Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 11:06 pm
gan Leusa
Mae ysgol y Berwyn mewn trafferth ariannol dybryd oherwydd eu penderfyniad i ddal gafael yn eu chweched

hehe! dim cweit 8)

PostioPostiwyd: Sul 11 Gor 2004 1:18 pm
gan Rhydfryd II
Coleg trydyddol di'r gorau yn fy marn i oherwydd eich bod yn dod i nabod pobl newydd cyn mynd i brifysgol. Ma na awyrgylch gwell yna oherwydd mae pawb at yr un oed.
Er deud hyn roedd y coleg trydyddol es i iddo yn hollol ddiflas a ffrysdreting, dwn im os fysa chweched dosbarth yn yr ysgol wedi bod yr un fath.
Tua dwy flynedd o amser ydio beth bynnag so dos na'm point neud gormod o helynt amdan y peth.

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2004 5:33 pm
gan Cwlcymro
Oni'n ddigon lwcus i fod mewn ysgol digon mawr i redeg chweched heb ormod o draffath. Ma na rhyw 180 yn y chwechad a felly mae nhw'n gallu cynnig dewis da o bynciau.
Dim ond 4 oedd yn yn nosbarth Economeg i, a dim ond 3 yn y Gyfraith, a dwi'n meddwl y mod i wedi bod ar fy enill o'i achos.

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2004 10:03 pm
gan Leusa
Cwlcymro a ddywedodd:Oni'n ddigon lwcus i fod mewn ysgol digon mawr i redeg chweched heb ormod o draffath. Ma na rhyw 180 yn y chwechad a felly mae nhw'n gallu cynnig dewis da o bynciau.
Dim ond 4 oedd yn yn nosbarth Economeg i, a dim ond 3 yn y Gyfraith, a dwi'n meddwl y mod i wedi bod ar fy enill o'i achos.


Ar y law arall, ma ysgol ni yn fach iawn, ac yn cynnig mond y pynciau sylfaenol. Mae yna tua 60 yn ein chweched dosbarth ni, a 'dan ni yn gorfod stryglo i gal digon o oriau mewn wythnos i orffen y cyrsiau. ['dw i yn meddwl mai 5 awr yr wythnos y pwnc sydd i fod, mi ydan ni yn cael 3 awr a chydig]. Ond mi ydan ni dal yn llwyddo i gal y canlyniada uchel iawn iawn i gymharu efo ysgolion/colega eraill yn Nghymru, sydd unai yn dangos fod na rhywbeth yn dwr Bala, neu bod addysg chweched dosbarth ysgolion [pe byddai o'n cael ei ddenfyddio yn gall] yn effeithiol uffernol.

PostioPostiwyd: Mer 18 Awst 2004 10:01 pm
gan Awel
dwi mewn coleg dwi'n teimlo fo'r lle'n clici iawn a fod y mwyafrif o bobol yn tueddu i lynu wrth ffrindia ysgol bebynnag. Dwi'n dal tren i'r coleg bob dwrnod ac yn sgil hynny'n cyrraedd y wers gynta'n hwyr (yn ddi-ffael), dwi'n cyradd adra wedyn ryw chwartar wedi 5.
dwi'n meddwl y byswn i di mwynhau aros mewn chweched achos roedd na awyrgylch glos yn y mlwyddyn ysgol i erbyn blwyddyn 10 a dwi'n teimlo bod ysgol eifionydd ar golled diwylliannol yn sgil colli'r chwechad. Dim ond un sdeddfod ysgol gafon ni tra mod i yn yr ysgol; yn ol yr athrawon cyfrifoldeb y chweched oedd trefnu'r mwyafrif o'r sddeddfod ac hebyddyn nw doedd na neb i'w drefnu.
dim ond 2 waith dwi rioed di gweld ein prifathro ni fyd; dim ond i roi row i ni gyd am beidio trefnu profiad gwaith oedd hynny, fedrai'm cwyno am y safon y dysgu na phresenoldeb y darlithwyr (sylwch: darlithwyr nid athrawon!) chwaith.

PostioPostiwyd: Mer 18 Awst 2004 10:26 pm
gan Selador
Ia, ma'r coleg na fela braidd, braf cal gadal y cont lle. Ddoishi'n ail mewn riw gystadlaeaeth sgwennu yn steddfod, a nath y prifathro yrru llythur imi i'm "llongyfarch", a dyma odd o'n ddeud yn gwaelod;

"Dwi'n siwr y gwnei di gytunno bod y coleg wedi cyfrannu rhyw ychydig bach at dy lwyddiant!!!"

I min, be ffwc? italics a bob dim, a 3 o !.

PostioPostiwyd: Mer 18 Awst 2004 10:50 pm
gan Siffrwd Helyg
Nes i aros yn y chweched - yn bennaf achos oedd y Coleg agosaf hanner awr i ffwrdd, a doedd dim pynciau yn gymraeg rili - er, on i ishe gadel achos on i wedi cael digon o ysgol rol tgau.

Er hynny, dwi'n falch mod i 'di aros. Dwi'n teimlo mod i di cael llawer allan o'r 6ed - yn enwedig gweithgareddau allgyrsiol - steddfod, gweithgareddau llys a cael cyfle i arwain y llys (hmm, showoff!), helpu datblygu y defnydd o'r gymraeg 'da aelodau ieunga'r ysgol, helpu gyda darllen plant ifanca'r ysgol ayyb. - pethe fydden i falle ddim wedi gwneud fel arall. Ma' tua 200 yn ein chweched ni - ac yn enwedig flwyddyn yma - mae wedi bod yn flwyddyn glos iawn. Mae'r athrawon wedi bod yn gret hefyd (wel, heblaw am rai :drwg: ) - ma perthynas clos rhwng yr athrawon a disgyblion y 6ed. Felly, canlyniad hyn oll yw.... Coleg 6ed dosbarth oedd y dewis cywir i mi - bendant!

PostioPostiwyd: Mer 18 Awst 2004 11:04 pm
gan garynysmon
Siffrwd Helyg a ddywedodd:Er hynny, dwi'n falch mod i 'di aros. Dwi'n teimlo mod i di cael llawer allan o'r 6ed - yn enwedig gweithgareddau allgyrsiol - steddfod, gweithgareddau llys a cael cyfle i arwain y llys (hmm, showoff!), helpu datblygu y defnydd o'r gymraeg 'da aelodau ieunga'r ysgol, helpu gyda darllen plant ifanca'r ysgol ayyb. - pethe fydden i falle ddim wedi gwneud fel arall.


Hmmm, dyna be roth fi i ffwrdd o aros yn y chweched i fod yn onest. Ddim yn teimlo mod i'n da i ddim fel 'role model' i blant ieuengaf yr Ysgol. Er, wedi dweud hynny, mae'n swnio i mi fel fod system chweched Ysgol Bro Myrddin, yn lawer iawn mwy aeddfed ac agosach at yr Athrawon, na un Bodedern. Dwi'n cael yr argraff mai'r unig wahaniaeth rhwng hogia Form 5, a rhai Chweched Dosbarth yr Ysgol, ydi fod y wisg yn wahanol, a fod chi'n cael sdwffio i flaen y ciw cinio. :? Yn sicr fuasech chi ddim yn gweld y Chweched yn cymysgu gyda athrawon tu allan i'r ysgol, na'n helpu y plant arall mewn unrhyw ffordd amlwg iawn.
Er, wedi dweud hynny, dwi'n difaru'n enaid peidio aros yn yr ysgol. Mae Tech yn shit blantos, beth bynnag be mae neb yn ei ddweud.

PostioPostiwyd: Maw 07 Medi 2004 10:42 pm
gan llyrgd
Es i i'r Chweched a'i gael yn gyfnod arbennig o dda gyda lot fawr o gyfleon o fewn i helpu'r ysgol ei hun, ond dim cefnogaeth i unrhyw ddiddordebau y tu allan i'r ysgol. Rodd hi'n iawn i ddisgyblion y chweched dreulio amser rhydd yn trefnu steddfod yr ysgol, swogio ayb, ond eto pan oeddwn i am wneud rhyw beth i ennill profiad ymarferol a fyddai wedi bod yn gyfle i mi ganfod fy hun a phenderfynu ar yrfa posib, dodd yr ysgol ddim yn fodlon fy rhyddhau!! Mên te!!

Ond eto, coleg mor amhersonol, o leia'n yr ysgol (boed yn dda neu'n ddrwg i'r unigolyn!!) ma athrawon yn eich cwrso am waith ayb, ac yno i gynnig cefnogaeth.

PostioPostiwyd: Gwe 10 Medi 2004 10:24 am
gan Llety Clyd
Siffrwd Helyg a ddywedodd:Er hynny, dwi'n falch mod i 'di aros. Dwi'n teimlo mod i di cael llawer allan o'r 6ed - yn enwedig gweithgareddau allgyrsiol - steddfod, gweithgareddau llys a cael cyfle i arwain y llys (hmm, showoff!), helpu datblygu y defnydd o'r gymraeg 'da aelodau ieunga'r ysgol, helpu gyda darllen plant ifanca'r ysgol ayyb. - pethe fydden i falle ddim wedi gwneud fel arall.


Nes i ystyried mynd i goleg chweched dosbarth ond dwi mor falch i fi aros yn yr ysgol. Mae'r chweched dosbarth yn wahanol iawn i'r pumed. A dwi'n cytuno gyda Siffrwd Helyg - mae'r chweched yn rhoi profiadau da sy'n codi hyder rhywun. Dwi ddim yn credu bod mynd i goleg chweched dosbarth a 'chwrdd â phobl o bob math' yn ehangu gorwelion rhywun cymaint â chymryd cyfrifoldeb a bod yn rhywun mae plant iau wirioneddol yn eu dilyn.