Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 2:48 pm
gan S.W.
Dwim yn siwr os dwin deallt hyn yn iawn. Maddeuwch fi os dwi di camddallt hwn ond:

Be sydd o'i le gyda person sydd wedi byw yn Efrog Newydd neu Los Angeles mewn bod yn wladgarwr o'r Unol Daleithiau? Oes gwahaniaeth rhwng hynny a chi neu fi yn teimlo fel hyn thuag at Gymru. Cyn belled bod person yn gallu parchu gwledydd eraill, a'u bod nhw yn y bôn yr un peth does dim gwahaniaeth os ydych yn gwladgaru yr Unol Daleithiau, Rwsioa neu Mongolia (neu Cymru wrth reswm).

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 3:07 pm
gan Bol Cwrw
S.W. a ddywedodd:Dwim yn siwr os dwin deallt hyn yn iawn. Maddeuwch fi os dwi di camddallt hwn ond:

Be sydd o'i le gyda person sydd wedi byw yn Efrog Newydd neu Los Angeles mewn bod yn wladgarwr o'r Unol Daleithiau? Oes gwahaniaeth rhwng hynny a chi neu fi yn teimlo fel hyn thuag at Gymru. Cyn belled bod person yn gallu parchu gwledydd eraill, a'u bod nhw yn y bôn yr un peth does dim gwahaniaeth os ydych yn gwladgaru yr Unol Daleithiau, Rwsioa neu Mongolia (neu Cymru wrth reswm).


Na dim o gwbl o'i le ar hynny. Cyfeirio at y mentality "you dont have to learn a foreign language, you just have to shout louder in english" ydw i gan gyfeirio at Loegr a'i grym diwylliannol enfawr sydd ar y byd, a bod gwladgarwch rhai pobl yn wladgarwch sydd yn fodlon troedio a'r wladgarwch a diwylliannau lleiafrifol.Whai dont ddei spic inglish eniwei, it wd bi isiyr ffor ys ol. Os oes parch does na ddim o'i le ar wladgarwch'r un gwlad.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 3:12 pm
gan S.W.
O hynny'n ddigon teg te.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 3:32 pm
gan Dwlwen
Bol Cwrw a ddywedodd:Na dim o gwbl o'i le ar hynny. Cyfeirio at y mentality "you dont have to learn a foreign language, you just have to shout louder in english" ydw i gan gyfeirio at Loegr a'i grym diwylliannol enfawr sydd ar y byd, a bod gwladgarwch rhai pobl yn wladgarwch sydd yn fodlon troedio a'r wladgarwch a diwylliannau lleiafrifol.Whai dont ddei spic inglish eniwei, it wd bi isiyr ffor ys ol. Os oes parch does na ddim o'i le ar wladgarwch'r un gwlad.


Fydden i ddim yn cyfri'r fath yma o feddylfryd fel gwladgarch. Mae fwy fel colonialism... Ma angen 'neud y termau'n fwy eglur, ond fi methu

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2004 5:41 pm
gan Cwlcymro
Yn hollol, does na ddim yn bod efo gwladgarwch, mi ddylsa pawb fod yn falch o'i gwlad. Ond pan da chi'n dechra meddwl fod eich gwlad chi'n well na gwledydd eraill, dim gwladgarwch ydi hunna wedyn ond......rwbath arall!

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 10:41 am
gan Dylan
Cwlcymro a ddywedodd:mi ddylsa pawb fod yn falch o'i gwlad.


pam?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 11:38 am
gan Bol Cwrw
Dwlwen a ddywedodd:
Bol Cwrw a ddywedodd:Na dim o gwbl o'i le ar hynny. Cyfeirio at y mentality "you dont have to learn a foreign language, you just have to shout louder in english" ydw i gan gyfeirio at Loegr a'i grym diwylliannol enfawr sydd ar y byd, a bod gwladgarwch rhai pobl yn wladgarwch sydd yn fodlon troedio a'r wladgarwch a diwylliannau lleiafrifol.Whai dont ddei spic inglish eniwei, it wd bi isiyr ffor ys ol. Os oes parch does na ddim o'i le ar wladgarwch'r un gwlad.


Fydden i ddim yn cyfri'r fath yma o feddylfryd fel gwladgarch. Mae fwy fel colonialism... Ma angen 'neud y termau'n fwy eglur, ond fi methu


Ia ma siwr mai imperialaeth a choloneiddio ydy'r term am y disgrifiad uchod, ond ma rhaid cofio fod yr agwedd yma yn ran o wladgarwch rhai gwledydd.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 12:15 pm
gan Cwlcymro
Pam ddim? Does dim rhaid i chdi fod yn falch o dy lywodraeth dwi'n cytuno, a mewn rhei llefydd, ella ma dy ran di o'r wlad ti'n falch ohono (fatha fysa rhei pobl yn deud yda ni o fewn Prydain)

Ond ma gan pob gwlad rhywbeth i fod yn falch ynddo, a mai'n drist iawn arna chdi os ti'n casau popeth am dy fam-wlad.

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 4:50 pm
gan Dylan
'Dw i ddim yn gweld pam y dyla unrhyw un fod yn falch o'r ffaith eu bod, digwydd bod, wedi cael eu geni ar rhyw ddarn o dir o fewn ryw ffiniau mympwyol pennodol.

Re: Gwladgarwch; Peth da ta drwg?

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 5:52 pm
gan RET79
Macsen a ddywedodd:Ar yr un llaw mae'n uno pobl y wlad, ond ar y llaw arall mae'n creu pellter rhyngddon ni a gweddill y byd. Mae'r nifer o ryfeloedd sy' wedi ei cychwyn dros ddarnau o fabric a llinellau yn y tywod yn hurt, yn fy marn i.


Dwi'n meddwl fod y farn yma'n dangos ti i fod allan o gysylltiad bron yn llwyr hefo realiti.