Chweched dosbarth v coleg trydyddol

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth sydd orau ar gyfer addysg bellach?

Chweched dosbarth mewn ysgol
30
86%
Coleg trydyddol
5
14%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 35

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Maw 05 Hyd 2004 2:47 pm

Dwi'n gryf o blaid chweched dosbarth mewn ysgol. Nid yn unig er mwyn yr aelodau hynny sydd yn y chweched ond er mwyn gweddill yr ysgol hefyd. Mae cael presenoldeb y chweched yn yr ysgol yn rhoi rhywbeth i form 1 edych fyny arno ac i beidio neud form 5 yn rhy cioci!!!! O ddifrif, mae'r chweched yn gyle unigryw, dwi'n nabod pobl sy di cychwyn yn coleg trydyddol a dod yn ol i'r ysgol, dweud y cyfan. Roedd fy 2 flynedd yn y 6ed yn amser hollol ffantastic.
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan Ceidwad y Goleudy » Gwe 05 Tach 2004 2:34 pm

Rhaid cadw dosbarthiadau 6ed dosbarth mewn ysgolion uwchradd. Wrth gwrs mewn ambell sefyllfa efallai byddai'n well ar gyfer addysg rhai disgyblion i fynd i golegau trydyddol ble mae amrediad ehangach o bynciau i'w dewis a'u hastudio ac yn y blaen, ond yn fy marn i, y 6ed dosbarth yw asgwrn cefn ysgol uwchradd. Nes i'm sylweddoli faint o rol sydd gan y 6ed i'w chwarae ym mywyd ysgol pob dydd pob un o'r disgyblion yn yr ysgol nes i mi gyrraedd blwyddyn 12. A minnau erbyn hyn ym mhrifysgol Caerdydd, dwi'n diolch i Dduw fy mod wedi manteisio ar y cyfle euraidd o gael bod yn aelod o 6ed dosbarth Ysgol Penweddig (er efallai o ran astudiaethau, byddai wedi bod yn well i mi fynd i goleg trydyddol er mwyn cael astudio gwleidyddiaeth gan taw dyna'r pwnc rwy'n ei astudio yma, pwy a wyr). Ond yn sicr, mae cyfrifoldebau gan y 6ed nad sydd gan weddill yr ysgol. Mae aelodau'r 6ed dosbarth yn annibynnol o weddill yr ysgol o ran disgyblaeth a meddylfryd. Mae llai o 'peer pressure' ar y 6ed ac o ganlyniad mae'n bosibl iddynt fwrw eu boliau a lleisio'u barn ar faterion sydd o bwys i'r ysgol ac i'r disgyblion. Mae'n haws i'r 6ed ddadlau a thim rheoli'r ysgolion er enghraifft ac mae'n haws i aelodau'r blynyddoedd iau siarad a'r 6ed am unrhyw broblemau nag ydyw hi i siarad a'r athrawon am yr un problemau. Mae'r 6ed felly'n bont allweddol rhwng y 'plant' a'r athrawon. Yng Nghymru mae'r cyfrifoldeb ychwanegol gan y 6ed o geisio sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei pharchu a'i defnyddio ar goridorau'r ysgolion. Mae'n bosibl fod y blant yn gwrando mwy ar y 6ed gan eu bod yn gallu uniaethu'n well a hwy nag a athrawon mwy dieithr a phell. Dyna pam mae'n rhaid i'r 6ed dosbarth aros yn ganolbwynt i fywyd addysg uwchradd.
Gwinllan a roddwyd i'm gofal.
Ceidwad y Goleudy
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Sul 18 Ion 2004 9:44 pm

Postiogan Ceidwad y Goleudy » Gwe 05 Tach 2004 2:35 pm

Oes unrhyw un yn gwybod sut mae dileu neges yr ydych chi wedi ei anfon?
Gwinllan a roddwyd i'm gofal.
Ceidwad y Goleudy
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Sul 18 Ion 2004 9:44 pm

Postiogan Ceidwad y Goleudy » Gwe 05 Tach 2004 2:46 pm

Postiogan Llefenni » Gwe 05 Tach 2004 3:30 pm

Wel, wedi'r triphost mawr yna fyddai'n fyr :D
Es i i Fro Ddyfi, 'doedd ond 8 yn fy mlwyddyn i erbyn 6II - a cefais 1-on-1 yn fy nosbarth Saesneg, oedd yn hollol random a byth am ddigwydd eto, ond yn wych - roedd dim mwy na 5 yn yr holl ddosbarthiade'.
Oedd y teimlad o fod yn y chweched (combined, tua 20 o ddisgyblion) yn wych - roedd y parch oeddech chi'n cael fel yr hyna' yn yr ysgol yn eich annog i brofi'ch hunan.
Oeddwn i yna cyn ffriggin' AS hefyd - sef y peth mwya' gwirion i ddigwydd i addysg uwch yn y wlad ma :drwg: :drwg: .
Oedd sdeddfodau ysgol yn laff, oedden ni'n cael yn annog i helpu'r disgyblion iau hefyd - roedd system Mentorio genno ni oedd yn dda iddyn ni ac iddyn nhw.

Vive La Chweched!
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Cawslyd » Mer 29 Rhag 2004 12:04 am

Awel a ddywedodd:dwi'n meddwl y byswn i di mwynhau aros mewn chweched achos roedd na awyrgylch glos yn y mlwyddyn ysgol i erbyn blwyddyn 10 a dwi'n teimlo bod ysgol eifionydd ar golled diwylliannol yn sgil colli'r chwechad. Dim ond un sdeddfod ysgol gafon ni tra mod i yn yr ysgol; yn ol yr athrawon cyfrifoldeb y chweched oedd trefnu'r mwyafrif o'r sddeddfod ac hebyddyn nw doedd na neb i'w drefnu.

Colled diwylliannol? Mae'r ysgol mor gachlyd doedd 'na'm byd i'w golli yn y lle cynta! :winc:
Da ni heb gael Steddod Ysgol ers i'ch blwyddyn chi adael chwaith. :crio:
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron