Tudalen 1 o 1

Prynu'n gydwybodol

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 12:49 am
gan RET79
Faint ohonoch chi sydd yn prynu'n gydwybodol?

Er enghraifft sgen chi gyfri banc hefo'r Co-Op bank sydd wastad yn siarad am y ffordd mae nhw byth yn buddsoddi mewn busnesau sy'n wael hefo'r amgylchedd etc.? Fuasech chi'n fodlon talu rywfaint mwy am gynhyrchion neu wasanaethau os chi'n meddwl fod eu prynu'n gwneud llai o ddrwg i'r amgylchedd neu i dlodi yn y byd?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 8:20 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mae gen i gyfrif banc gyda'r Co-op, wastad yn prynu Cafedirect ac ati, ond mae mor anodd/drud byw'n gydwybodol. Bydda' i'n symud ty cyn bo hir ac 'wy bendant yn ystyried cael nwy/trydan gyda chwmni 'ynni gwyrdd'.

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 3:30 pm
gan Macsen
Mae prynnu cydwybodol wedi bod yn llwyddianus iawn ym Mhrydain, gyda bwyd fair trade yn gwerthu yn dda iawn. Dwi'n disgwyl gweld nifer o siopau yn cashio mewn ar fy nghydwybod. Sydd yn beth da, sbo?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 3:41 pm
gan Barbarella
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Mae gen i gyfrif banc gyda'r Co-op, wastad yn prynu Cafedirect ac ati, ond mae mor anodd/drud byw'n gydwybodol. Bydda' i'n symud ty cyn bo hir ac 'wy bendant yn ystyried cael nwy/trydan gyda chwmni 'ynni gwyrdd'.

Nes i newid fy nghyfrif banc i Smile (banc y Co-op arlein) 'chydig bach nôl, ac yn hapus iawn efo nhw... (bechod bod dim gwasanaeth Cymraeg, wrth gwrs :winc:), a dwi wastad yn prynu te, coffi a siocled Masnach Teg. Trueni bod nhw ddim ar gael mewn mwy o siopau -- a bod caffis a bwytai yn defnyddio nhw.

Y peth gorau i neud efo trydan ydi newid i Juice -- sef menter ar y cyd rhwng nPower a Greenpeace. Mae'n defnyddio trydan o'r fferm wynt newydd oddi ar arfordir gogledd Cymru.

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 3:44 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Barbarella a ddywedodd:Y peth gorau i neud efo trydan ydi newid i Juice -- sef menter ar y cyd rhwng nPower a Greenpeace. Mae'n defnyddio trydan o'r fferm wynt newydd oddi ar arfordir gogledd Cymru.


Cwl, diolch am y wybodaeth. :D