Nid cyfalafiaeth yw'r bai

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Iau 06 Mai 2004 8:09 am

Macsen a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Y broblem efo hyn - fel dwi wedi ei nodi uchod - ydi fod y mudiad amgylcheddol yn mynd i gael ei gyhuddo o godi bwganod os nad ydi Prydain wedi troi yn Siberiaidd erbyn 2020/2070, a mae pobl yn mynd i roi'r gorau i wrando arnyn nhw. Mae'n well i ni fod yn onest ynglyn a'r peryglon, yn hytrach na cheisio dychryn pobl i gytuno a ni.


Be wyt ti'n meddwl y dylsen nhw wneud yn lle? Bod yn ddistaw ar mater yr amgylchedd, fel bod pawb yn gwrando arnyn nhw? Beth yw pwynt fod yn fudiad credadwy sydd byth yn dweud dim? Dwi'n credu ei bod nhw'n ddigon gonest am y dyddiad 2070, ond wrth gwrs gall neb edrych i mewn i'r dyfodol. Rydw i'n gobeithio ei bod nhw'n anghywir, ond dwi'n meddwl ei bod nhw'n iawn.


Nid bod yn ddistaw, ond bod yn realistic. Peidio a throi yn broffwydi gwae, ond yn hytrach cynnal dadl ddeallusol wedi ei selio ar ffeithiau, yn hytrach na chodi bwganod.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Macsen » Iau 06 Mai 2004 4:53 pm

Dyma yr ateb mae ein technoleg gwych ni wedi' daflu fyny: Llosgi popeth! Dim ond 'minor effect' ar ein iechyd ni mae'n mynd i gael. O leia byddan ni'n ei anadlu mewn yn lle bod o dan draed. :gwyrdd:

Beth bynnag, dyma esiampl o sut mae'r technoleg diweddara' yn distrywio'n amgylchedd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 07 Mai 2004 8:29 am

Macsen a ddywedodd:Beth bynnag, dyma esiampl o sut mae'r technoleg diweddara' yn distrywio'n amgylchedd.


Erthygl BBC a ddywedodd:
It is not yet known what the long-term effects of this pollution may be.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Owain Llwyd » Gwe 07 Mai 2004 9:19 am

Garnet Bowen a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Beth bynnag, dyma esiampl o sut mae'r technoleg diweddara' yn distrywio'n amgylchedd.


Erthygl BBC a ddywedodd:
It is not yet known what the long-term effects of this pollution may be.


Dy bwynt ydi ...?
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Macsen » Gwe 07 Mai 2004 2:07 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Beth bynnag, dyma esiampl o sut mae'r technoleg diweddara' yn distrywio'n amgylchedd.


Erthygl BBC a ddywedodd:
It is not yet known what the long-term effects of this pollution may be.


O wel, tydyn nhw ddim yn gwybod. 'Out of sight, out of mind' fel mae'r hen ddywediad yn mynd. :?

Beth ydi dy farn di ar y darn hwn o newyddion Garnet? Dim rywbeth ymhell yn y dyfodol yw'r newidiadau rhain!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Llun 17 Mai 2004 1:58 pm

Macsen a ddywedodd:
O wel, tydyn nhw ddim yn gwybod. 'Out of sight, out of mind' fel mae'r hen ddywediad yn mynd. :?

Beth ydi dy farn di ar y darn hwn o newyddion Garnet? Dim rywbeth ymhell yn y dyfodol yw'r newidiadau rhain!


Mae'r stori yna yn creu pryder mawr i mi, yn enwedig gan fy mod i'n dioddef o asma. Nid ceisio gwadu ein bod ni'n niweidio'r amgylchedd ydw i, dim ond ymbil am ychydig o bwyll wrth drafod y pwnc. Dwi'n cytuno'n llwyr mai dirywiad amgylcheddol ydi un o'r bygythiadau mwyaf i ddynoliaeth, ond dwi'n meddwl mai'r ffordd o fynd i'r afael a'r pwnc ydi drwy drafodaeth onest, yn hytrach na drwy gyfuniad o hysteria a phroffwydoliaethau gwae.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Macsen » Maw 18 Mai 2004 4:26 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n cytuno'n llwyr mai dirywiad amgylcheddol ydi un o'r bygythiadau mwyaf i ddynoliaeth, ond dwi'n meddwl mai'r ffordd o fynd i'r afael a'r pwnc ydi drwy drafodaeth onest, yn hytrach na drwy gyfuniad o hysteria a phroffwydoliaethau gwae.


Ond gyda nifer o wledydd, fel America, yn anwybddu'r problemau yn gyfan gwbwl, a newyddiadurwyr ddim yn barod i drafod y pwnc, ydi gwyddonwyr a grwpiau amgylcheddol yn gorfod gor ddweud y broblem fel bod eraill yn cymeryd sylw ohoni yn y lle cyntaf? Cymer fel esiampl y ffilm newydd The Day After Tommorow. Mae gwyddoniaeth simsan dros ben tu ol iddi, ond os mae'r ffilm yn gwneud i bobl gwestiynnu'r ffordd mae America yn anwybyddu'r broblem amgylcheddol onid yw'n beth da ar y cyfan?

I grynhoi fy nadl yn yr edefyn hwn, cyn iddi fynd ar chwal: Mae'n bosib dadlau mae un o brif gyfraniadau cyfalfiaeth i'n cymdeithas yw diwylliant o wastraffu eithafol. Yn wahanol i grefydd Taoist, Buddhist neu un o amryw grefyddau'r dwyrain, mae dyneiddiaeth Judeo-Christian y gorllewin yn gweld natur fel adnodd i gyflawni ein chwant dynol ni'n unig; "The most extreme manifestation of this anthropocentric paradigm is reflected in the dominant values and beliefs of consumerism.” (Stegar, Manfred B. 2003) Mae'r diwylliant o wastraff hwn wedi arwain at boethi byd-eang wedi ei achosi gan nwy ty-gwydr a tanwydd fossil a tyllau yn yr oson wedi' achosi gan chlorofluorocarbons (cyfieithiad?), problemau amgylcheddol sy'n effeithio'r Ddear gyfan nid y gymdeithas sydd yn ei creu yn unig. Bod y broblem yma ar ei waethaf yn y gorllewin, lle mae cyfalafiaeth ar ei fwyaf rhydd, yn dangos cyswllt uniongyrchol rhwng y diwylliant treuliwr wedi ei greu gan gyfalafiaeth a problemau amgylcheddol: "The United States comprises only 6% of the world’s population, but it consumes 30-40% of our planet’s natural resources.” (Stiglitz, Joseph. 2002) Nid yw'r diwylliant o ddefnyddwyr yma'n gwastraffu yn unig, ond wrth ei natur yn rhoi ychydig iawn o feddwl i'r dyfodol. Mae hysbysebu yn dweud wrthom ni i fyw am y foment, yn cymylu effeithiau tymor hir ein hedoniaeth: "Nor are long-range desires considered: an interest in leaving non-toxic environment to our children receives less attention than desires for consumer goods whose manufacture produces a by-product of toxic waste.” (Schudson, Micheal. 1984)

Er hynny, mi all ddadlau bod, yn y tymor hir, wedi ei borthi gan y gyfalafiaeth a'r diwylliant o dreulio sy'n dod llaw yn llaw, dyrchafiadau mewn technoleg yn mynd i arwain at lai o broblemau amgylcheddol na achoswyd gan yr hen dechnoleg llymrig gynt. Mae'r syniad yma bod dyrchafiadau mewn technoleg yn lleihau problemau amgylcheddol wedi ei seilio bennaf ar y problemau amgylcheddol yn y byd sy'n datblygu: “On the contrary, it is in the developing countries that we find the gravest, most harmful environmental problems. In our affluent part of the world, more and more people are mindful of environmental problems such as endangered green areas.” (Norberg, Johan. 2003)

Bosib bod hyn yn wir, ond mae hi dal yn anodd dadlau bod, beth bynnag y gwellianau mewn technoleg, bod cyfalafiaeth a'r diwylliant o ddefnyddio sy'n dod llaw yn llaw ag ef bob tro'n mynd i greu mwy o wastraff nag cymdeithas amcanus. Hmmm, dw i wedi ysgrifennu 'chydig mwy o eiriau nag oeddwn i wedi meddwl gwneud.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron