Tudalen 1 o 4

Chweched dosbarth v coleg trydyddol

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 9:59 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Yn dilyn trafodaeth chwyrn arall rhyngof i a fy ffrind (sy'n prysur droi mewn i 'my friend in the queue at Tesco's' Tony Blair), pa un ydych chi'n meddwl sydd orau i bobl o ran addysg bellach rhwng 16 ac 19 oed?

Fy nadl i yw bod chweched dosbarth yn rhoi mwy o strwythur a chefnogaeth i chi ar adeg pwysig, a bod coleg trydyddol yn rhoi cyfrifoldeb prifysgol i chi pan nad ydych yn barod amdano (h.y. eich dewis chi yw mynd i wersi ai peidio i raddau). Ei ddadl e, ar y llaw arall, yw bod coleg trydyddol yn rhoi mwy o ryddid i chi gael penderfynu ar yr hyn yr ydych am ei wneud, ac yn gadael i chi 'ffindo'ch hun'. Barn? Pleidleisiwch. Pleidleisiwch nawr!

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 1:39 pm
gan garynysmon
Fe es i i goleg trydyddol. Camgymeriad mwyaf wnesh i!
Dwi'm yn meddwl fod pobl yn eich cymeryd o ddifrif gan fod pobl yn meddwl eich bod yn gwneud rhyw dystysgrif neu ddiploma, er roeddwn i wedi astudio fy lefelau A yno. Roedd y cwrs yn siambls llwyr hefyd, dim trefno gwbl yno.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd: Ei ddadl e, ar y llaw arall, yw bod coleg trydyddol yn rhoi mwy o ryddid i chi gael penderfynu ar yr hyn yr ydych am ei wneud, ac yn gadael i chi 'ffindo'ch hun'


Mae hynny'n wir i raddau. Roedd y lle llawn goths, a phobl yn gwisgo'n rhyfedd!!

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 2:03 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi'n meddwl mae 6ed dosbarth sydd orau, nid yn unig i'r disgybl ond i'r ysgol yn gyfan. Mae ysgol ar eu cholled heb 6ed dosbarth.

I roi slant arall ar y ddadl, mae diffyg darpariaeth Gymraeg echrydus o fen colegau Trydyddol.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 2:21 pm
gan Dwlwen
Sai'n meddwl fydden i wedi bod mor llwyddiannus da lefel A 'se'n i heb aros yn y Chweched. Er, fi'n meddwl bo ysgolion yn bwydo ni mbach gormod, lle ma colegau trydyddol yn gofyn i ti 'neud ymchwil dy hun - wy'n cyfadde o'n i ar goll braidd am y tymor cynta yn Coleg gan bo fi'n anghyfarwydd a bo'n hollol gyfrifol o'm astudiaethau! :?

Rhys Llwyd a ddywedodd:mae diffyg darpariaeth Gymraeg echrydus o fewn colegau Trydyddol.

Cytuno'n llwyr

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 3:48 pm
gan Chwadan
Dwi'n falch bo fi di mynd i goleg trydyddol - mi fasa 6ed Ysgol y Gader wedi bod yn fach fach o edrych ar faint o mlwyddyn i nath neud Lefel-A, ac o ran y pyncia nes i, fedrai'm cwyno o gwbl am safon yr addysg na'r ddarpariaeth Gymraeg.

Dwi'n dallt y medra'r holl ryddid fynd i ben rhai pobl - ma rhaid i chi fod â rhywfaint o hunan-ddisgyblaeth i fynd i'r gwersi os da chi'n gwbod na chewch chi detention. Ar y llaw arall, ma'n grêt cael gwisgo eich dillad eich hun, mynd i'r pyb i chwara pwl rhwng gwersi, cal dreifio o gwmpas y lle fel meniacs heb boeni fod na athrawon yn mynd i'ch gweld chi a ballu :D. Dipyn mwy anghyfrifol na bod yn brif ferch/bachgen, ond dal yn hwyl! Ma hefyd yn hwyl cwrdd pobl o ysgolion gwahanol i chi, yn enwedig os athoch chi i ysgol uwchradd fach.

O ran gweithgareddau all-gwricwlaidd, nes i bron ddim byd tra o'n i'n y coleg, ond nes i ddigon tu allan coleg i lenwi fy CV a natganiad personol. Os na di'r ddarpariath all-gwricwlaidd yna, rhaid chi fynd i chwilio amdano fo eich hun, sy'n dangos insentif (dwi'n meddwl).

Yr unig gwyn sydd gennai ydi, yn ôl fy mhrofiad i, ma petha'n gallu bod braidd yn anhrefnus mewn coleg achos fod na gymaint o fyfyrwyr a staff, cymaint o adrannau a ballu. Ond yn y pen draw nath o fawr o ddrwg i mi. O, a mond dwywaith weles i'r prifathro :rolio:.

O ran paratoi at brifysgol, ma'n debyg ei fod o'n eich dysgu chi i lusgo eich hun o'ch gwely a mynd i'ch darlithoedd ond o ran gwaith, fasa na run coleg na 6ed di gallu mharatoi i at faint o waith sydd gennai rwan (creisus adolygu!!) :?

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 3:51 pm
gan Garnet Bowen
Mae Colegau Trydyddol hefyd yn golygu ei bod hi'n haws darparu pynciau mwy arbennigol. Fe fuo'n rhaid brwydro'n galed iawn yn fy hen ysgol i er mwyn cael gwneud Lefel-A cymdeithaseg, rhywbeth oedd ar gael i bawb yn y coleg trydyddol agosaf.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 3:59 pm
gan Chwadan
Ar y llaw arall, on i jyst â byrstio isho gneud Lefel-A Almaeneg (ac mi faswn i wedi medru ei neud tasa na 6ed yn yr ysgol). Er i'r coleg addo pan gafodd ei sefydlu y byddai'n darparu lot mwy o byncia nag ysgolion, doedd Almaeneg ddim yn cael ei gynnig ac oedd rhaid i fi neud Ffrangeg yn lle :rolio:.
Ond roedd y coleg yn cynnig cymdeithaseg, seicoleg, y gyfraith, electroneg, Sbaeneg a ryw betha erill felly ella na ddylswn i gwyno gormod.

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 10:27 pm
gan Leusa
Yn bersonol (a 'dw i'n siarad o ragfarn amwni) 'dw i'n ffafrio'r syniad o Chweched Dosbarth gan ei fod fel y dwedodd Rhys yn sail da i'r ysgol gyfan. Mae'n amheuaeth gen i a fyddai cystal trefn yn ein hysgol ni yn Bala heb arweiniad y chweched dosbarth, sydd yn cael eu annog (a gorfodi yn aml) i wneud llawer a'r disgyblion iau, yn cynnwys cynlluniau datblygu darllen, a cynlluniau atal bwlio ac yn y blaen.

Mae bod yn y chweched dosbarth hefyd yn rhoi cyfrifoldeb ar y bobl ifanc hynny i fod yn ngofal gweithgareddau tu allan oriau'r ysgol, fel cyngherddau a ballu - sy'n datblygu sgiliau allweddol.

Debyg hefyd bod chweched dosbarth yn llai ac yn fwy personol, ac felly yn gallu darparu gwell addysg, a cymorth na choleg.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 12:08 am
gan RET79
Leusa, cywir. Sgen i ddim i adio at hwnna!

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 8:03 am
gan Rhodri Nwdls
Aa, rhen chwilan yma eto! O'n i'n siarad a rhywun hefyd am hyn dros y penwythnos. Yn sicir fe gollwyd yr holl elfen gymudeol o ysgol yn y coleg trydyddol fues i iddo. Doedd dim sdeddfod nac ymwneud a disgyblion iau.

Mae hyn yn biti, ond gwir creulon ydi nad oedd hi'n ariannol bosib i barhau. Mae hi'n ddelfryd neis cael tri disgybl yn y dosbarth hanes a chael bron iawn one-on-one, ond dydi hi ddim yn bosib. Mae ysgol y Berwyn mewn trafferth ariannol dybryd oherwydd eu penderfyniad i ddal gafael yn eu chweched. Dwi di closi at y syniad o gadw chweched erbyn hyn, ond dwi dal yn cadw at y ffaith fy mod i wedi mwynhau Coleg Meirion Dwyfor o ran cymdeithasu gyda llwythi o bobol o gymunedau Cymraeg eraill na fuaswn i wedi ei wneud fel arall. Roedd safon yr addysg yn ogystal yn uchel, (fel dwi'n siwr neith Chwadan dystio roedd y Ffrangeg chydig yn salach, ond roedd hyn oherwydd athro outstanding yn Ysgol Y Gader yn hytrach na dim arall).

Fu gefais i wneud Electroneg, fe gefais i wneud Cyfrifadureg lle na fuaswn wedi gallu gneud hyn yn Ysgol Y Gader. Mae na ddadl y dylai bobol ond wneud y pyncia craidd yn unig ac y buasai Ffiseg a Maths wedi bod yn ddigon i fynd i goleg i wneud y ddau bwnc uchod, ond dilyn fy niddordebau ar y pryd o'n i yn hytrach na ryw master plan felly r'on i'n hapus.

Mae'n wir y gallai CMD roi darpariaeth Cymraeg well a sicrhau fod y coleg yn cynnal digon o weithgareddau all-gwricwlar yn cynnwys sdeddfod (mae pobol sydd ddim yn gneud Cymraeg yn hoffi'r cyfle i fod yn greadigol weithia!) a dylid llythyru, ymgyrchu a lobio CMD i wneud hyn a chyflogi person i fod yn gyfrifol am hyn, gan fod y pwysau ar staff yn hwy oherwydd niferoedd.

Does na ddim posib mynd nol i fel yr oedd hi o'r blaen, does dim arian, a does dim impetus i wneud hynny. Dim ond sicrhau fod CMD ac eraill yn llwyddo i fod yn sefydliadau mor Gymreig ac roedd ein ysgolion.