Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 7:37 pm
gan Hogyn o Rachub
Na. Mae campio'n rhy agos at yr elfennau, a leia mae 'na haen o haearn rowndoch chi tu-fewn i garafan. Dw i jyst yn meddwl fy mod i'n slob sydd ddim yn poeni rhyw lawer am foethusrwydd.

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 7:52 pm
gan RET79
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Na. Mae campio'n rhy agos at yr elfennau, a leia mae 'na haen o haearn rowndoch chi tu-fewn i garafan. Dw i jyst yn meddwl fy mod i'n slob sydd ddim yn poeni rhyw lawer am foethusrwydd.


hehe! Wel iawn de, mae mwy o antur hefo carafan dybiwn i, ddim cymaint a campio ond fwy na aros mewn gwesty.

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 9:49 pm
gan Leusa
dwisho carafan i steddfod genedlaethol leni (os fydd na un!!)
'di cal digon ar gampio mewn tent, 'dw i'n mynd ddim ifancach :winc:

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 9:56 pm
gan garynysmon
Dwi'n casau Carafans. Yn Eisteddfod Meifod, roeddwn i wedi ploncio fy nhent mewn lle oedd wedi'i gadw ar gyfer Carafans. Pan ddois i'n nol o Maes B nos Iau, roedd pobl y maes ieuengtid wedi symud fy nhent, a gymerais i awr i ffendio fo. Dwi'm yn licio'r blydi things byth ers hynnu. :drwg:

PostioPostiwyd: Sad 10 Ebr 2004 10:02 pm
gan RET79
Felly ai'r bwriad yn y bon hefo carafans yw i safio arian? Cael gwyliau rhatach? Mae'n ymddangos felna.

PostioPostiwyd: Sul 11 Ebr 2004 1:16 pm
gan Rhodri Nwdls
Ie, fuesh i ar wyliau mewn carafan i'r Schwarzwald ac i Ffrainc ddwywaith. Llawer rhatach i deulu o bump na thalu am westy. O'n i wrth y modd yn y garafan. Ond eto, dwi wrth y modd mewn pabell hefyd. Ma gwestai yn lefydd diflas gan fwy os nad ydach chi'n gallu fforddio rhai da. Ma nhw gyd r'un peth </sweeping statement> Siwr bo garafan yn gont o beth i ddreifio efo serch hynny.

PostioPostiwyd: Sul 11 Ebr 2004 1:21 pm
gan RET79
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ie, fuesh i ar wyliau mewn carafan i'r Schwarzwald ac i Ffrainc ddwywaith. Llawer rhatach i deulu o bump na thalu am westy. O'n i wrth y modd yn y garafan. Ond eto, dwi wrth y modd mewn pabell hefyd. Ma gwestai yn lefydd diflas gan fwy os nad ydach chi'n gallu fforddio rhai da. Ma nhw gyd r'un peth </sweeping statement> Siwr bo garafan yn gont o beth i ddreifio efo serch hynny.


OK fedri di roi esiampl o'r gwahaniaeth costau? Byddai rhaid cymryd i ystyriaeth 'depreciation' y garafan ei hun i gael cymhariaeth hollol deg. Gen i ddiddordeb gweld faint wyt ti'n safio ar ol cymryd y pethau ma i ystyriaeth.

PostioPostiwyd: Sul 11 Ebr 2004 3:25 pm
gan Rhodri Nwdls
Dim syniad, ddim fi brynodd y garafan a sgen i ddim carafan.

PostioPostiwyd: Llun 12 Ebr 2004 9:27 pm
gan RET79
Gen i ddim mynedd hefo carafanau, yr A55 yn llawn ohonyn nhw heno, grrrrrr