Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 8:29 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Mae hyn yn biti, ond gwir creulon ydi nad oedd hi'n ariannol bosib i barhau. Mae hi'n ddelfryd neis cael tri disgybl yn y dosbarth hanes a chael bron iawn one-on-one, ond dydi hi ddim yn bosib.


Ond, fel mae athrawon rwy' wedi siarad a nhw yn tystio, mae'r system A2/A newydd wedi newid pethau i raddau helaeth, gan fod nifer yn fwy o fyfyrwyr ganddyn nhw bellach yn astudio'r gwahanol bynciau ar unrhyw adeg, ac felly maent yn cael mwy o arian 'bums on seats'. Er enghraifft, siaradais i gyda'r athro drama o fy hen ysgol (oedd yn digwydd bod cwpwl o flynyddoedd na fi yn rysgol on wedi dychwelyd :ofn: ). Pan o'n i'n neud lefel A, fi oedd yr unig ddisgybl drama yn fy mlwyddyn, ond bellach mae tua chwech neu saith disgybl yn 6:2 a thua phymtheg disgybl yn 6:1.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 9:47 am
gan Rhodri Nwdls
250 disgybl sydd yn Ysgol Y Gader ac yn disgyn. Sut mae posib cadw chweched yn feasible efo cyn lleied a hynny?

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 10:04 am
gan Meiji Tomimoto
Rhodri Nwdls a ddywedodd: ymwneud a disgyblion iau.


Iasu! Oedd hyn ar y coriciwlym cenedlaethol ar y pryd?
:o

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 11:09 am
gan Rhodri Nwdls
Meiji Tomimoto a ddywedodd:
Rhodri Nwdls a ddywedodd: ymwneud a disgyblion iau.


Iasu! Oedd hyn ar y coriciwlym cenedlaethol ar y pryd?
:o

Ddim Jaci Bybls oedd yn gneud hynna?

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 5:43 pm
gan Lowri Fflur
Wel nes i fynd i goleg trydyddol i wneud T.G.A.U a yna lefelau A. Yn gymdeithasol dwi' n meddwl y gnaeth hny byd o les i mi. Roedd yna crossection mawr o bobl yn fy nosbarth T.G.A.U. Roedd rhai pobl wedi gadael ysgol am bod nw ddim yn licio fo, achos bod nw di gael ei bwlio neu eu diarfel, oddna un hogan di gal babi tra bod hi dal yn ysgol, wedyn oedd yna bobl oedd wedi bod i ysgol breifat a wedi gadael, roedd na hefyd myfyrwyr euddfed. Allan o 30 yn y dosbarth dim ond 4 oedd yn Gymry Cymraeg. Dwi'n meddwl bod nath y profiad o fod yn ganol pobl gwahanol i' n hun neud fi' n mwy hyderus i siarad efo pobl gwahanol i' n hun. Roeddwn yn sicr yn hoffi yr awyrgylch relaxed.

Yn academaidd dwi ddim yn meddwl nath o lawer o les i mi. Roedd darpariaeth y Gymraeg yn wael iawn, dibynu ar ewyllus da yr athrawon a doedd llawer ohonynt ddim ny medru y Gymraeg- tebig i' r sefyllfa y mewn prifysgolion. Dim ond tair awr yr wythnos roedden ni' n gael i rhai pynciau lefel A. Weithiau doedd rhai o' r athrawon ddim yn troi fynu a ddim yn gadael i ni wybod. Gatha ni hefyd 6 o athrawon gwahanol i gymdeithaseg yn yn blwyddyn olaf o lefel A(cyflog gwael a dim contracts oedd y rheswm pam bod nw' n gadael). Wrth gwrs roedd rhai athrawon da fel sy' n bob man. Ar nodun mwy positif roedd adran photography gwerth chweil yn y coleg efo equimpment really newydd a roeddet yn cael mynd mewn yn amser dy hun i wneud o. Hefyd roedd llawer mwy o help i gael i bobl oedd yn cael problemau efo sgweny na beth oedd ar gal yn ysgol.

Dwi' n meddwl nath coleg ddysgu mwy i mi am bobl na be nath o yn academaidd.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 6:05 pm
gan garynysmon
Dwi'n cytuno i raddau fod mynd i 'Tech' yn ehangu'ch gorwelion yn gymdeithasol. I ddweud y gwir, mynd i Coleg Menai oedd y tro cyntaf i mi gymysgu'n iawn efo pobl tu allan i'n ardal i ar Sir Fon. Roedd na lot o bobol o Ben Llyn, Caernarfon a hyd yn oed ardal Blaenau ar y cwrs, felly roedd yn agoriad llygaid i mi.
Ar y llaw arall, roeddwn yn siomedig gyda safon y dysgu. Oedd, roedd o'n help garw i fy mharatoi ar gyfer y Brifysgol, ond dwi'n foi diog iawn yn y bon a felly yn methu cryn dipyn o ddarlithoedd a mynd adref amser cinio a ballu, lle fysai hyn llawer iawn anoddach yn yr ysgol.
Ond ar ddiwedd y dydd, yr unig reswm yr oeddwn eisiau Lefelau A oedd i gael mynd i'r Brifysgol, felly dydi o ddim yn broblem enfawr am wn i. Fe gesh y cymwysterau angenrheidiol, felly dyma ni.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 6:17 pm
gan Lowri Fflur
On i yn coleg efo chdi Gary?

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 6:25 pm
gan garynysmon
Dwnim. Cyfryngau oeddwn i'n ei wneud, yn Parc Menai.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 6:26 pm
gan Lowri Fflur
Mae' n siwr natho ni ddim dod ar draws yn gilydd felly. On i mond yn mynd i Barc Menai am tua 3 awr yr wythnos i wneud photography. Gweddill yr amser roeddwn i ar y brif gampws.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 6:28 pm
gan garynysmon
Er hynny, wn i'n byw a bod yn y brif adeilad, wel y cantin a dweud y gwir, achos dyna lle roedd lot o fets fi p'run bynnag. :D