Clarice a ddywedodd:Falle na i fynd rownd Pontcanna heno yn tynnu llunie o bobol dwatlyd meddw yn rowlio mas o'r Cameo ac yn piwco mewn tacsis a chreu safle gwe o'r enw "Crachscum" a llenwi fe gyda straeon am bobol ariannog sy'n niwsans cymdeithasol a sy' bron â crasho mewn i fi yn eu BMW's.
mi fyswn i'n darllen hwn , yn chwerthin a beryg yn cyfranu (neu ymddangos de!) - Dwi ddim yn gwybod be di'r broblem , mi ydan ni'n dueddol o farnu pawb , ffermwyr, cyfryngis, chavs, snobs, y sun glasses on the head brigade, cyfieithwyr, pobl sy'n gyrru ceir mawr ayyb, a dweud y gwir beirniadaeth a thrafodaeth ydi sail 90% o maes - e , mae'n rhaid i bobl beidio a bod mor croen dennau , a sylwi bod ambell i dafod yn sownd yn y foch!
Mi ydan ni'n naturiol yn beirniadui pawb a phopeth o'm cwmpas, ond mae o'n mynd dan yng nghroen i pan mae hi'n iawn i feirniadu pethau/pobl ond bod chi'n cael ymosodiad y munud yr ydych yn beirniadu rhywun o'r is-ddosbarth ' ti ddim yn ei nabod nhw' 'ti'n gor symleiddio' - tyfwch fyny dyna be 'da ni'n neud i bawb.