Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 9:40 am
gan Llewelyn Richards
Hei Dan - synnu nad oeddet ti yno. Diar diar, oedd o'n gwneud i'r Osgars edrych yn soffistigedig. Stuart Cable - pwy wnaeth ei gynnig? Sac, plis. Amanda, wps dwi newydd gerdded allan o'r ffilm porn dwi wrthi'n ffilmio. Cymru ar ei gorau.

Ti'n gweld Clarice - haha sbeitio pobl gyfoethog diglem di hyn.
Mae'n gweithio'r ddwy ffordd fel ti'n dweud ac mae gen i hawl i wneud y naill fel y llall.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 10:11 am
gan DAN JERUS
I fod yn onest, sw ni'n cerdded adref yn hwyr yn y nos a gweld praidd o chavs ar feics (ac yn edrych fel eu bod wedi dengyg o ynys Caldey yn yr hoods sinistr 'na sydd ganddynt) yn hongian o amgylch bus stops, rhagfarn pur sy'n gwneud imi fod yn wiliadwrus, ond yr un rhagfarn sy'n mynd i stopio rhywun rhag gael crasfa gan ambell i giang, ia ddim? (dwi'n adnabod pobl sydd wedi cael amser drwg iawn yn nwylo'r ffycars 'ma) Dwi'n cytuno i rhyw raddau fod y gwefannau chavaidd yn mynd braidd yn rhy bell achos ti'n cyffredinoli trawsdoriad o fobl y wlad ac mae cymaint o hynny'n deillio o dlodi/problemau cymdeithasol cyffredinol/diffyg gallu tyfu mwstach (arghhh sori!) .Na o ni'm yno Llywelyn, o ni hefo dy fam eto.Odd gennai vouchers Peackocks oedd hi'n hapus i dderbyn, ymysg pethau eraill... :winc:

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 10:44 am
gan Llewelyn Richards
Defnyddiol iawn di vouchers Peacocks bob amser. Tyrd tro nesaf mewn trowsus tri chwarter a siaced tweed fel dy dad a gei di forfil o amser...

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 10:50 am
gan DAN JERUS
:lol: :lol: :lol: falla 'nai,mae dad yn gofyn gyda llaw os ydi hi'n dal i dderbyn vouchers Dewhurst hefyd, ta dim ond cig yn gyffredinnol?

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 11:00 am
gan Llewelyn Richards
Salty frankfurters.

Sori, nol i'r is-ddosbarth.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 1:34 pm
gan Cwlcymro
Falle na i fynd rownd Pontcanna heno yn tynnu llunie o bobol dwatlyd meddw yn rowlio mas o'r Cameo ac yn piwco mewn tacsis a chreu safle gwe o'r enw "Crachscum" a llenwi fe gyda straeon am bobol ariannog sy'n niwsans cymdeithasol a sy' bron â crasho mewn i fi yn eu BMW's


Swnio'n gret, tisho menthyg camera?

Clarice, tud draw i Gaernarfon rhyw nos wenar a dos i isda ar ben dy hun ar un o'r meincia o flaen Post ar y Maes. Arhosa yn fanna mor hir a elli di, a wedyn tud nol i maes-e i gymeryd piss o scallies efo ni!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 1:56 pm
gan Clarice
Cwlcymro a ddywedodd:
Clarice, tud draw i Gaernarfon rhyw nos wenar a dos i isda ar ben dy hun ar un o'r meincia o flaen Post ar y Maes. Arhosa yn fanna mor hir a elli di, a wedyn tud nol i maes-e i gymeryd piss o scallies efo ni!


Ie gret, bydd e'n addysg, achos fel fi 'di dweud yn barod, does na neb fel 'na o gwmpas Caerdydd. :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:01 pm
gan mam y mwnci
Clarice a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:
Clarice, tud draw i Gaernarfon rhyw nos wenar a dos i isda ar ben dy hun ar un o'r meincia o flaen Post ar y Maes. Arhosa yn fanna mor hir a elli di, a wedyn tud nol i maes-e i gymeryd piss o scallies efo ni!


Ie gret, bydd e'n addysg, achos fel fi 'di dweud yn barod, does na neb fel 'na o gwmpas Caerdydd. :rolio:


fel mae'n digwydd ges ing ngeni am magu yng Nghaerdydd ac dwi di bod yn byw yng nghaernarfon ers 5 mlynedd bellach , ac mae'r broblem yn llawer mwy amlwg yng nghaernarfon. felly sdim ishe trio bod yn glyfar a nawddoglyd, fel yr hen bobl dinas 'ma (wps beirniadu eto! :winc: )

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:02 pm
gan Cwlcymro
Dwi'n byw yn Gaerdydd ar y funud hefyd Clarice (er, man rhaid cyfadda dydi Cathays ddim yn Splott!) a dwi del heb weld run scallie mor dda a rheini sgena ni adra. Elli di ddim curo scallies Caernarfon, dyna pam fod y Byd ar Bedwar (WAW!! :P) wedi cal Guardian Angel o America i ddod draw i smalio fod o'n agor pennod (Chapter? :?) yna!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:05 pm
gan Clarice
Wel wy YN byw yn Sblot. Dere di draw ryw noson a na i ddangos i ti bod y "scallies" ddim mor wael â hynny. :winc: