Tudalen 1 o 2

Carafanau

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ebr 2004 10:49 pm
gan RET79
Chi'n ffan? Casau nhw? Ddim yn meindio nhw'r un ffordd neu'r llall?

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 9:00 am
gan Hogyn o Rachub
Mae hwyl iw cael mewn carafan, ac uffern tu-ôl i un.

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 9:46 am
gan eusebio
Ddylai carafanau cael eu cyfyngu i draffyrdd a lonydd deuol yn unig ... ac yn sicr dylid eu gwahardd o'r A470 yn ystod golau dydd ...

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 11:50 am
gan Madrwyddygryf
Dwi ddim yn gallu deallt pam gall unrhyw un mwynhau mynd ar wyliay mewn carafan.

Tent yn iawn, boed chi'n ifanc. Ond mae cysgu mewn bocs mawr plastic ddim yn gwneud unrhyw beth i fi.

Roeddwn arfer gorfod aros mewn carafan ar gyfer Royal Welsh. Byth eto.

Re: Carafanau

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 1:24 pm
gan gronw
RET79 a ddywedodd:Chi'n ffan? Casau nhw? Ddim yn meindio nhw'r un ffordd neu'r llall?

Os felly, ymunwch â Chlwb Carafanau Owain a Dylan, Radio Cymru, 3-5, dydd Llun i ddydd Gwener.

Er mwyn ymuno â'r Clwb ecsgliwsif a cŵl yma, rhaid bod un o'r datganiadau yma'n wir:

- Rydych chi'n aros mewn carafán yn gyson.
- Rydych chi wrth eich bodd efo carafanau.
- Mae gan rhywun rydych chi'n nabod garafán.
- Rydych chi wedi bod yn styc tu ôl i garafán rywbryd.
- Rydych chi'n casáu carafans.
- Dim diddordeb mewn carafans.

AAAA!! :drwg:

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 7:14 pm
gan RET79
Yn bersonol dwi ddim yn gweld yr atyniad o garafanio. Falle gall rhywun egluro'r peth i mi.

Dwi'n dyfalu fod pobl yn dewis carafanio fel modd o achub arian ar gostau llety a bwyd ar eu gwyliau yn y bon.

Gyda llaw, yw o dal yn wir na allwch chi ddreifio hefo carafan ar y cyfandir ond mewn rhai oriau arbennig?

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 7:16 pm
gan Hogyn o Rachub
Dw i'n eitha hoffi'r syniad o cael fy mocsio fewn i ryw clamp budur am ychydig o ddyddiau - mae hi fel byw yn Senghennydd - ond dw i byth 'di bod ar wyliau carafanio, chwaith.

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 7:25 pm
gan RET79
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i'n eitha hoffi'r syniad o cael fy mocsio fewn i ryw clamp budur am ychydig o ddyddiau - mae hi fel byw yn Senghennydd - ond dw i byth 'di bod ar wyliau carafanio, chwaith.


Well gen ti hynna na aros mewn gwesty taclus a sbario cwcio am wythnos?

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 7:29 pm
gan Hogyn o Rachub
Na, dw i jyst yn licio rwbath mwy 'hands on'. Gwesty moethus yn iawn 'ndi, ond mae 'na rwbath mwy grybi am garafanio.

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 7:32 pm
gan RET79
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Na, dw i jyst yn licio rwbath mwy 'hands on'. Gwesty moethus yn iawn 'ndi, ond mae 'na rwbath mwy grybi am garafanio.


Dwi ddim yn deall.

Ti'n hoff o gampio hefyd?