Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 10:41 pm
gan Hogyn o Rachub
Ychwanegaf fod Glyn Davies yn edrych yn ddiawl o lot dewach go iawn nac ydi o ar y teledu.

Rhaid pwyntio allan hefyd arwahan i gael yr amhleserau anghygoel o weld A siarad i Betty Williams a Denise Idris Jones ill dwy, dw i hefyd efo'r anffawd torcalonogol o'u cael yn aelodau seneddol a chynulliad i mi.

Tydi bywyd ddim yn deg.

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 10:51 pm
gan RET79
Chwadan a ddywedodd:Jeffrey Archer! :lol:


wir yr? lle?

gyda llaw, pan dwi'n siarad am y cigfyd dwi'n cyfeirio at sefyllfaon bob dydd ddim mewn llefydd lle byddech yn disgwyl gweld gwleidyddion

PostioPostiwyd: Mer 31 Maw 2004 12:22 am
gan tafod_bach
gesh i swper efo estelle 'jolpan' morris fis dwytha, a drincs efo peter 'scary spice' mandelson wthnos dwytha. hehehe

s
x

PostioPostiwyd: Mer 31 Maw 2004 12:23 am
gan tafod_bach
o, a dwi di pisho yng ngardd jeffrey archer
tew
s
x

PostioPostiwyd: Mer 31 Maw 2004 12:47 am
gan garynysmon
Fe ddaru met i fi gychwyn ffeit ar Lembit Opik yn Maes B Eisteddfod Meifod. Mi wnesh i ei ddarbwyllo fo, a chychwyn sgwrs feddw iawn (wn i'n hongian ar y pryd!) ynglyn a'r ffaith fy mod o blaid Cymru rydd a.y.y.b. Dwi'm yn meddwl oedd o'n dallt be wn i'n ei ddweud! :?

Dwi wedi cyfarfod Ieuan Wyn Jones sawl gwaith (fe oeddwn ar fform yn ysgol o flwyddyn 7-11 felly oeddan ni yn ei gyfarfod bob tro roedd yn dod i'r ysgol). Fe ddaru mi siarad yn sydyn efo sawl A.C (plaid i gyd gyda llaw) pan roeddwn yn ran o'r brotest campio tu allan i'r cynulliad mis dwytha.

Mae gen i hefyd 'ffrind' i Nain a oedd yn arfer bod yn ymgeisyddes dros y Toriaid yng Ngaernarfon :drwg: . Dwi di gorfod brathu fy nhafod ar sawl achlysur.

PostioPostiwyd: Mer 31 Maw 2004 8:37 am
gan Mr Gasyth
Dwi di bod mewn Pub Quiz ym Mrwsel ble roedd Neil Kinnock yn holi'r cwestiynnau. Dipyn o gomedian chware teg. Erbyn diwedd on i reit pissed ag es i ato fo a chael y sgwrs ganlynol:

Fi: Hello, I'm from Wales too
NK: Oh, where in Wales?
Fi: Denbigh
NK: Thats north Wales isn't it
Fi: Yes
NK: Go speak to Glenys then

ac off a fo gan bywntio fi i gyfeiriad ei wraig.

PostioPostiwyd: Mer 31 Maw 2004 8:51 am
gan Llyfwr Pwdin Blew
Wedi cerdded heibio Jerry Adams ar O'Conell Street, Dulun 3 mlynedd yn ol.

PostioPostiwyd: Mer 31 Maw 2004 11:45 am
gan mefus
Weles i Michael Portillo yn Llunden unweth. :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 31 Maw 2004 1:14 pm
gan Leusa
yyy mae Elfyn Llwyd ochor arall i'r wal

PostioPostiwyd: Mer 31 Maw 2004 1:47 pm
gan DAN JERUS
Welish i'r pric Rod Richards mewn bar yng nghaerdydd unwaith, ond stori arall enllibus ydi honno... :winc: