Newt Gingrich a ddywedodd:Hedd Gwynfor a ddywedodd:Newt Gingrich a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:'Dw i ddim yn gweld pam y dyla unrhyw un fod yn falch o'r ffaith eu bod, digwydd bod, wedi cael eu geni ar rhyw ddarn o dir o fewn ryw ffiniau mympwyol pennodol.
Dwi'n anghytuno. Dwi'n HYNOD falch fy mod yn Gymro ac wedi fy ngeni yng Ngogledd Cymru - tydi hyn ddim yn gyfystyr ac unrhyw agwedd siofanistaidd, dim ond balchder yn y gymuned sydd wedi bod yn gartref i mi a'r ardal ddaearyddol sydd wedi bod yn gefndir i'm bywyd hyd yma.
alu am fwyd i'w plan
Ac felly Newt ti'n dewis byw yn?
A be'n union di dy bwynt? Yw byw yn yr EU yn bradychu Cymru fach? Beth am y Cymry hynny sy'n gadael i gael gwaith - bradwyr Hedd?
Dim pawb sy'n ddosbarth canol cyfforddus fel chdi heb angen talu am lety a bwyd i blant. Beth am y canoedd os nad miloedd swy'n gadael y 'fro' er mwyn cael gwaith - ti'n bwriadau rhoi sylwadau cyfatebol iddynt hwy hefyd?
Wnes i ddim son am fradychu. Teimlo yr oeddwng i os wyt ti MOR falch o dy gymuned, pam wnes di dewis gadael? Am resymau economaidd, diwylliannol?
Fi ddim yn deall dy ail bwynt - dosbarth canol? O be di'n cofio ers fy nyddie ysgola Chymdeithaseg, mae dosbarth yn cael ei benderfynnu yn ddibynol ar eich swydd, dwi'n amau os yw fy swydd i yn un dosbarth canol.
Heb angen talu am lety? Oherwydd y cyflog bach sy'n cael ei gynnig yn Sir Gar, a gan fy mod am aros yn y sir, dim ond ty gwerth £40,000 oddwn yn gallu fforddio. Felly fe brynnais hen dy Cyngor (a oedd yn cwympo yn ddarnau) am £35,000 ym Mhontyberem.
Bwyd i Blant - na does gen i ddim y broblem yma - dim plant eto!
Mae'r sefyllfa yn y Fro yn un anodd iawn. Ond wi'n siwr bydde pobl fel ti Newt gyda ychydig ymdrech a chyflog ychydig yn llai yn GALLU byw yn dy gymuned. I eraill, does dim dewis ond gadael yn anffodus. Dyma'r efyllfa sydd angen newid!