Dwim yn siwr os dwin deallt hyn yn iawn. Maddeuwch fi os dwi di camddallt hwn ond:
Be sydd o'i le gyda person sydd wedi byw yn Efrog Newydd neu Los Angeles mewn bod yn wladgarwr o'r Unol Daleithiau? Oes gwahaniaeth rhwng hynny a chi neu fi yn teimlo fel hyn thuag at Gymru. Cyn belled bod person yn gallu parchu gwledydd eraill, a'u bod nhw yn y bôn yr un peth does dim gwahaniaeth os ydych yn gwladgaru yr Unol Daleithiau, Rwsioa neu Mongolia (neu Cymru wrth reswm).