Postiwyd:
Mer 31 Maw 2004 4:29 pm
gan RET79
DAN JERUS a ddywedodd:Welish i'r pric Rod Richards mewn bar yng nghaerdydd unwaith, ond stori arall enllibus ydi honno...
Buaswn yn mwynhau cyfarfod Rod, mae'n siwr fod ganddo amryw o straeon difyr i'w ddweud, er os yw o'n bric mae'n gymeriad fwy diddorol na llawer o wleidyddion diflas sydd ar gael.
Postiwyd:
Mer 31 Maw 2004 6:51 pm
gan Madrwyddygryf
Cerdded o gwmpas ardal Eidal fach, Efrog Newydd un noson poeth, stryd yn llawn o bobl yn mwyhau ffair stryd. Mi sylwais torf o bobl yn mynd mewn i ty bwyta eidalaidd yn dilyn rhwyun. Yng nghanol y torf sylwais Rudolph Guiliani yn ysgwydd llaw gyda'r perchenogion.
Cyrfarfod Paddy Ashdown, boi reit neis ond bit in your face though.
Lembit Opik, dyddiau cyn-Sian Lloyd, wedi gwylltio ar ol dod i siarad gyda myfyrwyr. Ond neb wedi troi fyny oherwydd diffyg hybysebu amdano. Ond wnes i gael sgwrs neis iawn amdano yn syrthio 60 troedfedd pan oedd yn hedfan yn ei 'paraglider'.
Wedi cael y fraint i gyrfarfod dynes a oedd arfer fod yn ysgrifenyddes i Eleanor Roosovelt.
Postiwyd:
Mer 31 Maw 2004 8:31 pm
gan Chwadan
Dwi'n mynd i weithio i Elfyn Llwyd 'rha ma
Postiwyd:
Mer 31 Maw 2004 8:55 pm
gan Hogyn o Rachub
Chwadan a ddywedodd:Dwi'n mynd i weithio i Elfyn Llwyd 'rha ma
A! Mi welish i Mistar Llwyd yn Little Chef Llanfair-ym-Muellt yn bwyta rywbeth efo bara a phanad o de!
Welish i Dafydd El ar fy noson gyntaf ym mhrifysgol Caerdydd. Ond ddudish i'm byd wrtho, roeddwn i ar ormod o fryd i nôl lysh o Spar cyn 11.
Postiwyd:
Maw 06 Ebr 2004 9:27 am
gan Wil wal waliog
Bertie Ahern tra ar y piss yn Nulyn! Confusing.
Postiwyd:
Maw 06 Ebr 2004 3:43 pm
gan Mali
Welais i Harold Wilson yn dod allan o Rif Deg Downing St. yn ôl yn y saithdegau! Ydi hynny'n cyfri?
Wedi gweld Ieuan Wyn Jones sawl gwaith gan mai o oedd ein Aelod Seneddol yn Sir Fôn.
A dyna'r rhai sy'n dod i'm côf ben bore.
Mali.
Postiwyd:
Iau 08 Ebr 2004 8:28 am
gan Chris Castle
Aled a ddywedodd:Fi: Hello, I'm from Wales too
NK: Oh, where in Wales?
Fi: Denbigh
NK: Thats north Wales isn't it
Fi: Yes
NK: Go speak to Glenys then
ac off a fo gan bywntio fi i gyfeiriad ei wraig.
ffwrdd hyblyg o cael gwared o Gogs meddw
best preim minista wî nefer had
Postiwyd:
Llun 19 Ebr 2004 2:07 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi wedi pipi yn yr ureinial nesaf i Charles Kennedy, a ddudodd o "alright" wrthai
Postiwyd:
Llun 19 Ebr 2004 6:20 pm
gan RET79
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi wedi pipi yn yr ureinial nesaf i Charles Kennedy, a ddudodd o "alright" wrthai
ddwedaist ti rywbeth yn ol?
Postiwyd:
Llun 19 Ebr 2004 8:10 pm
gan Rhys Llwyd
RET79 a ddywedodd:Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi wedi pipi yn yr ureinial nesaf i Charles Kennedy, a ddudodd o "alright" wrthai
ddwedaist ti rywbeth yn ol?
naddo, cochi a brysio i gau fy malog!