Tudalen 1 o 2

Pleidleisio drwy'r post

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ebr 2004 2:18 pm
gan Hogyn o Rachub
Dw i'n meddwl fydda i dal yng Nghaerdydd 'cw pan fydd etholiadau'r cynghorau eleni, ond dwisho dal bwrw pleidlais yn ward lleol, sef Gerlan. Sut mae mynd ati i apleio am pleidlais drwy'r post?

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ebr 2004 2:28 pm
gan Lowri Fflur
Dos i fama a mae yna ffurflen i llenwi i gal pledleisio trw y post - http://www.aboutmyvote.co.uk

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ebr 2004 6:44 pm
gan Hogyn o Rachub
Ffanciw feri!

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ebr 2004 7:40 pm
gan Lowri Fflur
Croeso tad

PostioPostiwyd: Sul 04 Ebr 2004 9:25 am
gan Madrwyddygryf
Dda i weld bod bobl yn pleidleisio yn y etholiadau cyngor.

Ond be di'r holl stwr ma am 'Plaid y Bobl' sydd yn digwydd yn Nghaerdydd ?

PostioPostiwyd: Sul 04 Ebr 2004 1:49 pm
gan RET79
Dwi ddim yn hoff iawn o bleidleisio yn y post. Well gen i bleidleisio ar y dydd yr un pryd a phawb arall ar ol gwrando ar y dadleuon i gyd.

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2004 9:12 am
gan Hogyn o Rachub
Fi hefyd ond gan y byddaf i'n Caerdydd pan mae etholiadau'r cyngor 'sgen i fawr o ddewis. A dw i'm isho wastio fy mhleidlais yn Cathays.

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2004 11:59 pm
gan RET79
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Fi hefyd ond gan y byddaf i'n Caerdydd pan mae etholiadau'r cyngor 'sgen i fawr o ddewis. A dw i'm isho wastio fy mhleidlais yn Cathays.


wel ti ddim yn talu treth cyngor pam ffwc ddylai chdi gael pleidlais?

PostioPostiwyd: Maw 06 Ebr 2004 1:05 am
gan Lowri Fflur
RET79 a ddywedodd:wel ti ddim yn talu treth cyngor pam ffwc ddylai chdi gael pleidlais?


Mae' n debig bod hyn oherwydd bod ti dal yn rhan o gymdeithas os ti ddim yn talu trethi cyngor a mae canlyniadau yr etholiad yn mynd i gael effsith arna chdi.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ebr 2004 8:19 am
gan Hogyn o Rachub
Ia, plys dw i dros oed pleidleisio y nobrash.