i'w ateb, felly ti'n byhafio'n ddychanol a nawddoglyd fel cyfyr-up.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Iau 29 Ebr 2004 10:20 pm

ret79 a ddywedodd:OK, wel mae'r agwedd yma'n dweud lot am dy sgiliau trafod. Falle ti ddim yn ateb y cwestiwn gan fod ti ddim yn gwybod sut i'w ateb, felly ti'n byhafio'n ddychanol a nawddoglyd fel cyfyr-up.


Dyna psychoanalysis clefar, Dr. Freud. Cym on RET, mae pwrpas y dyfyniad yn amlwg. Rho'r gorau i dy drolian, wnei di? Dwi'n gwybod dy fod ti'n foi digon clefar an y bon (hei, mi esti i Cardydd :winc: ) ond mae'r 'feigned ignorance' ma'm mynd ar fy nerfs i. (Sori os dwi'n swnio'n nawddoglyd, ond gen i 'mhen gymaint yn y cymylau mae'n anodd peidio edrych lawr).
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Iau 29 Ebr 2004 11:15 pm

Macsen a ddywedodd:
ret79 a ddywedodd:OK, wel mae'r agwedd yma'n dweud lot am dy sgiliau trafod. Falle ti ddim yn ateb y cwestiwn gan fod ti ddim yn gwybod sut i'w ateb, felly ti'n byhafio'n ddychanol a nawddoglyd fel cyfyr-up.


Dyna psychoanalysis clefar, Dr. Freud. Cym on RET, mae pwrpas y dyfyniad yn amlwg. Rho'r gorau i dy drolian, wnei di? Dwi'n gwybod dy fod ti'n foi digon clefar an y bon (hei, mi esti i Cardydd :winc: ) ond mae'r 'feigned ignorance' ma'm mynd ar fy nerfs i. (Sori os dwi'n swnio'n nawddoglyd, ond gen i 'mhen gymaint yn y cymylau mae'n anodd peidio edrych lawr).


Dwi ddim yn gofyn i ti wneud asesiad o pa more glefer ydw i, gofyn ydw i i ti ateb y cwestiwn.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Iau 29 Ebr 2004 11:23 pm

RET79 a ddywedodd:Dwi ddim yn gofyn i ti wneud asesiad o pa more glefer ydw i, gofyn ydw i i ti ateb y cwestiwn.


:rolio: Am y tro olaf:

Chief Seattle. Chief of the Dwamish Native Americans a ddywedodd:Only when the last tree has died, and the last river been poisoned, and the last fish been caught, will we realise, we cannot eat money.


Mae'r dyfyniad yn cyfeirio at y ffaith bod cyfalafiaeth, sef y "money" mae o'n son amdano, yn distrwio yr amgylchedd, sef y "tree", "river" a "fish" mae'n cyfeirio ato. Yn ol ei dyb o, wedi i gyfalafiaeth ddinistro'r pethau hyn i gyd, mi fyddan ni'n sylwi bod dim gwir werth i bres heb yr amgylchedd i gadw ni'n fyw (bwyd, diod, aer, ecetra), ergo: "We cannot eat money." Roeddwn i'n meddwl ei fod o'n hawdd iawn ei ddeall, ond dyna ni. Ti'n galw fi'n nawddoglyd ond dyma fi'n esbonio'r peth i ti fel bo ti'n blentyn clwt.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Iau 29 Ebr 2004 11:27 pm

Macsen a ddywedodd: :rolio: Am y tro olaf:


Am y tro CYNTAF fyddai wedi bod yn gywir.

Dwi ddim yn meddwl llawer o'r dyfyniad yna gyda llaw. Dyna pam wnes i ofyn i ti ei egluro rhag ofn fy mod i'n methu allan ar rywbeth spesial.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron