gan Clarice » Llun 26 Ebr 2004 1:56 pm
Yn bersonol wy'n credu bod na rywbeth sinistr mewn cymdeithas lle ma hi'n gwbl dderbyniol i ragfarnu yn erbyn un dosbarth o bobol, a lle bod datganiadau ysgubol fel "dy'n nhw ddim yn gweithio" neu "dy'n nhw ddim yn trio gwella'u hunain" yn cael eu derbyn yn ddigwestiwn. A hyn dim ond trwy edrych ar gasgliad sy'n dangos criw o ddynion ifanc yn gwisgo fel ma dynion ifanc yn dueddol o neud. Shwt ddiawl chi'n gwbod unrhywbeth am yr unigolion yma?
Fyddech chi yr un mor barod i chwerthin tase'r llunie'n dangos pobol o leiafrifoedd ethnig? Neu tase rhyw Sais rhagfarnllyd yn mynd rownd Cymru yn tynnu llunie o hambons i borthi'u rhagfarne nhw? Wy'n byw mewn rhan o Gaerdydd lle ma lot o bobol yn gwisgo fel y bobol yn y llunie yma. Ma'r syniad bod rhyw dwat snobyddlyd yn mynd rownd yn tynnu'u llunie nhw fel circus freaks yn troi fy stumog i.
Sa i'n ame nad oes na ddynion ifanc (a menwod) sy'n ymosod ar bobol heb ishe, neu sy'n ddiog, neu hyd yn oed (shock horror) gyda diffyg chwaeth mewn dillad. Ond wy dal yn meddwl bod na rywbeth sinistr mewn tynnu llunie o bobol gyffredin ar y stryd a'u gosod nhw fel diddanwch i'r dosbarth canol smug.