Garnet Bowen a ddywedodd:Owain Llwyd a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Wrth gwrs fod defnyddio cyfrifiadur i yrru e-bost yn weithred sy'n bwyta adnoddau naturiol, ond mae'n defnyddio llawer llai o adnoddau na gyrru llythyr.
Ddim yn siwr am hyn. Wyt ti'n cymryd i ystyriaeth yr holl ddeunyddiau crai a'r egni sy'n gysylltiedig efo cynhyrchu a dosbarthu'r offer cyfrifiadurol angenrheidiol yn y lle cynta, heb anghofio'r llygredd cysylltiedig ar ol i'r offer gael eu taflu? A'r pecynnu, wrth gwrs. Hyn i gyd dipyn yn fwy niweidiol i'r amgylchedd na darn o bapur, amlen, stamp a
fountain pen, swn i'n dweud.
A be am y petrol sy'n mynd i injan y fan bost? Neu'r awyren bost?
Be' amdano fo? Os wyt ti'n ynysu'r union weithred o sicrhau bod neges yn teithio rhwng pwynt A a phwynt B, mi fyddi di'n defnyddio llai o egni efo e-bost. Ond wnes i ddim sylwi i mi anghytuno efo chdi yn hynny o beth.
Y broblem gen innau ydi bod chdi i dy weld yn ynysu'r weithred yna o gost anferthol (o ran deunyddiau anadnewyddadwy, ynni, llygredd a ballu) sy'n ei gwneud yn bosib yn y lle cynta. Ac wedi cymryd i ystyriaeth cost galluogi un person i ddefnyddio e-bost, mi gei di wneud hynny eto ar gyfer pawb bydd hwnna isio anfon e-bost atyn nhw. Wedyn eto, i bawb gael adnewyddu offer cyfrifiadurol methedig yn gymharol reolaidd. A dydi hynna ddim hyd yn oed yn dechrau ystyried costau amgylcheddol offer yr holl ISPs, a'r domen deunyddiau hysbysebu, a thanwydd i gludo'r offer o gwmpas y byd o'r lle cynhyrchu i'r cartref, er enghraifft.
O gymryd pob dim efo'i gilydd, gyrru llythyr yn y dull traddodiadol sy'n llai amgylcheddol niweidiol o bell ffordd, hyd yn oed o gymryd y tanwydd i ystyriaeth.
Garnet Bowen a ddywedodd:Owain Llwyd a ddywedodd:Mi fydd yn ddiddorol gweld be ddigwyddith wrth i olew fynd yn fwyfwy prin, gan mor ddibynnol arno fo ydi amaeth-fusnes erbyn hyn ar gyfer cynhyrchu pla-leiddiaid a ballu, yn ol dw i wedi'i ddarllen. Ella mai Malthus fydd yn cael y gair olaf wedi'r cyfan. Yn y cyfamser, mae gormod o bobl yn dal i lwgu, beth bynnag.
Toes 'na neb yn llwgu am fod 'na brinder bwyd ar y ddaear. Gormodedd o fwyd sydd gennym ni, nid dim digon.
Dw i'n ymwybodol o hynny, a heb fod yn hollol siwr pam wnes i ychwanegu'r frawddeg ola 'na. Ond gan fod y mater wedi codi, waeth i chdi rannu dy syniadau am y rhesymau dros i bobl newynnu er gwaetha gormod o fwyd. Wedyn mi gawn ni anghytuno am hynny hefyd, siwr.
Garnet Bowen a ddywedodd:Ond defnyddio Malthus fel enghraifft ddamhegol on i. Wyt ti'n wirioneddol gredu mai pla-leiddiaid wedi ei gwneud o olew ydi'r pinacl, ac ei bod hi tu hwnt i allu dynoliaeth i fedru creu ffordd newydd o warchod ein cnydau?
At ei gilydd, dw i'n besimistaidd. Ddim oherwydd diffyg atebion, ond oherwydd diffyg parodrwydd, am ba reswm bynnag, i'w gweithredu mewn da bryd.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.