Dydw i ddim yn synnu o gael ateb fel yne gen ti RET. Defnyddia dy fren am eiliad a elli di weld ei fod yn neud synnwyr.
Dydy rhan helaeth o pobl sydd yn troi'n 18 ddim yn talu treth gan nad ydynt yn byw i ffwrdd o adre (felly ddim yn talu treth cyngor) a ddim yn talu treth incwm gan nad ydynt yn gweithio llawn amser (yn ennill mwy na'r £4000 threshold y flwyddyn) gan eu bod yn fyfyrwyr yn y colegau a'r ysgolion. Ond dim ond am dair blynedd, weithiau 4-5 mae rhain yn y coleg - tra bod y tymor llywodraeth leol yn para 5 mlynedd, felly yn amlwg bydd llawer o fyfyrwyr yn talu treth pan mae nhw yn gadael y system addysg ac yn dechrau gweithio o fewn y tymor lywodraethol.