Tudalen 1 o 4

Pa wleidyddion enwog chi wedi ei weld yn y cigfyd?

PostioPostiwyd: Llun 29 Maw 2004 1:39 am
gan RET79
Welais i hwn mewn gorsaf betrol ger Oxford yn cael cryn dipyn o drafferth i roi'r pwmp petrol mewn i'w gar (cachlyd) gan fod y twll petrol yr ochr arall i'r pwmp. Eitha doniol!

http://www.libdems.org.uk/index.cfm/pag ... /wgroup.mp

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 1:35 pm
gan Hogyn o Rachub
Gormod. Llawer, llawer gormod.

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 2:00 pm
gan DAN JERUS
Roedd rhodri morgan yn sefyll tu flaen imi wrth beiriant twll yn y wal yn caerdydd sbelan yn ol.Doedd y gwasanaeth codi arian ddim yn gweithio iddo drwy ddewis y gyfrwng saesneg.Nes i awgrymu defnyddio'r opsiwn cymraeg iddo rhag ofn.Ysgwyd ei fwng nath o deud os na fydai'n gweithio'n saesneg, fyddai ddim yn gweithio yn y Gymraeg chwaith, cyn cerdded i ffwrdd i drio rhywle arall.Rois i fy ngherdyn mewn, mynd am yr opsiwn cymraeg ac roedd popeth yn iawn (er na ches i dynnu gwerth ffractiwn or arian y mae o'n cael ei dynnu allan debyg).Gwleidyddion :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 2:32 pm
gan S.W.
Gweithio yn diwrnod agored llys Ynadon yn Wrecasm a gorfod ysgwyd llaw y 2 VIP - Martin Jones AS De Clwyd, a Ian Lucas AS Wrecsam. Blydi Llafur, Hetty Betty Williams (Conwy) mewn cyfarfod gyda'r Heddlu (Blydi Llafur eto), Ian Lucas eto yn lle pizzas yn Wrecsam, ac Alun Pugh yn cerdded mewn cycling shorts i shop Kings yn Rhuthun.

Lle ddiawl ellai fynd lle does ne ddim llafur? Dwi di symud i Gaernarfon i dio dianc oddi arnynt! Ond nath ne rhyw dwat dwyn cd player a 8 cd o'r car tu allan i'r ty yng Nghaernarfon - dwin siwr mae Llafur oedd o hefyd. Blydi bastads

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 2:46 pm
gan DAN JERUS
...odd rhodri morgan yn gwrando ar cd's pan welish i o :o ac yn mwmian rhywbeth am pa mor "easy" yw pethau yng nghaernarfon! ddim conection ath stori di wrth reswm 8)

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 3:03 pm
gan S.W.
Does gen stori fi ddim cysylltiad gyda unrhywbeth lawer dwim yn meddwl, - just fi sy'n flin - byw yng Nghaernarfon am 2 wythnos a rhyw dwat yn meddwl bod ganddo hawl cymryd cd player fi. Bastads! Os ydy unrhyw un o pobl Caernarfon ar y wefan yma yn gweld rhyw dwat yn cerdded lawr y stryd gyda darn o cd player car, cds Meinir Gwilyn, Celt, Anweledig, Runrig, y Pogues, Catrin Finch, Edward H Dafis, a Robbie Williams, yn gwisgo sbecdols haul ac yn ffeilio'i winedd allwch chi jwmpio ar ei ben o a cymryd nhwn nol plis.

Diolch

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 3:38 pm
gan Ray Diota
Runrig!?

Ti'n haeddu ca'l hwnna 'di'i ddwyn! :winc:

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 3:48 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Wedi gorfod siglo llaw a bod yn gyfeillgar wrth Don 'Twiggy' Touhig (aelod seneddol Islwyn) yn seremoni agor llyfrgell y chweched dosbarth yn yr ysgol. 'I know who your father is, butty boy' 'Aye, and I hope you lose your seat, Mr Touhig' :crechwen:

Hefyd, ychydig wythnose nol, weles i John Marek yn dod oddi ar y bws o'n i'n camu arno yn y Rhath. Dyw pethe ddim 'di mynd mor wael a hynna iddo fe ers gadael y Blaid Lafur, odi nhw? :o

:lol:

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 3:53 pm
gan DAN JERUS
GDG
Hefyd, ychydig wythnose nol, weles i John Marek yn dod oddi ar y bws o'n i'n camu arno yn y Rhath. Dyw pethe ddim 'di mynd mor wael a hynna iddo fe ers gadael y Blaid Lafur, odi nhw?


...na, a sbia faint 'di altro mae o ers "The Elephant Man"

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 6:56 pm
gan Chwadan
Jeffrey Archer! :lol: