Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Maw 06 Ebr 2004 8:20 am
gan S.W.
Dydw i ddim yn synnu o gael ateb fel yne gen ti RET. Defnyddia dy fren am eiliad a elli di weld ei fod yn neud synnwyr.

Dydy rhan helaeth o pobl sydd yn troi'n 18 ddim yn talu treth gan nad ydynt yn byw i ffwrdd o adre (felly ddim yn talu treth cyngor) a ddim yn talu treth incwm gan nad ydynt yn gweithio llawn amser (yn ennill mwy na'r £4000 threshold y flwyddyn) gan eu bod yn fyfyrwyr yn y colegau a'r ysgolion. Ond dim ond am dair blynedd, weithiau 4-5 mae rhain yn y coleg - tra bod y tymor llywodraeth leol yn para 5 mlynedd, felly yn amlwg bydd llawer o fyfyrwyr yn talu treth pan mae nhw yn gadael y system addysg ac yn dechrau gweithio o fewn y tymor lywodraethol.

PostioPostiwyd: Mer 14 Ebr 2004 5:24 pm
gan Cwlcymro
wel ti ddim yn talu treth cyngor pam ffwc ddylai chdi gael pleidlais?

Achos fod o dal yn defnyddio y bwsys, yn cerdded y lonydd, yn rhoid ei fins allan bob wytnos, efo'r hawl i gael ei drin yn ysbyty Caerdydd, efo'r hawl i'w amddiffyn gan heddlu'r dre etc etc felly ma gyna fo gymaint o hawl a chdi i ddeud sut ma hynnu am ddigwydd.