Postiwyd: Maw 05 Hyd 2004 2:47 pm
Dwi'n gryf o blaid chweched dosbarth mewn ysgol. Nid yn unig er mwyn yr aelodau hynny sydd yn y chweched ond er mwyn gweddill yr ysgol hefyd. Mae cael presenoldeb y chweched yn yr ysgol yn rhoi rhywbeth i form 1 edych fyny arno ac i beidio neud form 5 yn rhy cioci!!!! O ddifrif, mae'r chweched yn gyle unigryw, dwi'n nabod pobl sy di cychwyn yn coleg trydyddol a dod yn ol i'r ysgol, dweud y cyfan. Roedd fy 2 flynedd yn y 6ed yn amser hollol ffantastic.