Tudalen 1 o 5

Gwladgarwch; Peth da ta drwg?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 12:20 am
gan Macsen
Ar yr un llaw mae'n uno pobl y wlad, ond ar y llaw arall mae'n creu pellter rhyngddon ni a gweddill y byd. Mae'r nifer o ryfeloedd sy' wedi ei cychwyn dros ddarnau o fabric a llinellau yn y tywod yn hurt, yn fy marn i.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 8:06 am
gan S.W.
Dim byd o'i le gyda gwladgarwch cyn belled nad ydy on mynd mor bell a bychanu gweldydd a thraddodiadau eraill. Dwin gwladgarol am Gymru, ond dydw i ddim felly yn meddwl bod Cymru'n well na phob gwlad arall yn y byd, maen well geni feddwl am Gymru fel gwlad sydd a cryfderau a gwendidau fel pob gwlad arall.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 8:58 am
gan Dielw
Dwi ddim yn meddwl bod gwladgarwch yn golygu creu pellter rhyngddom ni a gwledydd eraill. Er enghraifft ma Gwyddelod yn wladgarol iawn ond yn groesawgar ar y cyfan.

Y prif beth sy'n creu pellter ydi pres, neu yn benodol gwahaniaethau mewn cyfoeth.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 10:02 am
gan DAN JERUS
Ond mae pob gwlad yn wahannol ddo, wrth gwrs.Yng Nghymru, mae gymaint o fygythiadau i'n diwylliant (iaith ayb) yn allanol, a chymaint o dyndra mewnol rhwng y Cymraeg/Di-gymraeg-fel ei fod o'n ein gwneud ni fel cenedl gyfan braidd yn ansicr ohonom ni'n hunain.Da ni i weld yn genedl sy'n wladgarol iawn ond am resymau gwahannol.Ond pam mae gwladgarwch yn cael ei droi'n gasineb tuag at wledydd eraill, neu pam mae pobl yn ymddwyn yn ffiaidd yn enw eu gwlad (fel sy'n digwydd rownd y byd am wn i :? )Mae pobl sydd ddim y cytuno hefo'r gweithredoedd hyn yn troi'n ddirmygus o'r rhai sydd yn.Sy'n ychwannegu at y tyndra.Dwi'n gwneud synwyr? :?

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 10:07 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mae hyn yn fy atgoffa i o Hamlet:

Rightly to be great
Is not to stir without great argument,
But greatly to find quarrel in a straw
When honour's at the stake.


Pan mae Fortinbras yn teithio i gipio darn bychan o Wlad Pwyl, nid er mwyn unrhyw fantais strategol, neu elw ariannol, ond er mwyn cael rhyw fath o ymffrost, er mwyn cael enw da.

Mae 'gwladgarwch' yn rhy aml yn cael ei osod yn yr un cyd-destun a Natsiaeth, h.y. eich bod chi'n ymfalchio yn eich gwlad gymaint eich bod chi am wneud pob gwlad yr un peth a chi, sydd wrth reswm yn hollol amhosibl (noder, America). Nid yw gwladgarwch yn beth gwael os y'ch chi'n fodlon ymfalchio yn eich gwlad a bod yn hapus a hynny.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 11:18 am
gan Bol Cwrw
Wrth gwrs ei fod o'n beth da, heb wladgarwch sa'n beryg sa Cymru wedi troi'n western england. Mae pob gwlad war sydd a'i sofraniaeth yn wladgarwyr, diffyg cariad at wlad sydd yn pydru Cymru. Tydi'r ffaith fod rhywun yn glynnu at briod wlad ddim yn creu pellter rhwng un gwlad a'r llall, gwahanol olwg sgen bobl y gwledydd hynny at y byd. Fe allwch chi gymharu a chyferbynnu nifer o nodweddion gwledydd tan sul y pys, a ffindio fod na betha tebyg a phethau hollol wahanol bob tro.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 12:01 pm
gan eusebio
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Mae hyn yn fy atgoffa i o Hamlet.


Iesu, dyna posh ;)

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 12:36 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
eusebio a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Mae hyn yn fy atgoffa i o Hamlet.


Iesu, dyna posh ;)


Aye, ond mae popeth yn fy atgoffa i o Hamlet. Mae'r boi llaeth yn edrych fel Polonius, y gyrrwr bws fel Laertes, y fenyw yn y cantin fel Ophelia...

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 2:13 pm
gan Dylan
'Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwahaniaethu rhwng 'gwladgarwch' lleiafrifol a gwladgarwch mewn gwledydd pwerus.

wnes i ddechrau edefyn tebyg haf diwethaf. viewtopic.php?t=1985&highlight=gwladgarwch+cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 2:41 pm
gan Bol Cwrw
Dylan a ddywedodd:'Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwahaniaethu rhwng 'gwladgarwch' lleiafrifol a gwladgarwch mewn gwledydd pwerus.


Dw i'n cytuno efo hyn hefyd.