Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:08 pm
gan mam y mwnci
DWI'M YN DALLT! mae Clarice yn flin bod bobl yn cyffredinoli a dweud bod scallies yn ddrg ac yn a mae hi'n bod yr un mor gyffredinol yn deud nad ydyn nhw mor ddrwg a hynna??? :?

Onid y ddadl yw dylid ddim cyffredinoli a dyna fo?@??

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:10 pm
gan Cwlcymro
god knows, dwi'n conffiwsd fy hun wan! Ai dadla fod scallis yn gonts annoying, ta dadla fod dre yn waeth na Gaerdydd dwi?

Wincio

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:11 pm
gan Clarice
Falle bo ti heb sylwi ar y :winc: ar ddiwedd fy neges. :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:19 pm
gan mam y mwnci
Cwlcymro a ddywedodd:god knows, dwi'n conffiwsd fy hun wan! Ai dadla fod scallis yn gonts annoying, ta dadla fod dre yn waeth na Gaerdydd dwi?


dwn i'm , ond beryg mai'r cyntaf, achos does dim dadl pan mae'n dod i scallies caerdyddV caernarfon - jesus mae scallies yn ddigon scary , ond scallys sy'n siarad cymraeg :o :ofn: :ofn:

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:42 pm
gan Dylan
Ond o leia' os ti'n cael dy fygio gan scalis Dre', ti'n cael dy fygio drwy gyfrwng y Gymraeg. Delwedd

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:51 pm
gan mam y mwnci
Dylan a ddywedodd:Ond o leia' os ti'n cael dy fygio gan scalis Dre', ti'n cael dy fygio drwy gyfrwng y Gymraeg. Delwedd

Gwir "gwnewch BOPETH yn gymraeg!" :winc:
OND
fel un o gaerdydd ble roedd y rhanfwyaf o bobl oeddd yn siarad cymraeg yn ddosbarth cannol (neb i ddechrau gweiddi , dwi'n mynd nol dipyn) mi oedd y iaith gymraeg yn rhyw fath o arwydd o ddiogelwch , ond yng nghaernarfon tydi hyna ddim yn wir. Mae o'n rili dychrynklyd i gerdded lawr stryd llyn ac o flaen y post i spar, yn y nos :o

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 3:01 pm
gan garynysmon
Allai'm coelio fod neb yn dweud fod Scallies 'ddim yn ddrwg'. Pam uffar dan ni'n galw nhw yn scallies yn y lle cyntaf!!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 3:07 pm
gan S.W.
Dwi wedi byw yng Nghaernarfon ers mis a rhaid i fi ddedu mae nhw mewn cyngrair hollol gwahanol yng Nnghaernarfon. Oeddwn in cerdded trwy'r Maes gyda fy nghariad ar Nos Sadwrn gwyl banc diwethaf, a roedd ne griw o scallies yn reidio rownd mewn cylchoedd gyda un oedd tua 9oed yn gofyn i bawb am bunt - diawl di gwilydd. Pan nes i ddeud na nath o trio 'sgidio' beic o flaen traed fi gan neud y sound effects yn lle'r 'scid' go iawn. Hysterical ond scary!Dim yn siwr i chwerthin neu rhoi'r £1 iddo am ei ymdrech.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 4:09 pm
gan RET79
bosib fod chi heb brofiadu scallies caerdydd gan eich bod yn byw mewn ardaloedd stiwdants

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 4:19 pm
gan Meic P
ma caernarfon yn uffernol ers ychydig flynyddoedd bellach.

mae'r sioc o bosib yn waeth i'r pobol sy'n symyd i mewn i'r dre.

fel un aeth i Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon dwi'n nabod yr enwau/gwynebau ac o bosib wedi arfer hefo rhein rownd y dre ond ma dal yn cwestynnu os ti'n saff pan yn nol pres o HSBC ar y Maes ar ben dy hyn!