Dwi'n falch bo fi di mynd i goleg trydyddol - mi fasa 6ed Ysgol y Gader wedi bod yn fach fach o edrych ar faint o mlwyddyn i nath neud Lefel-A, ac o ran y pyncia nes i, fedrai'm cwyno o gwbl am safon yr addysg na'r ddarpariaeth Gymraeg.
Dwi'n dallt y medra'r holl ryddid fynd i ben rhai pobl - ma rhaid i chi fod â rhywfaint o hunan-ddisgyblaeth i fynd i'r gwersi os da chi'n gwbod na chewch chi detention. Ar y llaw arall, ma'n grêt cael gwisgo eich dillad eich hun, mynd i'r pyb i chwara pwl rhwng gwersi, cal dreifio o gwmpas y lle fel meniacs heb boeni fod na athrawon yn mynd i'ch gweld chi a ballu
. Dipyn mwy anghyfrifol na bod yn brif ferch/bachgen, ond dal yn hwyl! Ma hefyd yn hwyl cwrdd pobl o ysgolion gwahanol i chi, yn enwedig os athoch chi i ysgol uwchradd fach.
O ran gweithgareddau all-gwricwlaidd, nes i bron ddim byd tra o'n i'n y coleg, ond nes i ddigon tu allan coleg i lenwi fy CV a natganiad personol. Os na di'r ddarpariath all-gwricwlaidd yna, rhaid chi fynd i chwilio amdano fo eich hun, sy'n dangos insentif (dwi'n meddwl).
Yr unig gwyn sydd gennai ydi, yn ôl fy mhrofiad i, ma petha'n gallu bod braidd yn anhrefnus mewn coleg achos fod na gymaint o fyfyrwyr a staff, cymaint o adrannau a ballu. Ond yn y pen draw nath o fawr o ddrwg i mi. O, a mond dwywaith weles i'r prifathro
.
O ran paratoi at brifysgol, ma'n debyg ei fod o'n eich dysgu chi i lusgo eich hun o'ch gwely a mynd i'ch darlithoedd ond o ran gwaith, fasa na run coleg na 6ed di gallu mharatoi i at faint o waith sydd gennai rwan (creisus adolygu!!)